- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 2
1. Yng nghwestiwn 4.31, yn y lle priodol, mewnosodwch—
2. Yng nghwestiwn 4.34, yn lle “a 50B”, rhowch “, 50B a 50C”.
3. Ar ôl cwestiwn 4.34, mewnosodwch—
“4.34A Rhowch fanylion unrhyw daliad a wnaed i chi neu i'ch partner ar 1 Chwefror 2001 neu ar unrhyw adeg wedyn yn ymwneud â charchariad neu gaethiwed gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nodyn 50D”
4. Yng nghwestiwn 4.38, mewnosodwch—
5. Yn nodyn 19, ar ôl y geiriau “at ddibenion budd-dâl plant”, mewnosodwch “, neu sydd yng ngofal awdurdod lleol ac sydd wedi'i leoli gyda chi gan yr awdurdod”.
6. Yn nodyn 45, ar ôl “(darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr)”, mewnosodwch—
“;
grant ar gyfer prydau ysgol i blant dibynnol, neu ar gyfer prydau i blant dibynnol 3 neu 4 oed, a dalwyd yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998”(1).
7. Ar ôl nodyn 46C, mewnosodwch—
“46D. Rhaid i chi gynnwys unrhyw daliad o gronfeydd mynediad a fwriedir i'ch galluogi chi fel myfyriwr i dalu costau byw cyffredin — cost bwyd, tanwydd yr aelwyd, rhent, dillad, ac esgidiau — taliadau dŵ r neu'r Dreth Gyngor. Anwybyddir taliadau cronfeydd mynediad at y dibenion hyn hyd at £20 yr wythnos, ond fe ddylent gael eu cynnwys beth bynnag. Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a roddwyd at ddibenion eraill.”
8. Ar ôl nodyn 50B, mewnosodwch—
“50C. Peidiwch â chynnwys—
unrhyw gyfandaliad lwfans cynhaliaeth sy'n daladwy mewn perthynas â chymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogi;
unrhyw daliad mewn cysylltiad â chynllun i leihau tan-feddiannaeth, a wnaed o dan reoliad 11 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliadau i Leihau Tan-feddiannaeth) 2000(2).
50D. Os oes taliad ex gratia o £10,000 wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 1 Chwefror 2001 neu wedyn oherwydd bod (a) chi, (b) eich partner, (c) priod i chi sydd wedi marw, neu (ch) priod i'ch partner sydd wedi marw, wedi'u carcharu neu wedi'u caethiwo gan y Japaneaid yn yr Ail Ryfel Byd, caiff y swm hwnnw ei anwybyddu fel cyfalaf.”(3).
Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliadau i Leihau Tan-feddiannaeth) 2000, O.S. 2000/637.
Rheoliadau Diwygio Nawdd Cymdeithasol (Anwybyddu Cyfalaf) 2001, O.S. 2001/22.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: