xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Wedi'i wneud
12 Mehefin 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 12(2) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000.
2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yw 1 Gorffennaf 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001
Erthygl 2
Adran 1 (Hawl gofalwyr i gael asesiad)
Adran 2 (Gwasanaethau i ofalwyr)
Adran 4 (Asesiadau a gwasanaethau i'r gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal)
Adran 5 (Taliadau uniongyrchol)
Adran 6 (Asesiadau: personau sydd â gofal rhieni dros blant anabl)
Adran 7(1) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 17A yn Neddf Plant 1989, ac adran 7(2) a (3) (Taliadau uniongyrchol i blant anabl ac i bersonau â chyfrifoldeb rhiant drostynt)
Adran 8 (Codi tâl)
Adran 9 ac eithrio i'r graddau y mae'r darpariaethau a fewnosodir ganddi yn cyfeirio at ddarparu talebau (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)
Adran 10 (Darpariaeth ariannol)
Adran 11 ac eithrio is-adran (4) (Dehongli a rheoleiddio).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (“y Ddeddf”) i rym ar 1 Gorffennaf 2001 mewn perthynas â Chymru.
Mae'n dwyn i rym adran 1 sy'n creu hawl i ofalwyr (fel y'u diffinnir yn yr adran hon) gael asesiad; adran 2 sy'n galluogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau i ofalwyr; adran 4 sy'n diwygio Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995(3) er mwyn caniatáu asesiad o dan adrannau 1 neu 6 o'r Ddeddf i gael eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud asesiad o dan Ddeddf 1995; adran 5 sy'n diwygio Deddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996(4) er mwyn caniatáu taliadau uniongyrchol i gael eu gwneud i ofalwyr (fel y'u diffinnir yn adran 1) am wasanaethau gofalwyr (fel y'u diffinnir yn adran 2); adran 6 sy'n creu hawl i bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl i gael asesiad; adran 7(1) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 17A yn Neddf Plant 1989(5) sy'n caniatáu i daliadau uniongyrchol gael eu gwneud i bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl ac i blant anabl 16 oed a 17 oed, ac adran 7(2) a (3).
Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym adrannau 8 i 11 (yn gynhwysol) (ac eithrio i'r graddau y mae'r darpariaethau a fewnosodir gan adran 9 yn cyfeirio at ddarparu talebau, ac adran 11(4) sy'n cyfeirio at reoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol), sy'n cynnwys darpariaeth o ran codi tâl am wasanaethau gofalwyr, mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, darpariaeth ariannol a dehongli ac o ran defnyddio pwerau gwneud rheoliadau.
Dyma'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf i gael ei wneud o dan y Ddeddf mewn perthynas â Chymru. Mae darpariaethau penodol o'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2001 Rhif 510 (C.20).