xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2001
Yn dod i rym
1 Mai 2001
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mai 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adwerthu” (“sell by retail”) yw gwerthu i berson sy'n prynu heblaw ar gyfer ailwerthu;
ystyr “Darpariaeth gymunedol” (“Community Provision”) yw darpariaeth yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn y cyfeirir ato yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth atodol y cyfeirir ati yng ngholofn 2 gyferbyn â'r cyfeiriad yng ngholofn 1;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Cytundeb yr EEA” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(3) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(4) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
ystyr “fitamin A” (“vitamin A”) yw fitamin A sydd yn bresennol fel y cyfryw neu ar ffurf ei esterau ac mae'n cynnwys beta-caroten ar y sail bod 6 microgram o feta-caroten neu 12 microgram o garotenoidau actif biolegol eraill yn hafal i 1 microgram o sylwedd sy'n gyfwerth â retinol;
ystyr “fitamin D” (“vitamin D”) yw'r fitaminau gwrthlechog;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddiannu i werthu, a chynnig, amlygu neu hysbysebu i werthu;
ystyr “Gwladwriaeth EEA” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio Cytundeb yr EEA;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97(5) sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar amddiffyn dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1278/97(6)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2181/97(7), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 623/98(8)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1298/98(9), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2521/98(10) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 568/1999(11);
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94(12)) sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a hefyd yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rheoliad y Cyngor neu yn Rheoliad y Comisiwn.
3.—(1) Ac eithrio lle mae paragraff (2) isod yn gymwys, oni bai a hyd nes y ceir penderfyniad gan Gyd-bwyllgor yr EEA o dan Erthygl 98 o'r Cytundeb EEA i'w diwygio i gyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr EEA yn gymwys iddo ac—
(a)a ddygir i Gymru—
(i)o un o Wladwriaethau'r EEA (heblaw Aelod-wladwriaeth) y cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithiol ynddi, neu
(ii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig os dygwyd y braster taenadwy hwnnw yno o Wladwriaeth EEA o'r fath; a
(b)sydd wedi'i labelu'n briodol i ddangos natur y braster taenadwy.
(2) Ni fydd Rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fargarîn—
(a)a ddygir i Gymru—
(i)o un o Wladwriaethau'r EEA (heblaw'r Deyrnas Unedig) y cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithiol ynddi,
(ii)o Aelod-wladwriaeth (heblaw'r Deyrnas Unedig) yr oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithiol ynddi, neu
(iii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithiol neu lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithiol; a
(b)sydd wedi'i labelu'n briodol i ddangos natur y margarîn.
(3) At ddibenion paragraff (2) uchod, mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr ag sydd i “free circulation” yn Erthygl 23(2) o'r Cytuniad sy'n sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd.
4.—(1) Rhaid i unrhyw fargarîn a adwerthir gynnwys ym mhob 100 gram o'r margarîn hwnnw—
(a)dim llai nag 800 microgram a dim mwy na 1000 microgram o fitamin A, a
(b)dim llai na 7.05 microgram a dim mwy nag 8.82 microgram o fitamin D,
a swm cymesur mewn unrhyw ran o 100 gram.
(2) Ni chaiff neb adwerthu unrhyw fargarîn yn groes i'r rheoliad hwn.
5. Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r darpariaethau Cymunedol a'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
6. Os bydd unrhyw berson yn torri neu'n methu cydymffurfio—
(a)â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, neu
(b)ag unrhyw ddarpariaeth Gymunedol,
bydd yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
7. Mewn unrhyw achos o dan reoliad 6(b) o'r Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi—
(a) bod y bwyd yr honnir fod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio i wlad sydd â deddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a'i fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b)bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn yn achos—
(i)allforio i Aelod-wladwriaeth, neu
(ii)pan fydd yna benderfyniad gan Gydbwyllgor yr EEA o dan Erthygl 98 o Gytundeb yr EEA i'w ddiwygio i gyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, allforio i un o Wladwriaethau'r EEA nad yw'n Aelod-wladwriaeth.
8.—(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);
adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2);
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol).
(2) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf at ddibenion y Rheoliadau hyn fel eu bod yn cynnwys cyfeiriad at y darpariaethau Cymunedol—
adran 32 (pwerau mynediad);
adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
9. Diddymir drwy hyn y Rheoliadau a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2001
Rheoliad 2(1)
Y Ddarpariaeth Gymunedol | Darpariaethau atodol | Y Pwnc |
---|---|---|
1. Rheoliad y Cyngor : (a)Erthygl 2 (b)Erthygl 3 (c)Erthygl 4 (ch)Erthygl 5 (d)Erthygl 7 | Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor ac rthygl 1 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad I iddo Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn a Atodiad II iddo | Cyfyngiadau ar farchnata brasterau taenadwy Gofynion ynghylch labelu a chyflwyno brasterau taenadwy Cyfyngu ar ddefnyddio'r term “traditional” gyda'r enw “butter” Cyfyngu ar ddefnyddio termau ynghylch cynnwys braster Gofynion ynghylch brasterau a fewnforir o drydydd gwledydd |
2. Rheoliad y Comisiwn: Erthygl 3 | Cyfyngiadau ar ddefnyddio'r dynodiad “butter” ar gyfer cynhyrchion cyfansawdd |
Rheoliad 9
Rheoliadau a ddiddymir | Cyfeiriadau |
---|---|
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) 1995 | O.S. 1995/3116. |
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Diwygio) 1998 | O.S. 1998/452. |
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Diwygio) (Rhif 2) 1998 | O.S. 1998/2538. |
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) 1999 | O.S. 1999/540. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgyfnerthu ac yn disodli Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) 1995, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i wneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97 sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar gyfer amddiffyn dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth, fel y'u diwygiwyd. Nodir pwnc y darpariaethau Cymunedol yn fyr yng ngholofn 3 o Atodlen 1. Cafodd Rheoliad y Comisiwn ei ddiwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 568/1999 sy'n caniatáu defnyddio'r dynodiad “brandy butter”, “sherry butter” neu “rum butter” am gynnyrch alcoholig wedi'i felysu sy'n cynnwys o leiaf 20% o fraster-llaeth.
Yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad EEC 2991/94, mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu gofynion o ran cynnwys fitaminau mewn margarîn (rheoliad 4), yn ddarostyngedig i esemptiad (rheoliad 3(2)).
Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn pennu'r awdurdodau sydd i orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 (rheoliad 5);
(b)yn creu tramgwyddau ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 6) ac yn cynnwys esemptiad cyfyngedig mewn perthynas ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr EEA yn gymwys iddo ac a ddygir i Gymru o un o Wladwriaethau'r EEA heblaw Aelod-wladwriaeth naill ai'n uniongyrchol neu drwy ran arall o'r Deyrnas Unedig (rheoliad 3(1));
(c)yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol, fel y'u darllenir ynghyd â'r nawfed cronicliad yn y Gyfarwyddeb honno (rheoliad 7);
(ch)yn cynnwys darpariaethau penodedig o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 8); a
(d)yn diddymu'r Rheoliadau a bennir yn Atodlen 2 o ran Cymru (rheoliad 9).
Mae defnyddio'r dynodiad “butter” hefyd wedi'i gyfyngu gan Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 (OJ Rhif L182, 3.7.87, t. 36), a orfodir yng Nghymru gan Reoliadau Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Amddiffyn Dynodiadau) 1990 (O.S. 1990/607, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/2486).
Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).
OJ No. L87, 2.4.97, t.3.
OJ No. L175, 3.7.97, t.6.
OJ No. L299, 4.11.97, t.1.
OJ No.L85, 20.3.98, t.3.
OJ No. L180, 24.6.98, t.5.
OJ No. L315, 25.11.98, t.12.
OJ No. L70, 17.3.1999, t.11.
OJ No. L316, 9.12.94, t.2.
OJ No. L1, 3.1.94, t.1.
OJ No. L1, 3.1.94, t.571.