Enwi, dehongli a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
ystyr “cartref bach i blant” (“small children’s home”) yw cartref o fewn ystyr adran 63 o Ddeddf 1989, sy'n darparu (neu sydd fel arfer yn darparu neu y bwriedir iddo ddarparu) gofal a llety i nifer nad yw'n fwy na thri o blant ar unrhyw un adeg;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(1).
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(1)