Offerynnau Statudol Cymru
2001 Rhif 1338 (Cy. 84 )
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001
Wedi'i wneud
29 Mawrth 2001
Yn dod i rym
31 Mawrth 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, a 2(1) a (5) o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar gais Cyngor Sir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac wedi ymgynghori â phob awdurod lleol a fyddai yn cael ei effeithio, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1966 p.38, a ddiwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) adran 102; gweler adran 20(1) ar gyfer y diffiniad o “the Minister”. Dylid darllen y cyfeiriadau yn Neddf 1966 at awdurdod afonydd ynghyd â Deddf Dwê r 1973 (p.37) adran 33, Deddf Dwê r 1989 (p.15) adran 141 ac Atodlen 17, paragraff 1, a Deddf yr Amgylchedd 1995 adran 105 ac Atodlen 15, paragraff 2.
Trosglwyddwyd drwy O.S. 1978/272 swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966 i'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau hynny'r Ysgrifennydd Gwladol wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd Deddf Dwê r 1989 adran 141 ac Atodlen 17, paragraffau 1(3) a 4(a), mae'r swyddogaethau a arferwyd ar wahân gan y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifennydd Gwladol ynglyên ag awdurdodau dwê r neu ardaloedd awdurdodau dwêr gwahanol i'w harfer gyda'i gilydd ganddynt