xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n gymwys i Gymru yn unig) yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 (O.S. 1998/2095) fel y maent yn gymwys i Gymru. Rhoes y Rheoliadau hynny y darpariaethau sy'n ymwneud â ffioedd am archwilio cig yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar waith ym Mhrydain Fawr, sef Cyfarwyddeb y mae ei thestun diwygiedig a chyfnerthedig wedi'i atodi i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC (OJ Rhif L162, 1.7.96, t.4).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn newid y sail ar gyfer cyfrifo'r ffioedd y mae'r Gyfarwyddeb honno yn ei gwneud yn ofynnol eu codi am archwiliadau hylendid cig yng Nghymru. Mae'r sail ddiwygiedig ar gyfer cyfrifo'r ffioedd hynny yn aros yn gydnaws â Chyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC.