Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'u gwneud
24 Mai 2001
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2001
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
2.—(1) Mae'r ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999(4)) yn cael ei diwygio yn unol â thestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Mae'r ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997(5) yn cael ei diwygio i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru yn unol â thestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2001
Rheoliad 2
1. Yng nghwestiwn 4.31, yn y lle priodol, mewnosodwch—
2. Yng nghwestiwn 4.34, yn lle “a 50B”, rhowch “, 50B a 50C”.
3. Ar ôl cwestiwn 4.34, mewnosodwch—
“4.34A Rhowch fanylion unrhyw daliad a wnaed i chi neu i'ch partner ar 1 Chwefror 2001 neu ar unrhyw adeg wedyn yn ymwneud â charchariad neu gaethiwed gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nodyn 50D”
4. Yng nghwestiwn 4.38, mewnosodwch—
5. Yn nodyn 19, ar ôl y geiriau “at ddibenion budd-dâl plant”, mewnosodwch “, neu sydd yng ngofal awdurdod lleol ac sydd wedi'i leoli gyda chi gan yr awdurdod”.
6. Yn nodyn 45, ar ôl “(darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr)”, mewnosodwch—
“;
grant ar gyfer prydau ysgol i blant dibynnol, neu ar gyfer prydau i blant dibynnol 3 neu 4 oed, a dalwyd yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998”(7).
7. Ar ôl nodyn 46C, mewnosodwch—
“46D. Rhaid i chi gynnwys unrhyw daliad o gronfeydd mynediad a fwriedir i'ch galluogi chi fel myfyriwr i dalu costau byw cyffredin — cost bwyd, tanwydd yr aelwyd, rhent, dillad, ac esgidiau — taliadau dŵ r neu'r Dreth Gyngor. Anwybyddir taliadau cronfeydd mynediad at y dibenion hyn hyd at £20 yr wythnos, ond fe ddylent gael eu cynnwys beth bynnag. Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a roddwyd at ddibenion eraill.”
8. Ar ôl nodyn 50B, mewnosodwch—
“50C. Peidiwch â chynnwys—
unrhyw gyfandaliad lwfans cynhaliaeth sy'n daladwy mewn perthynas â chymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogi;
unrhyw daliad mewn cysylltiad â chynllun i leihau tan-feddiannaeth, a wnaed o dan reoliad 11 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliadau i Leihau Tan-feddiannaeth) 2000(8).
50D. Os oes taliad ex gratia o £10,000 wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 1 Chwefror 2001 neu wedyn oherwydd bod (a) chi, (b) eich partner, (c) priod i chi sydd wedi marw, neu (ch) priod i'ch partner sydd wedi marw, wedi'u carcharu neu wedi'u caethiwo gan y Japaneaid yn yr Ail Ryfel Byd, caiff y swm hwnnw ei anwybyddu fel cyfalaf.”(9).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio i wneud cais am grant adleoli sy'n daladwy o dan adrannau 131 i 140 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yng Nghymru.
Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 (OS 1999/2315 fel y'i diwygiwyd).
Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 (OS 1997/2847 fel y'i diwygiwyd).
Mae'r diwygiadau yn dilyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2073) (Cy.145) i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890).
Gweler y diffiniad o “prescribed” yn adran 101.
1996 p.53; cafodd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.
O.S. 1999/2315, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/3469 (Cy. 55) a 2000/1710 (Cy. 116).
O.S. 1997/2847, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/810, 1999/1541, 1999/3469 (Cy.55) a 2000/1710 (Cy. 116).
Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliadau i Leihau Tan-feddiannaeth) 2000, O.S. 2000/637.
Rheoliadau Diwygio Nawdd Cymdeithasol (Anwybyddu Cyfalaf) 2001, O.S. 2001/22.