Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2070 (Cy. 142)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

24 Mai 2001

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2001

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Tai (Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Ni fydd i'r Gorchymyn hwn unrhyw effaith mewn perthynas â chais am grant a wnaed cyn 1 Gorffennaf 2001.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Grantiau adnewyddu

3.  At ddibenion adran 12 o'r Ddeddf (grantiau adnewyddu: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.

Grantiau rhannau cyffredin

4.  At ddibenion adran 17 o'r Ddeddf (grantiau rhannau cyffredin: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.

Grantiau tai mewn aml-feddiannaeth

5.  At ddibenion adran 27 o'r Ddeddf (grantiau tai mewn aml-feddiannaeth: dibenion y gall grantiau gael eu rhoi ar eu cyfer), diben ychwanegol a bennir yw - gwella effeithlonrwydd ynni.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Mae adrannau 12, 17 a 27 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (“Deddf 1996”) yn nodi'r dibenion y gall grantiau ar gyfer adnewyddu tai yn y sector preifat gael eu rhoi ar eu cyfer. Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bŵ er o dan adrannau 12(1)(i), 17(1)(j) a 27(1)(j) i bennu dibenion eraill drwy orchymyn. Erbyn hyn, mae'r pŵer hwnnw'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu diben ychwanegol y gall grant gael ei roi ar ei gyfer o dan adrannau 12 (grantiau adnewyddu), 17 (grantiau rhannau cyffredin) a 27 (grantiau ar gyfer tai mewn aml-feddiannaeth) o Ddeddf 1996. Gwella effeithlonrwydd ynni yw'r diben hwnnw ym mhob achos.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672)