Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Cafodd Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 (“y prif Reoliadau”) eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Chwefror 2001.

Esboniodd Rheoliad 15 o'r prif Reoliadau nad yw'r “Rheoliadau hyn yn gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir mewn un neu fwy o'r canlynol, sef Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Chymru.”

Mae'r Rheoliadau presennol yn ymdrin yn awr â chymhwyso'r prif Reoliadau at “ddaliadau trawsffiniol”.

Mae'r prif Reoliadau yn gymwys i ddaliadau o'r fath ac eithrio i'r graddau y mae y rheoliadau hyn yn amrywio ar sut y maent yn gymwys.

Mae darpariaethau tebyg mewn perthynas â daliadau trawsffiniol wedi'u cynnwys mewn rheoliadau sydd wedi'u gwneud yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Achubwyd ar y cyfle i wneud yn eglur dau bwynt mewn perthynas â'r prif Reoliadau:—

(a)Yn rheoliad 9 rhoddir dyddiad cau, sef 31 Mawrth 2001, ar gyfer cyflwyno ceisiadau a thystiolaeth ategol i ganiatáu cyfrifo taliadau chwyddo Elfen 2 a'u talu i'r ceiswyr mewn perthynas â'r cynllun am 2001.

(b)Mae rheoliad 10 yn cadarnhau y gall taliadau Tir Mynydd gael eu talu i geiswyr a gafodd Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel am 2000 hyd yn oed os nad ydynt wedi gwneud cais am gymorth da byw mewn perthynas â defaid neu fuchod sugno neu'r ddau yn ystod y flwyddyn y cyflwynir y cais Tir Mynydd. Bydd yn dal yn angenrheidiol bodloni gofynion stocio Tir Mynydd.