xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
1 Mai 2001
Yn dod i rym
1 Medi 2001
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Safonau Maeth Cinio Ysgol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.
2.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhennir bwydydd i'r pedwar grŵ p canlynol—
A.Ffrwythau a llysiau. Mae'r rhain yn cynnwys ffrwythau a llysiau ar bob ffurf (yn ffres, ŵwedi'u rhewi, mewn tuniau, wedi'u sychu neu ar ffurf sudd).
B.Bwydydd startslyd. Mae'r rhain yn cynnwys bara, siapatis, pasta, nwdls, reis, tatws, miled, blawd india corn ac iamau.
C.Cig, pysgod a ffynonellau eraill protein heblaw cynhyrchion llaeth. Mae'r rhain yn cynnwys cig a physgod ar bob ffurf (yn ffres, wedi'u rhewi, mewn tuniau neu wedi'u sychu) gan gynnwys cynhyrchion cig neu bysgod, wyau, cnau, corbys a ffa, heblaw ffa gwyrdd.
Ch.Llaeth a bwydydd llaeth. Mae'r rhain yn cynnwys llaeth, caws, iogwrt (gan gynnwys iogwrt wedi'i rewi ac iogwrt i'w yfed), fromage frais, ysgytlaeth a chwstard.
(2) Ni fydd marjarîn, menyn, brasterau eraill i'w taenu, olewau a brasterau coginio, dresin salad wedi'i seilio ar olew, mayonnaise, hufen salad, hufen, siocled, creision, bisgedi, teisennau, cacennau, pwdinau, hufen-iâ, sawsiau bras, grefi, jam, diodydd ysgafn siwgrllyd, melysion, siwgr a jeli yn perthyn i unrhyw un o'r grwpiau uchod o fwydydd .
3. Rhaid i fwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch fod ar gael bob dydd yn rhan o ginio ysgol disgyblion cofrestredig mewn ysgolion meithrin neu unedau meithrin mewn ysgolion cynradd.
4.—(1) Rhaid cydymffurfio â'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd heblaw ysgolion arbennig.
(2) Rhaid trefnu bod bwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch ar gael bob dydd—
(a)o fewn grŵ p A, fel bod:
(i)ffrwythau ffres, ffrwythau tun mewn sudd neu salad ffrwythau ar gael bob dydd;
(ii)melysfwyd wedi'i seilio ar ffrwythau ar gael o leiaf ddwywaith mewn unrhyw wythnos;
(iii)math o lysieuyn (nad yw'n perthyn i grŵ p B) ar gael bob dydd;
(b)o fewn grŵ p B, fel nad yw braster neu olew yn cael ei ddefnyddio yn y broses goginio ar fwy na dau ddiwrnod mewn unrhyw wythnos. Rhaid i'r braster neu'r olew a ddefnyddir fod o'r math aml-annirlawn neu fono-annirlawn;
(c)o fewn grŵ p C, fel bod:
(i)pysgod ar gael ar un diwrnod o leiaf mewn unrhyw wythnos;
(ii)darnau cig ar gael ar ddau ddiwrnod o leiaf mewn unrhyw wythnos.
(3) At ddibenion cinio i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd, gall ffynonellau protein yng ngrŵ p C gynnwys cynhyrchion llaeth sy'n ffynonellau protein.
5.—(1) Rhaid cydymffurfio â'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion uwchradd heblaw ysgolion arbennig.
(2) Rhaid i ddau fath o fwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch fod ar gael bob dydd:
(a)o fewn grŵ p A, fel bod;
(i)ffrwythau ffres, ffrwythau tun mewn sudd neu salad ffrwythau ar gael bob dydd;
(ii)melysfwyd wedi'i seilio ar ffrwythau ar gael o leiaf ddwywaith mewn unrhyw wythnos;
(iii)dau fath o lysieuyn (nad ydynt yn perthyn i gŵ rp B) ar gael bob dydd;
(b)o fewn grŵ p B, fel bod bwyd sydd heb ei goginio mewn braster neu olew ar gael hefyd ar bob dydd y bydd bwyd sydd wedi'i goginio mewn braster neu olew ar gael. Rhaid i'r braster neu'r olew a ddefnyddir fod o'r math aml-annirlawn neu fono-annirlawn;
(c)o fewn grŵ p C, fel bod
(i)pysgod ar gael ar ddau ddiwrnod o leiaf mewn unrhyw wythnos;
(ii)darnau cig ar gael ar dri diwrnod o leiaf mewn unrhyw wythnos.
6. Rhaid cydymffurfio â gofynion naill ai Rheoliad 4 neu Reoliad 5 wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig cymunedol neu sefydledig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Mai 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno safonau maeth ar gyfer cinio ysgol disgyblion cofrestredig mewn ysgolion meithrin a gynhelir, ysgolion cynradd ac uwchradd cymunedol, sefydledig a gwirfoddol ac ysgolion arbennig cynradd ac uwchradd cymunedol a sefydledig.
1998 p.31. I gael ystyr “regulations” gweler adran 142(1).
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/627).