Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) . Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol. Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1997 er mwyn adlewyrchu gwerthoedd y ddwy lefel o ffioedd am brofion golwg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n daladwy i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr ar yr adeg y daw'r rheoliadau hyn i rym. Mae'r symiau hyn yn berthnasol ar gyfer penderfynu ar y cymhwyster i gael taleb tuag at gost prawf golwg a gwerth y daleb ar gyfer adbrynu.

Yn rheoliadau 3 a 5 gwneir diwygiadau i Reoliadau 1997 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r cyflenwr ofyn i'r claf roi tystiolaeth ddigonol ei fod yn berson cymwys pan fydd yn cyflwyno taleb i gael cyfarpar optegol o dan y rheoliadau, oni bai bod gan y cyflenwr dystiolaeth foddhaol eisoes, mewn achosion heblaw achosion lle y mae'r claf yn gymwys yn rhinwedd ei ddiffyg adnoddau ariannol. Os nad yw'r claf yn gwneud hyn, rhaid i'r cyflenwr gofnodi'r ffaith honno ar y daleb.

Mae rheoliadau 4 a 6 yn diwygio Rheoliadau 1997 er mwyn darparu y gall taliadau, yn ôl cyfradd sydd i'w phenderfynu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu rhoi i gyflenwyr am wneud y gwiriadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliadau 3 a 5.

Gwneir nifer o ddiwygiadau i Reoliadau 1986. Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 1986 er mwyn mewnosod diffiniadau ychwanegol.

Mae rheoliad 8 yn gosod gofynion ychwanegol mewn perthynas â phractisau symudol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 13A i ddarparu bod rhaid i gontractiwr ofyn i'r claf roi tystiolaeth foddhaol o'r hawl bod y claf yn berson cymwys pan fydd yn gwneud cais am brawf golwg o dan y Rheoliadau, oni bai bod gan y contractiwr dystiolaeth foddhaol eisoes, mewn achosion heblaw achosion lle y mae'r claf yn gymwys yn rhinwedd ei ddiffyg adnoddau ariannol. Os nad yw'r claf yn gallu dangos tystiolaeth o'r fath, rhaid i'r contractiwr gofnodi'r ffaith honno ar ffurflen y prawf golwg. Hefyd, os yw'r contractiwr wedi cynnal y prawf yng nghartref y claf, rhaid i'r contractiwr gofnodi'r rheswm na allai'r claf ymadael â'i gartref ar ei ben ei hun ar ffurflen y prawf golwg.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio rywfaint ar y telerau gwasanaeth a nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau 1986.

Mae paragraff 3 o'r Atodlen yn cael ei ddiwygio i ganiatáu i gontractwyr gytuno, o dan amgylchiadau penodedig, i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol mewn canolfannau dydd neu mewn man lle y mae'r claf yn preswylio fel rheol. Gwneir darpariaeth mewn paragraff 3A newydd i'w gwneud yn ofynnol i bractisau symudol roi gwybod ymlaen llaw i Awdurdod Iechyd os ydynt yn bwriadu ymweld â chanolfannau dydd neu ganolfannau preswyl yn ardal yr Awdurdod Iechyd hwnnw.

Mae paragraff 4 yn cael ei ddiwygio i'w gwneud yn ofynnol i bractisau symudol ddarparu offer addas ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol ac i'r offer gael ei archwilio, ynghyd â'u cyfleusterau, gan berson a awdurdodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan yr Awdurdod Iechyd.

Mae paragraff 6 yn cael ei ddiwygio i ddarparu bod rhaid i gofnodion gael eu cadw a'u cadw'n ddiogel, a bod rhaid eu dangos i gael eu harchwilio gan berson a awdurdodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan yr Awdurdod Iechyd.

Mae paragraff 10 yn cael ei ddiwygio fel na all gwybodaeth gael ei rhoi i feddyg claf yn sgil prawf golwg oni bai ei bod yn briodol gwneud hynny, a hyn gyda chydsyniad y claf.