- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Os bydd person yn methu â thalu unrhyw swm y cyfeirir ato yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf(1), caiff yr awdurdod cyfrifol gyflwyno hysbysiad cosb yn ei gwneud yn ofynnol, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod yn dechrau ar ddyddiad anfon yr hysbysiad cosb, i'r person dalu'r swm hwn i'r awdurdod cyfrifol ynghyd â thâl cosb y penderfynir arno yn unol â rheoliad 3.
(2) Rhaid i hysbysiad cosb gael ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.
(3) Rhaid i'r hysbysiad cosb ddatgan—
(a)enw'r person sy'n agored i dalu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu o dan yr hysbysiad cosb;
(b)y swm sydd i'w adennill fel y'i crybwyllir yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf;
(c)swm y tâl cosb, wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 3 a'r nwyddau neu'r gwasanaethau y mae'r swm hwnnw'n gysylltiedig â hwy;
(ch)swm y symiau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (b) ac (c), sef y cyfanswm y mae'n ofynnol ei dalu o dan yr hysbysiad cosb;
(d)mewn perthynas â'r cyfanswm y mae'n ofynnol ei dalu o dan yr hysbysiad cosb—
(i)yr awdurdod cyfrifol y mae'n rhaid talu'r swm hwnnw iddo,
(ii)y cyfeiriad y mae'n rhaid anfon y swm hwnnw iddo,
(iii)y dulliau y gellir eu defnyddio i dalu, a
(iv)yn unol â pharagraff (1), erbyn pa ddyddiad y mae'n ofynnol i'r person dalu'r swm hwnnw i'r awdurdod cyfrifol;
(dd)os yw'r person yn methu â thalu'r swm y mae'n ofynnol i'r person hwnnw ei dalu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad cosb—
(i)y bydd yn rhaid i'r person dalu gordal i'r awdurdod cyfrifol hefyd, a
(ii)swm y gordal y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei dalu, wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 4(2); ac
(e)nad yw person, oherwydd hysbysiad cosb, yn agored—
(i)i dalu, ar unrhyw adeg, gymaint o unrhyw swm y cyfeirir ato yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf y mae'r person hwnnw yn agored i'w dalu ar y cyd ac yn unigol gyda pherson arall ag sydd wedi'i dalu bryd hynny, neu y mae llys wedi gorchymyn iddo gael ei dalu, gan y person arall hwnnw(2), neu
(ii)i dâl cosb, neu ordal, os yw'r person hwnnw'n dangos na weithredodd ar gam, na heb unrhyw ddiffyg gofal, mewn perthynas â'r swm sydd i'w adennill fel y'i crybwyllir yn adran 122B(1)(a) neu (b) o'r Ddeddf(3).
Mae adran 122B yn gymwys i ffioedd a thaliadau a all gael eu hadennill o dan adran 122(1) neu 122A o'r Ddeddf oddi ar berson mewn perthynas â darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau a restrir yn adran 122A(7); mewnosodwyd adran 122A gan adran 39 o Ddeddf 1999. Mae ffioedd o'r fath yn cynnwys ffioedd a all gael eu codi a'u hadennill am driniaeth ddeintyddol a ddarperir yn unol â chynlluniau peilot o dan adran 20 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46); gweler adran 39(3) o Ddeddf 1999.
Gweler adran 122B(7)(a) o'r Ddeddf.
Gweler adran 122B(7)(b) o'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: