2001 Rhif 139 (Cy. 5 ) (C. 7 )
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(7) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 20001.
Enwi, dehongli a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001.
2
Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
ystyr “cartref bach i blant” (“small children’s home”) yw cartref o fewn ystyr adran 63 o Ddeddf 1989, sy'n darparu (neu sydd fel arfer yn darparu neu y bwriedir iddo ddarparu) gofal a llety i nifer nad yw'n fwy na thri o blant ar unrhyw un adeg;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 19892.
3
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dyddiau penodedig2
1
At ddibenion galluogi cais cofrestru i gael ei wneud o dan is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn unig, 1 Chwefror 2001 yw'r dydd a benodir i adran 40 o'r Ddeddf (ymestyn dros dro ystyr “cartref plant”) ddod i rym.
2
28 Chwefror 2001 yw'r dydd a benodir i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym —
a
adran 40 i'r graddau nad yw mewn grym eisoes, ac adran 41 (darpariaeth dros dro ynghylch dileu cofrestriad); a
b
adran 116 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), i'r graddau y mae'n berthnasol i is-baragraff (15) o baragraff 14 o Atodlen 4 i'r Ddeddf.
Darpariaethau Trosiannol3
1
Os yw person sy'n rhedeg cartref bach i blant wedi gwneud cais cofrestru yn briodol cyn 28 Chwefror 2001 o dan is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989, bydd paragraffau canlynol yr erthygl hon yn gymwys.
2
Ni fydd adran 63(1) a (10) o Ddeddf 1989 yn gymwys i'r person hwnnw—
a
nes yr adeg y caniateir y cais, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i'r amodau hynny a grybwyllir ym mharagraff (3); neu
b
os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau heblaw rheini a grybwyllir ym mharagraff (3), neu os gwrthodir y cais—
i
os na ddygir apêl, hyd nes y daw 28 diwrnod i ben ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod lleol; a
ii
os dygir apêl, hyd nes y penderfynir arni neu ei gollwng.
3
Dyma'r amodau—
a
unrhyw amodau (os oes rhai) o'r math a grybwyllir ym mharagraff 5(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 (amodau y cytunwyd arnynt); neu
b
amod na chaiff y cartref letya a gofalu am fwy na thri o blant.
4
Ni fydd paragraffau 1(9) a 7(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn gymwys i'r cais.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi cael, neu ar fin cael, eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2000/2992 (Cy.192)(C.93)
Darpariaeth/Provision | Dyddiad cychwyn/Date of commencement |
---|---|
Adran/Section 72 | 13.11.00 |
Atodlen/Schedule 2 | 13.11.00 |
Adran/Section 54(1), (3)-(7) | 01.04.01 |
Adran/Section 55 ac Atodlen 1/and Schedule 1 | 01.04.01 |
Adran/Section 113 (2)-(4) | 01.04.01 |
Adran/Section 114 (yn rhannol) / (partially) | 01.04.01 |
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, gan O.S. 2000/2544 (C.72).
Darpariaeth/Provision | Dyddiad cychwyn/Date of commencement |
---|---|
Adran/Section 96 (yn rhannol) / (partially) | 15.09.00 |
Adran/Section 99 | 15.09.00 |
Adran/Section 80(8) (yn rhannol) / (partially) | 02.10.00 |
Adran/Section 94 | 02.10.00 |
Adran/Section 96 (y gweddill) / (remainder) | 02.10.00 |
Adran/Section 100 | 02.10.00 |
Adran/Section 101 | 02.10.00 |
Adran/Section 103 | 02.10.00 |
Adran/Section 116 ac Atodlen 4/and Schedule 4 (yn rhannol) (partially) | 02.10.00 |
Adran/Section 117(2) ac Atodlen 6/and Schedule 6 (yn rhannol) / (partially) | 02.10.00 |
Yn ychwanegol, mae darpariaethau amrywiol eraill o'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig gan O.S. 2000/2795 (C.79).