- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Wedi'u gwneud
12 Mehefin 2001
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 17A(3) a (4) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant Anabl (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Yn achos taliad uniongyrchol sy'n cael ei roi i berson sy'n dod o fewn adran 17A(2)(a) o'r Ddeddf, mae'r personau canlynol o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 17A(3) o'r Ddeddf—
(a)priod y talai;
(b)person sy'n byw gyda'r talai fel priod i'r talai;
(c)person yn byw ar yr un aelwyd â'r talai sydd—
(i)yn rhiant neu'n rhiant-yng-nghyfraith;
(ii)yn fab neu'n ferch;
(iii)yn fab-yng-nghyfraith neu'n ferch-yng-nghyfraith;
(iv)yn llysfab neu'n llysferch;
(v)yn frawd neu'n chwaer;
(vi)yn fodryb neu'n ewythr; neu
(vii)yn nain neu'n daid;
i'r talai;
(ch)priod unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r talai; a
(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel priod i'r person hwnnw.
(2) Yn achos taliad uniongyrchol sy'n cael ei roi i berson sy'n dod o fewn adran 17A(2)(b) o'r Ddeddf, mae'r personau canlynol o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 17A(3) o'r Ddeddf—
(a)priod y talai;
(b)person sy'n byw gyda'r talai fel priod i'r talai;
(c)person yn byw ar yr un aelwyd â'r talai sydd—
(i)yn rhiant neu'n rhiant-yng-nghyfraith;
(ii)yn frawd neu'n chwaer;
(iii)yn fodryb neu'n ewythr;
(iv)yn nain neu'n daid;
i'r talai;
(ch)priod unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r talai; a
(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel priod i'r person hwnnw.
3. Ni fydd y pŵ er i wneud taliad o dan adran 17A(1) o'r Ddeddf yn arferadwy mewn perthynas â darparu llety preswyl ar gyfer unrhyw blentyn anabl—
(a)am gyfnod o fwy nag 28 diwrnod; a
(b)mewn unrhyw gyfnod o 12 mis am gyfnodau sy'n gyfanswm o fwy na 120 o ddyddiau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 yn mewnosod adran newydd (adran 17A) yn Neddf Plant 1989 sy'n galluogi'r awdurdodau lleol i wneud taliadau uniongyrchol i bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl neu i blentyn anabl 16 neu 17 oed, yn lle gwasanaethau a fyddai fel arall wedi'u darparu ar eu cyfer gan yr awdurdod lleol o dan adran 17 o'r Ddeddf Plant.
Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r personau hynny na ellir sicrhau gwasanaethau oddi wrthynt drwy gyfrwng taliad uniongyrchol (rheoliad 2).
Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn pennu uchafswm y cyfnodau mewn llety preswyl a all gael eu sicrhau drwy gyfrwng taliad uniongyrchol (rheoliad 3).
1989 p.41; mewnosodwyd adran 17A gan adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p.16) (“Deddf 2000”). O ran Cymru, cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. O dan adran 7(2) o Ddeddf 2000, mae'r Gorchymyn hwnnw i gael ei drin fel pe bai'n cyfeirio at Ddeddf 1989 fel y'i diwygiwyd gan adran 7 o Ddeddf 2000. Yn adran 17A(3) o Ddeddf 1989 ystyr “prescribed”, drwy gyfeirio at adran 105(1) o'r Ddeddf, yw wedi'i ragnodi gan reoliadau a wneir o dan y Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: