2001 Rhif 1153 (Cy.60)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro) (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 9(1) ac (8) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19901 a phob pwer arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw, ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, gyda chydsyniad y Trysorlys3, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro) (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 31 Mawrth 2001.

2

Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol2

Cyfalaf cychwynnol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro fydd Cant naw deg pedwar miliwng, cant pedwar deg dau o filoedd o bunnoedd (£194,142,000).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

D. Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

Cydsyniwn,

Greg PopeJim DowdDau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Gorchymyn hwn yn penderfynu swm cyfalaf cychwynnol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990, sef cyfalaf cychwynnol y darperir ar ei gyfer yn adran 9 o'r Ddeddf honno.