10. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a)adran 2 (ystyr estynedig gwerthu, etc.);
(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y'i cymhwysir at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33 (rhwystro, etc. swyddogion);
(f)adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(g)adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).