Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2001.

(2)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio o adran 20 o Ddeddf Aer Glân 19932.

Mae'r dosbarthiadau o leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemtio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sydd yn gwahardd gollyngiadau mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 2.
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol