Search Legislation

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 4

ATODLEN 4DANGOSYDDION TAI

Rhif y DangosyddDisgrifiad y dangosyddManylion y dangosydd
Sylwer: At ddibenion dangosyddion perfformiad tai gwerth gorau, diffinnir annedd fel adeilad, neu ran o adeilad sy'n ffurfio mangre ar wahân, neu sy'n lled ar wahân ac yn hunan-gynwysiedig, a ddyluniwyd i'w maeddiannu gan aelwyd sengl.
NAWPI 4.1

Y gyfran o anheddau sector preifat lle mae gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod gwerth gorau wedi golygu:

a)

anheddau an-ffit wedi'u gwneud yn ffit neu wedi'u chwalu

b)

anheddau yn dychwelyd i feddiannaeth yn ystod blwyddyn ariannol pan fuont yn sefyll yn wag am ragor na chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.

(a)

Y nifer o anheddau anffit yn y sector preifat a wnaed yn ffit neu a ddymchwelwyd fesul blwyddyn o ganlyniad uniongyrchol i gamau gan yr awdurdod gwerth gorau wedi'i fynegi fel cyfran o gyfanswm anheddau'r sector preifat y barnwyd eu bod yn anffit gan yr awdurdod. Dylai awdurdod gwerth gorau gynnwys unrhyw annedd a dynnwyd o nifer yr anheddau anaffit yn dilyn camau uniongyrchol gan yr awdurdod gwerth gorau drwy'r canlynol:

  • rhoi grantiau

  • rhoi benthyciadau ac indemniadau ar fenthyciadau

  • camau i hybu cynnal-a-chadw da: darparu gwasanaethau atgyweirio; darparu cyngor

  • dymchwel a chlirio

  • cynlluniau atgyweirio grŵ p

  • gorfodi: hysbysiadau atgyweirio, gweithredu gohiriedig neu gau

  • noddi Gofal ac Atgyweirio/Asiantaeth Gwella Cartrefi, darparu cyngor a gwasanaethau atgyweirio

Dylai'r rhifiadur fesur y nifer blynyddol o eiddo a gafodd eu gwneud yn ffit neu a chwalwyd yn dilyn un o'r camau uchod.

Dylai'r enwadur fod ar gael o arolwg cyflwr y stoc sector preifat a dylai fesur y nifer o anheddau a fernir yn an-ffit ar adeg yr arolwg ac ni ddylid ei ddiwygio hyd nes y gwneir yr arolwg cyflwr stoc nesaf (ni ddylid ei addasu ar gyfer anheddau sy'n dod yn an-ffit, anheddau sydd wedyn yn dod i sylw'r awdurdod gwerth gorau eu bod yn an-ffit neu anheddau a wneir yn ffit).

(b)

Nifer yr anheddau sector preifat, a fu'n sefyll yn wag am ragor na 6 mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol a ddychwelir i feddiannaeth yn ystod y flwyddyn ariannol o ganlyniad uniongyrchol i weithredu gan yr awdurdod gwerth gorau, (y rhifiadur), wedi'i rannu â nifer yr holl eiddo sector preifat a fu'n wag am ragor na 6 mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol (yr enwadur), wedi'i luosi â 100.

Dylai'r awdurdod gwerth gorau gynnwys unrhyw annedd a lenwir oherwydd gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod gwerth gorau trwy:

  • grantiau, benthyciadau neu gymorth ariannol arall a ddarperir neu a hwylusir gan yr awdurdod gwerth gorau.

  • cyngor i'r perchennog ynglŷn ag un neu ragor o'r canlynol :

    • * llenyddiaeth a ddarperir ar strategaeth tai gwag yr awdurdod gwerth gorau

    • * cyngor ynglŷn â gosod, gan gynnwys gofynion cyfreithiol a budd-dâl tai

    • * cyngor ynglŷn â grantiau a chymorth ariannol arall, gan gynnwys consesiynau treth sydd ar gael

    • * manylion am fforwm landlordiaid neu gynllun achredu

    • * cyngor ynglŷn ag atgyweirio, gan gynnwys manylion am gontractwyr adeiladu sy'n bodloni'r safonau isaf

  • cyfeiriad at landlord cymdeithasol cofrestredig yn bartner, neu at ganolwr arall gyda'r arbenigedd perthnasol

  • gweithredu i orfodi, gan gynnwys hysbysiadau atgyweirio neu orchmynion prynu gorfodol, gweithfeydd heb eu cyflawni, ymholiadau gwerthu gorfodol a wneir i sefydlu perchenogaeth eiddo a chamau ategol

  • gwneud ymholiadau i sefydlu perchnogaeth eiddo

Mae'r rhifiadur yn mesur nifer yr anheddau hyn a gafodd eu dychwelyd i feddiannaeth yn dilyn un o'r camau uchod yn ystod y flwyddyn ariannol.

Yr enwadur yw nifer yr anheddau a fu'n wag am chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol yn hytrach nag unrhyw eiddo a oedd yn wag am chwe mis yn ystod y flwyddyn ariannol.

NAWPI 4.2Effeithlonrwydd Ynni — dosbarthiad SAP cyfartalog anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod gwerth gorau

Dosbarthiad cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod gwerth gorau yn ôl y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP).

Y newid blynyddol cyfartalog yn nosbarthiad SAP cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod gwerth gorau, a'r SAP yw mynegrif o gost flynyddol gwresogi annedd i sicrhau trefn wresogi safonol ac fe'i disgrifir fel rheol fel un sy'n rhedeg o 1 (aneffeithlon iawn) i 100 (effeithlon iawn). Mae'n fesur o'i effeithlonrwydd ynni cyffredinol ac mae'n dibynnu ar y gwres sy'n cael ei golli o'r annedd ac ar berfformiad y system wresogi.

Mae'r dangosyddion perfformiad yn ofynnol i arolwg ynni gael ei gynnal er mwyn ei gwneud yn pennu'r waelodlin. Dylid cynnal arolygon o leiaf bob pum mlynedd. Mewn blynyddoedd pan na chynhelir arolwg ynni dylai'r awdurdodau gwerth gorau ddiweddaru'r wybodaeth a geir o'r arolwg i gymryd i ystyriaeth y gwaith a wnaed i'r stoc dros y cyfnod.

NAWPI 4.4Costau wythnosol cyfartalog rheoli tai fesul annedd awdurdod gwerth gorauMae hyn yn cynnwys y gost ariannol o reoli tai i'r awdurdod gwerth gorau wedi ei fesur drwy wariant gwirioneddol o'r Cyfrif Refeniw Tai (“HRA”) ar reoli yn y flwyddyn ariannol wedi'i rannu â nifer cyfartalog yr anheddau yn yr HRA ar ddechrau a diwedd y flwyddyn, wedi'i rannu â 52. Dylai'r wybodaeth gyd-fynd â'r wybodaeth yn furflen Flynyddol Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (HRAS) ar gyfer costau cyffredinol a chostau rheoli arbennig (celloedd 3000 a 3010).
NAWPI 4.5Casglu rhent ac ôl-ddyledion gan awdurdod gwerth gorau:

a)y gyfran o'r rhent a gasglwyd.

b)ôl-ddyledion tenantiaid cyfredol fel cyfran o gyfanswm rhestr rhenti'r awdurdod.

c)rhent a ysgrifennwyd ymaith gan na ellir ei gasglu, fel cyfran o gyfanswm rhestr rhenti'r awdurdod.

(a)Cyfrifir y gyfran o'r rhent a gasglwyd o'r data ar y rhent HRA gros a gasglwyd yn ystod y flwyddyn (h.y. gan gynnwys rhenti a dalwyd drwy Fudd-dâl Tai) fel cyfran o gyfanswm y rhent HRA sydd ar gael i'w gasglu yn y flwyddyn ond heb gynnwys yr gronwyd cyn diwedd y flwyddyn ariannol (h.y. yr incwm rhent gwag a chan gynnwys ôl-ddyledion chan gynnwys o Ôl-ddyledion tenantiaid presennol a oedd heb u talu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol). Cyfanswm y rhent a gasglwyd yn ystod y flwyddyn yw'r rhent a gasglwyd, llai unrhyw daliadau o ô-l ddyledion ar gyfer y blynyddoedd cynt oddi wrth gyn-denantiaid.

(b)Cyfrifir yr ôl-ddyledion rhent fel cyfran o gyfanswm rhestr rhenti'r awdurdod gwerth gorau ar sail cyfanswm y rhent HRA sy'n ddyledus gan denantiaid cyfredol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a chyfanswm y rhestr rhenti HRA. Y rhestr rhenti yw cyfanswm y rhent posibl y gellid ei gasglu yn y flwyddyn ariannol am yr holl anheddau sy'n perthyn i'r awdurdod gwerth gorau boed wedi eu gosod neu beidio. Y cyfanswm o ôl rhent yw swm ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol a chyfredol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

(c)Rhent a ysgrifennwyd ymaith fel cyfran o incwm rhenti'r awdurdod gwerth gorau — cyfrifir y rhent a ysgrifennwyd ymaith fel cyfran o'r rhestr rhenti ar sail cyfanswm y rhent HRA a ysgrifennwyd ymaith yn ystod y flwyddyn ariannol a chyfanswm y rhestr rhenti HRA. Y rhestr rhenti yw cyfanswm y rhent posibl y gellid ei gasglu yn y flwyddyn ariannol am yr holl anheddau sy'n perthyn i'r awdurdod gwerth gorau, boed wedi eu meddiannu neu beidio. Y cyfanswm a ysgrifennir ymaith yw cyfanswm ôl-ddyledion tenantiaid cyfredol a blaenorol, a ysgrifennir ymaith yn ystod y flwyddyn ariannol oherwydd na ellir eu casglu.

NAWPI 4.6Y gyfran o geisiadau digartrefedd y mae'r awdurdod gwerth gorau yn gwneud penderfyniad arnynt ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o fewn 33 diwrnod gwaith

Y nifer o geisiadau digartrefedd (o dan adran 184 o Ddeddf Tai 1996, p.52) y gwnaed penderfyniad amdanynt ac yr anfonwyd hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd (o dan adran 184) o fewn 33 diwrnod gwaith, fel cyfran o'r holl geisiadau digartrefedd lle gwnaed penderfyniad ac anfonwyd hysbysiad ysgrifenedig (o dan adran 184).

Mae hyn yn gymwys i bob cais digartrefedd, gan gynnwys rhai o geiswyr lloches lle mae hysbysiad wedi'i anfon o dan adran 184. Mewn achosion ceiswyr lloches, nid oes rhaid i awdurdodau gwerth gorau aros am benderfyniad y Swyddfa Gartref ar y cais lloches cyn anfon yr hysbysiad o dan adran 184, os maent yn fodlon fod yna ddyletswydd digartrefedd.

NAWPI 4.7Cyfartaledd amserau ailosod ar gyfer anheddau'r awdurdod gwerth gorau a osodwyd yn y flwyddyn ariannol flaenorol

Cyfrifir y dangosydd hwn o gyfanswm yr achosion gosod a wnaed yn ystod y flwyddyn (gan eithrio rhai a oedd yn cael eu gosod yn dilyn cyfnod o atgyweirio helaeth) a chyfanswm y dyddiau y bu'r anheddau hynny yn wag. Mae cyfanswm yrachosion gosod yn cwmpasu pob gosod (ac eithrio cyfnewid cilyddol) yn ystod y flwyddyn ariannol, pan na wnaed gwaith atgyweirio sylweddol, a ariannwyd o raglen gyfalaf yr awdurdod gwerth gorau, yn y cyfnod pan oedd yr annedd yn wag (diffinnir gwaith atgyweirio sylweddol fel gwaith sy'n costio £2,000 neu ragor).

Ni ddylid cyfrif annedd sy'n dod yn wag ac wedyn sy'n derbyn gwaith cyfalaf pan yn wag, ac mae'r gwaith o fath a fyddai yn cael ei wneud yn arferol gyda'r tenant yn byw yno, fel eiddo sydd wedi derbyn atgyweirio helaeth.

Ystyr dyddiau y mae annedd yn wag yw nifer y dyddiau calendr o'r diwrnod pan ddaw'r eiddo'n wag a'r diwrnod pan ailosodir ef. Mae hyn yn cynnwys y diwrnod y daeth yr eiddo'n wag hyd at a chan gynnwys y diwrnod cyn dyddiad dechrau'r denantiaeth newydd y mae rhent yn daladwy ar ei gyfer.

Mae atgyweiriadau cyfalafol sylweddol sy'n cael eu hariannu drwy refeniw yn cyfrif fel atgyweiriadau sylweddol at ddibenion y dangosydd hwn.

NAWPI 4.8

Effeithioldeb y System Dai Cymdeithasol:

a)

cyfran o eiddo gwag (anheddau gwag)

b)

y nifer cyfartalog o aelwydydd digartref mewn llety dros dro yn ystod y flwyddyn, mewn llety gwely a brecwast.

a)

Y rhifiadur yw: nifer cyfartalog y cartrefi gwag drwy'r flwyddyn ariannol sydd ar gael i'w gosod neu sy'n disgwyl neu sydd wrthi'n cael gwaith atgyweirio sylweddol.

Yr enwadur yw: nifer cyfartalog y cartrefi o dan reolaeth drwy'r flwyddyn ariannol, ac eithrio eiddo sy'n disgwyl neu sydd wrthi'n cael gwaith atgyweirio sylweddol.

Diffinnir gwaith atgyweirio sylweddol (neu welliannau) fel gwaith sy'n costio £2,000 neu fwy am bob annedd. Diffinnir y cyfartaledd drwy'r flwyddyn fel cyfartaledd y canlyniadau ar ddiwedd y pedwar chwarter am y flwyddyn ariannol.

b)

Dangosir nifer yr aelwydydd digartref mewn llety gwely a brecwast ar ffurflen WHO (Digartrefedd) 12 (Adolygwyd 3/01): Adran 6 llinell h: Colofn “Cyfanswm” yn llai colofn “Rhyddhau dyletswydd A.193”. Y cyfartaledd drwy'r flwyddyn yw cyfartaledd y canlyniadau ar ddiwedd y pedwar chwarter am y flwyddyn ariannol a gymerir o'r WHO 12.

NAWPI 4.9

Y nifer o anheddau'r awdurdod gwerth gorau y mae gwaith adnewyddu yn cael ei wneud iddynt yn ystod y flwyddyn ariannol fel canran o'r nifer y mae angen gwaith adnewyddu arnynt ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.

a)

gwaith yn costio rhwng £500 a £5,000

b)

gwaith yn costio dros £5,000

a)

Asesiad yr awdurdod gwerth gorau o nifer yr anheddau yn ei berchenogaeth sydd angen gwaith atgyweirio neu wella sylweddol (yn costio rhwng £500 a £5,000) ar 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol a nifer yr anheddau a gafodd y gwaith hwnnw wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol wedi'i fynegi fel canran o'r rhai sydd angen gwaith o'r fath ar 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol.

b)

Asesiad yr awdurdod gwerth gorau o nifer yr anheddau yn ei berchenogaeth sydd angen gwaith atgyweirio neu wella sylweddol (yn costio dros £5,000) ar 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol a nifer yr anheddau a gafodd y gwaith hwnnw wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol wedi'i fynegi fel canran o'r rhai sydd angen gwaith o'r fath ar 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol.

Dylid eithrio eiddo a nodir ar gyfer dymchwel neu drosi o'r dangosydd hwn. Byddai gwaith atgyweirio a gwella sylweddol, at ddiben y dangosydd hwn, yn gymwys i waith atgyweirio a gwella sy'n costio dros £500 heb ystyried ai cyllid refeniw neu gyfalaf ydyw.

Cynghorir yr awdurdodau gwerth gorau i gynnal arolygon o gyflwr y stoc leol bob pum mlynedd gan gynnwys pob deiliadaeth. Dylai awdurdodau ddefnyddio'r rhain i amcangyfrif y gwaith sydd ei angen ar 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol.

NAWPI 4.10

Y ganran o atgyweiriadau a gwblhawyd o fewn yr amser targed

a)

Wedi'u dosbarthu fel argyfwng

b)

Wedi'u ddosbarthu fel brys

a)

Ar gyfer atgyweiriadau argyfwng a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Dylid diffinio atgyweiriad fel atgyweiriad argyfwng pan fydd: perygl i iechyd y tenantiaid; neu berygl i ddiogelwch y tenentiaid; neu risg o niwed sylweddol i eiddo'r tenantiaid, gan gynnwys colled drwy ladrad. Dylid pennu'r amser targed i amser i gwblhau'r atgyweiriad fel yr amser adreuli rrhwng yr amser y tynnir sylw'r awdurdod gwerth gorau atyr atgyweiriad, a'r amser pan yw'r gwaith wedi'i gwblhau'n foddhaol.

b)

Ar gyfer atgyweiriadau brys a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Dylid diffinio atgyweiriad fel atgyweiriad brys pan effeithir yn ddifrifol ar gysur neu hwylustod y tenantiaid: neu pan fydd peidio ag atgyweirio yn peri i'r meddiannwr dynnu costau. Dylid pennu'r amser targed i gwblhau os yw'n wahanol i saith diwrnod calendr, gan ddatgan os yw'n cael ei fesur mewn dyddiau calendr neu ddyddiau gwaith. Diffinnir yr amser i gwblhau'r atgyweiriad fel yr amser a dreulir rhwng yr amser y tynnir sylw'r awdurdod gwerth gorau at yr atgyweiriad, a'r amser pan yw'r gwaith wedi'i gwblhau'n foddhaol.Er enghraifft, o cafwyd cais atgyweirio ar ddydd Mercher a bod y gwaith wedi'i gwblhau ar y dydd Mawrth yn yr wythnos ganlynol, y nifer o ddyddiau a dreuliwyd fyddai (Iau, Gwener, Sadwrn, Sul, Llun, Mawrth) chwe diwrnod calendr, neu bedwar diwrnod gwaith.

I gael enghreifftiau o atgyweiriadau argyfwng neu atgyweiriadau brys gweler Rheoliadau Tenentiaid Diogel Awdurdodau Tai Lleol (Hawl i Atgyweirio) 1994 (O.S. 1994/133).

NAWPI 4.11Yr amser cyfartalog a gymerir i gwblhau atgyweiriadau ymatebol nad ydynt yn rhai brysAr gyfer yr atgyweiriadau ymatebol nad oeddent yn rhai brys ac a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, nifer cyfartalog y dyddiau (calendr) rhwng gofyn am yr atgyweiriad ymatebol nad oedd yn un brys a'i gwblhau'n foddhaol. Dylid diffinio atgyweiriad nad ydyw'n atgyweiriad brys pan na chynhwysir ef mewn categori argyfwng neu frys, a phan na chafodd ei ymgorffori mewn rhaglen o gynnal-a chadw wedi'i chynllunio.
NAWPI 4.12A yw'r awdurdod gwerth gorau yn dilyn cod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ynglyn â thai ar rent neu beidioMae dilyn y cod yn golygu glynu at holl argymhellion y cod, ac eithrio'r rhai mewn perthynas ag arferion cyflogi, gan gynnwys gweithdrefnau i ddelio ag aflonyddu hiliol ac adrodd amganlyniadau monitro ethnig wrth bwyllgor o'r awdurdod gwerth gorau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources