- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
5 Ebrill 2001
Yn dod i rym
1 Mai 2001
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rheoliadau cymhwyswyd yn rhannol (ynghyd ag addasiadau (G.I.) (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Retail Movement Scheme: Public Health, Marketing and Organic Product Standards and Miscellaneous Provisions) Regulations 2023 (O.S. 2023/959), rhlau. 1(2), 4(b), Atod. 2 (ynghyd â rhlau. 7, 8)
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Mai 2001 2001 a byddant yn gymwys i Gymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Ran I neu II o'r Atodlen (fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw Nodyn yn y colofnau hynny sy'n ymwneud â'r bwyd hwnnw) ond nid yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys bwyd o'r fath fel cynhwysyn ac sy'n cael ei werthu, ei anfon neu ei ddanfon fel cynnyrch cyfansawdd;
ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Ran I neu II o'r Atodlen a dehonglir y defnydd ar unrhyw ddisgrifiad o'r fath yn y Rheoliadau hyn i olygu'r cynnyrch dynodedig a bennir mewn perthynas â'r disgrifiad hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “echdynnyn coffi” (“coffee extract”) yw'r cynnyrch crynodedig a geir drwy echdynnu o ffa coffi sydd wedi'u rhostio gan ddefnyddio dŵ r yn unig fel y cyfrwng echdynnu (ac eithrio unrhyw broses hydrolysis sy'n cynnwys ychwanegu asid neu fas) ac sy'n cynnwys cyfansoddion toddadwy ac aromatig coffi yn unig, heblaw'r sylweddau annhoddadwy hynny y mae'n amhosibl eu gwaredu ac olewau annhoddadwy sy'n deillio o goffi;
ystyr “echdynnyn sicori” (“chicory extract”) yw'r cynnyrch crynodedig a geir drwy echdynnu o sicori sydd wedi'i rostio gan ddefnyddio dŵ r yn unig fel y dull echdynnu (ac eithrio unrhyw broses hydrolysis sy'n cynnwys ychwanegu asid neu fas);
mae “gwerthu” ( “sell”) yn cynnwys cynnig neu ddatgelu i werthu neu feddiannu i werthu a dehonglir “gwerthu” yn unol â hynny;
[F1ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;]
ystyr “sicori” (“chicory”) yw gwreiddiau Cichorium Intybus L., heblaw gwreiddiau planhigion sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu sicori witloof, ac sydd wedi'u glanhau, eu sychu a'u rhostio'n briodol.
(2) Mae'r holl gyfrannau a grybwyllir yn y Rheoliadau hyn yn gyfrannau a gyfrifir yn ôl eu pwysau ac, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, fe'u cyfrifir yn ôl cyfanswm pwysau'r cynnyrch.
(3) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at yr Atodlen fel cyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 22(b)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (13.12.2014) yn rhinwedd Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 22(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i echdynion coffi ac echdynion sicori sy'n barod i'w danfon i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r cynnyrch a elwir café torrefacto soluble.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate customer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw—
er mwyn ailwerthu,
at ddibenion sefydliad arlwyo, neu
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;
mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu driniaeth; ac
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, cantîn, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) y mae bwyd yn cael ei baratoi ynddynt, wrth gynnal busnes, i'w ddanfon i'r defnyddiwr olaf ac sy'n barod i'w fwyta heb unrhyw waith paratoi pellach.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
4. Ni chaiff neb roi label gydag unrhyw fwyd a werthir ganddo, na'i arddangos gydag unrhyw fwyd a gynigir neu a ddatgelir ganddo i'w werthu neu sydd yn ei feddiant er mwyn ei werthu, p'un a yw'r label ynghlwm wrth y papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt, sef papur lapio neu gynhwysydd sy'n dwyn neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ddeilliad ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo neu a ffurfir ohonynt oni bai—
(a)mai'r bwyd hwnnw yw'r cynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn berthnasol iddo;
(b)bod y disgrifiad, y deilliad neu'r gair hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun a fyddai'n dangos yn ddiamwys neu drwy oblygiad clir mai dim ond un o gynhwysion y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n berthnasol iddo; neu
(c)bod y disgrifiad, y deilliad neu'r gair hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun a fyddai'n dangos yn ddiamwys neu drwy oblygiad clir nad yw'r bwyd hwnnw yn gynnyrch dynodedig nac yn cynnwys cynnyrch o'r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
5.—(1) Heb ragfarnu [F3Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011], ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch, sef yr enw a ragnodir gan y gyfraith ar gyfer y cynnyrch hwnnw at ddibenion [F4Erthygl 17 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011];
(b)y gair “decaffeinated” yn achos cynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o Ran I o'r Atodlen sydd wedi bod drwy broses ddigaffeinio ac nad yw'r caffein anhydrus gweddilliol sydd ynddo yn fwy na 0.30% o'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi;
(c)yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran I neu II o'r Atodlen y mae siwgr wedi'i ddefnyddio ynddo, y geiriau “with X”, “preserved with X”, “with added X” neu “roasted with X”, fel y bo'n briodol, ac “X” yw enw'r cynnyrch siwgr a ddefnyddiwyd, a'r enw hwnnw fydd disgrifiad neilltuedig y cynnyrch hwnnw a bennir mewn perthynas ag ef yn [F5Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003] neu, os nad oes gan y cynnyrch siwgr unrhyw ddisgrifiad neilltuedig o'r fath, enw'r cynnyrch a fyddai'n cael ei ddefnyddio, yn unol [F6ag Erthygl 17 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011], fel enw'r bwyd, petai'r cynnyrch siwgr ei hun yn cael ei werthu fel bwyd;
(ch)yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 2 neu 3 o golofn 2 o Ran I o'r Atodlen, datganiad o leiafswm y sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi wedi'i fynegi fel canran; a
(d)yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 2 neu 3 o golofn 2 o Ran II o'r Atodlen, datganiad o leiafswm y sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori wedi'i fynegi fel canran.
(2) Yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran I o'r Atodlen sy'n cynnwys mwy na 25% o sylwedd sych sy'n deillio o goffi ac yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran II o'r Atodlen sy'n cynnwys mwy na 45% o sylwedd sych sy'n deillio o sicori, gellir ychwanegu'r gair “concentrated” at y disgrifiad neilltuedig.
(3) Bydd yr wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff 1(b) ac (c) uchod yn yr un maes gwelediad â'r disgrifiad neilltuedig sy'n ofynnol gan baragraff (1)(a) uchod.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn rhl. 5(1) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 23(a)
F4Geiriau yn rhl. 5(1)(a) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 23(b)
F5Geiriau yn rhl. 5(1)(c) wedi eu hamnewid (28.11.2003) gan Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3047), rhlau. 1, 10(6)
F6Geiriau yn rhl. 5(1)(c) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 7 para. 23(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
F76. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F7Rhl. 6 wedi ei dirymu (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 6 Rhn. 1
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
7.—(1) Os bydd unrhyw berson yn torri unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio â hwy, bydd y person hwnnw'n euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi'r darpariaethau hynny yn ei ardal ac yn eu gweithredu.
(3) Rhaid i'r dulliau a ddefnyddir i benderfynu faint o garbohydrad rhydd a thoddadwy a gynhwysir mewn echdynion coffi gydymffurfio â ag [F8Atodiad 3 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion] a rhaid iddynt gael eu dilysu neu eu safoni.
Diwygiadau Testunol
F8Geiriau yn rhl. 7(3) wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(2), 2
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
F98. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F9Rhl. 8 wedi ei hepgor (26.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 6(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
F109. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F10Rhl. 9 wedi ei dirymu (1.1.2006) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3254), rhl. 1, Atod. 6 Rhn. 2
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
10. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a)adran 2 (ystyr estynedig gwerthu, etc.);
(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y'i cymhwysir at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33 (rhwystro, etc. swyddogion);
(f)adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(g)adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
11.—F11(1) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Hepgorir y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Coffi a Chynyrchion Coffi 1978 (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru)—
(a)yn Rheoliadau Bwyd (Diwygio Cosbau) 1982(4), yn Atodlen 1;
(b)yn Rheoliadau Bwyd (Diwygio Cosbau)1985(5), yn Atodlen 1, Rhan I;
(c)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(6), yn Atodlen 1, Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3, Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;
(ch)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991(7)), yn Atodlen 1, Rhan I;
(d)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Diddymiadau) 1992(8), yn Atodlen 1, Rhan I;
(dd)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(9)), yn Atodlen 9;
F12(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3) Diddymir drwy hyn Reoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978, Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi (Diwygio) 1982(10)) a Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi (Diwygio) 1987 (11) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Diwygiadau Testunol
F11Rhl. 11(1) wedi ei dirymu (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 6 Rhn. 1
F12Rhl. 11(2)(e) wedi ei dirymu (13.12.2014) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303), rhl. 1(3), Atod. 6 Rhn. 1
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12)).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Ebrill 2001
Rheoliadau 2 a 5
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. Rhn. I mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
Colofn 1 | Colofn 2 | |
---|---|---|
Disgrifiadau neilltuedig | Cynhyrchion Echdynion Coffi | |
