Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 139 (Cy. 5 ) (C. 7 )

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

23 Ionawr 2001

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001.

(2Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dyddiau penodedig

2.—(1At ddibenion galluogi cais cofrestru i gael ei wneud o dan is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn unig, 1 Chwefror 2001 yw'r dydd a benodir i adran 40 o'r Ddeddf (ymestyn dros dro ystyr “cartref plant”) ddod i rym.

(228 Chwefror 2001 yw'r dydd a benodir i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym —

(a)adran 40 i'r graddau nad yw mewn grym eisoes, ac adran 41 (darpariaeth dros dro ynghylch dileu cofrestriad); a

(b)adran 116 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), i'r graddau y mae'n berthnasol i is-baragraff (15) o baragraff 14 o Atodlen 4 i'r Ddeddf.

Darpariaethau Trosiannol

3.—(1Os yw person sy'n rhedeg cartref bach i blant wedi gwneud cais cofrestru yn briodol cyn 28 Chwefror 2001 o dan is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989, bydd paragraffau canlynol yr erthygl hon yn gymwys.

(2Ni fydd adran 63(1) a (10) o Ddeddf 1989 yn gymwys i'r person hwnnw—

(a)nes yr adeg y caniateir y cais, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i'r amodau hynny a grybwyllir ym mharagraff (3); neu

(b)os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau heblaw rheini a grybwyllir ym mharagraff (3), neu os gwrthodir y cais—

(i)os na ddygir apêl, hyd nes y daw 28 diwrnod i ben ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod lleol; a

(ii)os dygir apêl, hyd nes y penderfynir arni neu ei gollwng.

(3Dyma'r amodau—

(a)unrhyw amodau (os oes rhai) o'r math a grybwyllir ym mharagraff 5(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 (amodau y cytunwyd arnynt); neu

(b)amod na chaiff y cartref letya a gofalu am fwy na thri o blant.

(4Ni fydd paragraffau 1(9) a 7(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn gymwys i'r cais.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) yng Nghymru.

Mae'n dwyn i rym adran 40 o'r Ddeddf, sy'n diwygio Deddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi plant sy'n cael eu gweithredu'n breifat ac sy'n lletya a gofalu am lai na phedwar o blant (cartrefi bach i blant) gael eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol y lleolir hwy yn ei ardal. Bydd adran 40 yn dod i rym ar 1 Chwefror 2001 er mwyn galluogi ceisiadau cofrestru i gael eu gwneud, ac ar 28 Chwefror 2001 i bob diben arall. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw cartref bach i blant y mae cais cofrestru wedi'i wneud yn briodol ar ei gyfer erbyn 28 Chwefror 2001 i gael ei drin fel cartref plant anghofrestredig hyd nes bod y broses gofrestru ar ei gyfer wedi'i chwblhau. Mesurau interim yw'r rhain a fydd yn cael eu diddymu, maes o law, pan fydd Rhan II o'r Ddeddf, a fydd yn sefydlu cynllun newydd ar gyfer cofrestru pob cartref plant, gan gynnwys cartrefi bach, yn cael ei gweithredu'n llawn. O ganlyniad, mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym fân ddiwygiad i adran 66 o Ddeddf Plant 1989 sy'n ymwneud â'r diffiniad o faethu preifat.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym, o 28 Chwefror 2001 ymlaen, adran 41 o'r Ddeddf. Mae honno yn diwygio Deddf Plant 1989 i ddarparu y gellir dileu cofrestriad cartref plant o unrhyw ddisgrifiad hyd yn oed os yw'r cartref wedi peidio â bod, megis pan yw'r perchennog yn ei gau cyn i unrhyw achos gorfodi ddod i ben. Bydd canlyniadau'r dileu gan hynny yn gymwys p'un a yw'r cartref yn bodoli ai peidio ar ddyddiad y dileu. Mae hwn hefyd yn fesur interim nes gweithredir Rhan II o'r Ddeddf.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi cael, neu ar fin cael, eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2000/2992 (Cy.192)(C.93)

Darpariaeth/ProvisionDyddiad cychwyn/Date of commencement
Adran/Section 7213.11.00
Atodlen/Schedule 213.11.00
Adran/Section 54(1), (3)-(7)01.04.01
Adran/Section 55 ac Atodlen 1/and Schedule 101.04.01
Adran/Section 113 (2)-(4)01.04.01
Adran/Section 114 (yn rhannol) / (partially)01.04.01

Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, gan O.S. 2000/2544 (C.72).

Darpariaeth/ProvisionDyddiad cychwyn/Date of commencement
Adran/Section 96 (yn rhannol) / (partially)15.09.00
Adran/Section 9915.09.00
Adran/Section 80(8) (yn rhannol) / (partially)02.10.00
Adran/Section 9402.10.00
Adran/Section 96 (y gweddill) / (remainder)02.10.00
Adran/Section 10002.10.00
Adran/Section 10102.10.00
Adran/Section 10302.10.00
Adran/Section 116 ac Atodlen 4/and Schedule 4 (yn rhannol) (partially)02.10.00
Adran/Section 117(2) ac Atodlen 6/and Schedule 6 (yn rhannol) / (partially)02.10.00

Yn ychwanegol, mae darpariaethau amrywiol eraill o'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig gan O.S. 2000/2795 (C.79).

(1)

2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru ac fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.