2001 Rhif 1362 (Cy.90)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

2

Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19972;

  • ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 19863.

3

Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 19972

Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster - cyflenwi cyfarpar optegol), ym mharagraffau (3)(c) (derbyn credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (g) (credyd treth pobl anabl), yn lle “£70” rhowch “£71”.

Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 19973

Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) —

a

ym mharagraff (1)(b), yn lle “£42.80” rhowch “£43.90”; a

b

ym mharagraff (3), yn lle “£11.00” rhowch “£11.30”.

Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 19974

1

Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau talebau a'u gwerth ar yr wyneb - cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) (gwerth y daleb ar ei hwyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhowch y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.

TABL

(1)

(2)

Yr hen swm

Y swm newydd

£ 29.30

£ 30.00

£ 44.50

£ 45.60

£ 60.60

£ 62.10

£ 136.90

£ 140.30

£ 50.50

£ 51.80

£ 64.30

£ 65.90

£ 77.30

£ 79.60

£ 150.50 (Yn y ddau fan lley'i gwelir)

£ 154.30

£ 42.80

£ 43.90

  • Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, tintiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach ac arbennig a chyfarpar cymhleth)—

    1. a

      ym mharagraff 1(1)(a) (prism - lens golwg sengl), yn lle “£6.10” rhowch “£6.30”;

    2. b

      ym mharagraff 1(1)(b) (prism -lens arall), yn lle “£7.00” rhowch “£7.20”;

    3. c

      ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg sengl â thint), yn lle “£3.10” rhowch “£3.20”;

    4. ch

      ym mharagraff 1(1)(d) (lens arall â thint), yn lle “£3.60” rhowch “£3.70”;

    5. d

      ym mharagraff 1(1)(e) (sbectolau bach), yn lle “£48.20” rhowch “£49.40”, ac yn lle “£42.80” rhowch “£43.90”, ac yn lle “£23.20” rhowch “£23.80”;

    6. dd

      ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau wedi'u gweithgynhyrchu'n arbennig) yn lle “£48.20” rhowch “£49.40”;

    7. e

      ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth - lensys golwg sengl), yn lle “£10.20” rhowch “£10.50”.

    8. h

      ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth - lensys eraill), yn lle “£25.90” rhowch “£26.50”.

3

Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 19865

Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (Profion Golwg - cymhwyster), ym mharagraffau (2)(c) (derbyn credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (2)(g) (derbyn credyd treth pobl anabl), yn lle “£70” rhowch “£71”.

Defnyddio'r Rheoliadau hyn6

1

Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 5 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â dyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl sy'n cael eu gwneud ar neu ar ôl 10 Ebrill 2001 yn unig.

2

Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 a 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliadau 12 neu 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 10 Ebrill 2001 yn unig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

Dafydd Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLENATODLEN 3 I REOLIADAU 1997 FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN

Rheoliad 3(3)

SCHEDULE 3VOUCHER VALUES - REPAIR

Regulations 19(2) and (3)

(1)

(2)

Nature of repair

Letter Codes - Values

A

B

C

D

E

F

G

H&I

£

£

£

£

£

£

£

£

Repair or replacement of one lens

9.35

17.15

25.40

64.50

20.25

27.30

34.15

71.50

Repair or replacement of two lenses

18.70

34.30

50.80

129.00

40.50

54.60

68.30

143.00

Repair or replacement of the front of a frame:

9.60

9.60

9.60

9.60

9.60

9.60

9.60

9.60

the side of a frame

5.70

5.70

5.70

5.70

5.70

5.70

5.70

5.70

the whole frame

11.30

11.30

11.30

11.30

11.30

11.30

11.30

11.30

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) . Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol. Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur a bennir ynddo ar gyfer yr “amount withdrawn” o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) er mwyn cynyddu gwerth taleb optegol a roddir tuag at gost amnewid un lens cyffwrdd, ac er mwyn cynyddu uchafswm y cyfraniad a wneir drwy gyfrwng taleb tuag at gost trwsio ffrâm sbectol.

Mae rheoliad 4(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at gost cyflenwi ac amnewid sbectolau a lensys cyffwrdd.

Mae rheoliad 4(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerthoedd ychwanegol talebau ar gyfer prismau, tintiau, lensys ffotocromig a chategorïau penodol o gyfarpar.

Mae rheoliad 4(3) a'r Atodlen yn gosod Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at drwsio ac amnewid cyfarpar optegol.

Rhyw 2.5% yw cyfradd y cynnydd, ar gyfartaledd.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur ar gyfer yr “amount withdrawn” o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl.

Yn rheoliad 6 ceir darpariaethau trosiannol.