1. “Coffee extract” neu “Soluble coffee extract” neu “Instant coffee” neu Soluble coffee | Echdynnyn coffi ar ffurf powdr, gronynnau, fflawiau, ciwbiau neu ffurf solet arall, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn llai na 95%, ac nad yw'n cynnwys sylweddau heblaw'r rhai sy'n deillio o broses echdynnu coffi. | |
2. “Coffee extract” neu “Soluble coffee extract” neu “Instant coffee” neu “Soluble coffee” | gyda'r gair “paste” neu'r geiriau “in paste form” ar eu hôl bob tro | Echdynnyn coffi ar ffurf past, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn fwy na 85% ac nad yw'n llai na 70%, nac yn cynnwys unrhyw sylweddau heblaw'r rhai sy'n deillio o broses echdynnu coffi. |
3. “Coffee extract” neu “Soluble coffee extract” neu “Instant coffee” neu “Soluble coffee” | gyda'r gair “liquid” neu'r geiriau “in liquid form” ar eu hôl bob tro | Echdynnyn coffi ar ffurf hylif, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn fwy na 55% ac nad yw'n llai na 15%. |
SYLWER: Gall y cynnyrch gynnwys cynhyrchion siwgr ychwanegol, p'un a ydynt wedi'u rhostio neu beidio, mewn cyfrannedd heb fod yn fwy na 12% |
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. Rhn. II mewn grym ar 1.5.2001, gweler rhl. 1
Colofn 1 | Colofn 2 | |
---|---|---|
Disgrifiadau neilltuedig | Cynhyrchion Echdynion Coffi | |
1. “Chicory extract” neu “Instant chicory” neu “Soluble chicory” | Echdynnyn sicori ar ffurf powdr, gronynnau, ffawiau, ciwbiau neu'r ffurf solet arall, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn llai na 95%. SYLWER: Gall y cynnyrch hwn gynnwys dim mwy nag 1% o sylweddau nad ydynt yn deillio o sicori. | |
2. “Chicory extract” neu “Instant chicory” neu “Soluble chicory” | gyda'r geiriau “paste” neu'r geiriau “in paste form” ar eu hôl bob tro | Echdynnyn sicori ar ffurf past, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn fwy na 85% ac nad yw'n llai na 70%. SYLWER: Gall y cynnyrch hwn gynnwys dim mwy nag 1% o sylweddau nad ydynt yn deillio o sicori. |
3. “Chicory extract” neu “Instant chicory” neu “Soluble chicory” | gyda'r geiriau “liquid” neu'r geiriau “in liquid form” ar eu hôl bob tro | Echdynnyn sicori ar ffurf hylif, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn fwy na 55% ac nad yw'n llai na 15%. |
SYLWER: Gall y cynnyrch hwn gynnwys cynhyrchion siwgr ychwanegol, p'un a ydynt wedi'u rhostio neu beidio, mewn cyfrannedd heb fod yn fwy na 35% |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb 1999/4/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag echdynion coffi ac echdynion sicori (OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.26). Maent yn diddymu Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru, ac yn eu disodli.LL+C
2. Mae'r Rheoliadau—LL+C
(a)yn rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer echdynion coffi ac echdynion sicori (rheoliad 2 a'r Atodlen);
(b)yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys i echdynion coffi ac echdynion sicori sy'n barod i'w danfon i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, ac eithrio'r cynnyrch a elwir café torrefacto soluble (rheoliad 3);
(c)yn cyfyngu ar werthu bwyd sy'n dwyn disgrifiad neilltuedig heblaw bwyd y mae'r disgrifiad yn berthnasol iddo (rheoliad 4);
(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i ddisgrifiadau neilltuedig a datganiadau penodedig gael eu cymhwyso at gynhyrchion dynodedig, ac yn rhagnodi'r dull sydd i'w ddefnyddio i'w marcio neu i'w labelu; mae darpariaethau penodol yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, sy'n llywodraethu dull labelu echdynion coffi ac echdynion sicori ac eithrio i'r graddau y ceir darpariaeth benodol ar ei gyfer yn y Rheoliadau hyn, yn cael eu cymhwyso at y gofynion penodol hyn (rheoliadau 5 a 6);
(d)yn darparu ar gyfer cosbau a gorfodi, yn cynnwys darpariaeth drosiannol, ac amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol), yn cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ac yn gwneud diwygiadau a diddymiadau (rheoliadau 7 i 11).
3. Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.LL+C
rosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion (“the Ministers”) o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999 Rhif 672).
OS 1996 Rhif 1499; OS 1998 Rhif 1398 yw'r offeryn diwygio perthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: