- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb 1999/4/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag echdynion coffi ac echdynion sicori (OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.26). Maent yn diddymu Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru, ac yn eu disodli.
2. Mae'r Rheoliadau—
(a)yn rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer echdynion coffi ac echdynion sicori (rheoliad 2 a'r Atodlen);
(b)yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys i echdynion coffi ac echdynion sicori sy'n barod i'w danfon i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, ac eithrio'r cynnyrch a elwir café torrefacto soluble (rheoliad 3);
(c)yn cyfyngu ar werthu bwyd sy'n dwyn disgrifiad neilltuedig heblaw bwyd y mae'r disgrifiad yn berthnasol iddo (rheoliad 4);
(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i ddisgrifiadau neilltuedig a datganiadau penodedig gael eu cymhwyso at gynhyrchion dynodedig, ac yn rhagnodi'r dull sydd i'w ddefnyddio i'w marcio neu i'w labelu; mae darpariaethau penodol yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, sy'n llywodraethu dull labelu echdynion coffi ac echdynion sicori ac eithrio i'r graddau y ceir darpariaeth benodol ar ei gyfer yn y Rheoliadau hyn, yn cael eu cymhwyso at y gofynion penodol hyn (rheoliadau 5 a 6);
(d)yn darparu ar gyfer cosbau a gorfodi, yn cynnwys darpariaeth drosiannol, ac amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol), yn cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ac yn gwneud diwygiadau a diddymiadau (rheoliadau 7 i 11).
3. Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: