Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2001. Maent yn diwygio Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999 y cyfeirir atynt fel “y prif reoliadau”. Mae effaith y diwygiadau yn cael ei hesbonio isod.

Mae rheoliad 5 yn darparu mai pedair blynedd fydd cyfnod llywodraethwr sefydledig yn ei swydd os na chydymffurfir â'r darpariaethau ynghylch hysbysu.

Mae rheoliad 7 yn diwygio prif reoliad 19 er mwyn sicrhau, os oes corff llywodraethu yn ystyried diswyddo llywodraethwr cyfetholedig ychwanegol, y caiff y corff a enwebodd y llywodraethwr hwnnw gyflwyno sylwadau yn y cyfarfod perthnasol ei hun.

Mae rheoliad 9 yn diwygio prif reoliadau 29 a 30 drwy fewnosod cyfeiriadau at adran 18 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n enwebu cadeirydd y corff llywodraethu yn achos ysgol y mae arni angen mesurau arbennig, mae hyn yn sicrhau na all y corff llywodraethu ddiswyddo'r sawl sydd wedi'i enwebu gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 9 hefyd yn diwygio prif reoliad 31 drwy ddileu hawl y cadeirydd i gael pleidlais fwrw yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod corff llywodraethu neu gorff llywodraethu dros dro pryd y mae cadeirydd y corff hwnnw i gael ei ethol.

Mae rheoliad 11 yn diwygio prif reoliad 37 drwy resymoli'r gofynion ynghylch y cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyrff llywodraethu. Yn benodol, mae'n sicrhau bod angen cworwm o ddau draean er mwyn i gorff llywodraethu ddirprwyo swyddogaeth i bwyllgor neu unigolyn. Mae rheoliad 11 hefyd yn ymestyn y darpariaethau ynghylch y cworwm o ddau draean i sicrhau eu bod yn gymwys wrth ddiswyddo aelodau o gyrff llywodraethu dros dro ac wrth ethol cadeirydd corff llywodraethu a chorff llywodraethu dros dro.

Mae rheoliad 12 yn diwygio prif reoliad 38 i'w gwneud yn ofynnol bod penderfyniad corff llywodraethu i gau ysgol yn cael ei gadarnhau mewn ail gyfarfod o'r corff hwnnw a gynhelir o leiaf 28 diwrnod ar ôl y penderfyniad gwreiddiol. Mae hefyd yn atal trafodion corff llywodraethu rhag cael eu hanilysu oherwydd diffyg wrth benodi'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd.

Mae rheoliad 13 yn diwygio prif reoliad 42 i atal cyrff llywodraethu rhag dirprwyo penderfyniadau ynghylch aelodaeth neu drafodion eu pwyllgorau. Mae'n darparu y gall penderfyniadau ar benodi a diswyddo clercod i'r corff llywodraethu neu i un o bwyllgorau'r corff llywodraethu, a chyfrifoldebau dros bennu targedau, gael eu dirprwyo i bwyllgorau ond nid i unigolion.

Mae rheoliad 14 yn diwygio prif reoliad 46 i'w gwneud yn ofynnol bod gweithdrefn un o bwyllgorau'r corff llywodraethu yn cael ei phenderfynu gan y corff llywodraethu ac i atal person nad yw'n aelod o'r corff llywodraethu rhag bod yn gadeirydd un o bwyllgorau'r corff llywodraethu. Mae rheoliad 14 hefyd yn diwygio prif reoliadau 47 a 49 i'w gwneud yn glir bod yr isafswm gofynion ynghylch cyfansoddiad pwyllgorau diswyddo staff, pwyllgorau apelau diswyddo a phwyllgorau derbyn hefyd yn gweithredu fel y cworwm ar gyfer cyfarfodydd y pwyllgorau hyn.

Mae rheoliad 15 yn mewnosod paragraffau (A1) a (A2) newydd ym mhrif reoliad 56, gan ganiatáu i bennaeth ysgol gael yr hawl i fynd i unrhyw un o gyfarfodydd unrhyw un o bwyllgorau ei chorff llywodraethu, ac eithrio yn achos pwyllgorau diswyddo staff, pwyllgorau apelau diswyddo, pwyllgorau disgyblu disgyblion neu os oes cyfyngiad penodol ar waith er mwyn sicrhau tegwch.

Mae rheoliad 16 yn diwygio Atodlen 7 i'r prif reoliadau. Mae'n ymestyn y cyfyngiad sy'n atal person rhag bod yn bresennol yn un o gyfarfodydd y corff llywodraethu lle mae penodiad y person hwnnw ei hun i swyddi penodol neu ei ddiswyddiad ohonynt yn cael ei ystyried, a hynny i gynnwys penodi i neu ddiswyddo o swydd is-gadeirydd y corff llywodraethu neu un o bwyllgorau'r corff llywodraethu. Mae'r cyfyngiad ar bleidleisio mewn cyfarfodydd o'r fath yn cael ei ymestyn yn yr un modd. Mae rheoliad 16 hefyd yn ei gwneud yn glir na chaiff aelod o'r staff fod yn bresennol mewn cyfarfod tra bydd penodiad olynydd i'r aelod staff hwnnw yn cael ei drafod, ac na chaiff bleidleisio ar y penodiad hwnnw.

Mae rheoliad 18 yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 6 i'r prif reoliadau drwy ymestyn y gwaharddiad ar ailbenodi yn sgil methiant parhaus â mynychu cyfarfodydd i lywodraethwyr partneriaeth.

Mae rheoliad 19 yn cywiro rhai o'r darpariaethau trosiannol manwl a gynhwyswyd yn Atodlen 8 i'r prif reoliadau. Mae rheoliad 21 yn diwygio rheoliad 57 o Reoliadau Addysg (Trosi i Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999 er mwyn sicrhau nad yw'r uchafswm arferol o bedair blynedd yn gymwys ar gyfer cyfnod swydd llywodraethwr a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag ysgol y mae arni angen mesurau arbennig.

Mae rheoliadau 4(2)(a), 6(1), 6(2)(a), 10, 12(a), 15(b), 16(1)(a), 18(b) a 19(c) yn cynnwys mân ddiwygiadau, naill ai i egluro ystyr y prif reoliadau neu o ganlyniad i ddiwygiadau o sylwedd a geir yn y Rheoliadau diwygio hyn.

Mae rheoliadau 4(1), 4(2)(b), 4(3), 6(2)(b), 8, 9(1)(c), 9(2)(b), 13(a)(i) a (iii), 14(4), 16(1)(b), 17, 20 a 21(a) yn cywiro gwallau drafftio.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources