2001 Rhif 2281 (Cy. 171 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo gan adran 73(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001 yn gwneud y Rheoliadau canlynol:C1

Annotations:
Modifications etc. (not altering text)

Enw, cychwyn a chymhwysoI11

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

2

Mae'r Rheoliadau yn gymwys i awdurdodau perthnasol yng Nghymru yn unig.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

DehongliI22

Yn y Rheoliadau hyn:

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw:

    • cyngor sir,

    • cyngor bwrdeistref sirol,

    • cyngor cymuned2,

    • F3awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo. , ac

    • awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 19954; ac

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.

Swyddogaethau swyddogion monitroI33

1

Pan fydd unrhyw fater yn cael ei gyfeirio at swyddog monitro awdurdod perthnasol o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000, rhaid i'r swyddog monitro mewn perthynas â'r mater hwnnw:

a

cynnal ymchwiliad; a

b

cyflwyno adroddiad ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.

2

Pan fydd unrhyw fater yn cael ei gyfeirio at swyddog monitro awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000, rhaid i'r swyddog monitro ystyried unrhyw adroddiad sy'n cael ei anfon ato gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

YmchwiliadauI44

1

Wrth gynnal ymchwiliad o dan Reoliad 3(1)(a) uchod caiff y swyddog monitro ddilyn unrhyw weithdrefnau y mae'n barnu eu bod yn briodol yn amgylchiadau'r achos ac yn benodol fe gaiff:

a

holi unrhyw berson ynghylch unrhyw beth y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r ymchwiliad,

b

ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth, esboniad neu ddogfennau iddo y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol,

c

ei gwneud yn ofynnol i unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig neu swyddog awdurdod perthnasol ymddangos ger ei fron at ddibenion paragraff (a) a (b) uchod.

2

Wrth gynnal yr ymchwiliad, gall y swyddog monitro gael ei gynorthwyo gan unrhyw berson.

3

Caiff y swyddog monitro sicrhau cyngor arbenigol neu gyngor arall hefyd pan fydd eu hangen oddi wrth unrhyw berson sy'n arbennig o gymwys ym marn y swyddog i'w gynorthwyo wrth gynnal yr ymchwiliad.

4

Pan fydd person wedi dod gerbron y swyddog monitro neu wedi rhoi gwybodaeth neu gymorth at ddibenion yr ymchwiliad yn unol â pharagraffau (1) neu (2) uchod, caiff y swyddog monitro, yn ddarostyngedig i awdurdodiad y Pwyllgor Safonau, dalu i'r person hwnnw:

a

unrhyw symiau ar gyfer treuliau a dynnwyd yn briodol ganddo, a

b

unrhyw lwfansau i'w ddigolledu am ei golled amser,

a bennir F4gan Weinidogion Cymru .

5

Pan fydd person wedi rhoi cyngor yn unol â pharagraff (3) uchod, caiff y swyddog monitro dalu unrhyw ffioedd neu lwfansau a dynnwyd i'r person hwnnw yn ddarostyngedig i'r uchafsymiau a nodir yng nghynllun lwfansau'r awdurdod perthnasol.

Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaethI55

1

Rhaid peidio â datgelu gwybodaeth a sicrhawyd gan swyddog monitro wrth gynnal ymchwiliad oni bai:

a

bod y datgelu yn cael ei wneud er mwyn galluogi swyddog monitro neu bwyllgor safonau i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

b

bod y datgelu yn cael ei wneud er mwyn galluogi Comisiynydd Lleol yng Nghymru i gyflawni ei swyddogaethau;

c

bod y person y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi cydsynio i'w datgelu;

ch

bod yr wybodaeth wedi'i datgelu o'r blaen i'r cyhoedd gydag awdurdod cyfreithlon;

d

mai datgelu at ddibenion achos troseddol mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig yw'r datgelu ac na chafwyd yr wybodaeth o dan sylw o ganlyniad i ymholiadau personol i'r person sy'n destun achos troseddol o dan Reoliad 4 uchod; F1...

dd

bod y datgelu yn cael ei wneud i'r Comisiwn Archwilio at ddibenion unrhyw swyddogaeth sydd gan Gomisiwn Archwilio neu Archwilydd o dan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 19985F2; neu—

e

bod y datgelu yn cael ei wneud i Archwilydd Cyffredinol Cymru at ddibenion unrhyw swyddogaeth ganddo neu gan archwilydd o dan Ran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

2

Yn y Rheoliad hwn, a Rheoliad 4 uchod, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfennau yn cynnwys cyfeiriad at wybodaeth a ddelir trwy gyfrwng cyfrifiadur neu ar unrhyw ffurf electronig arall.

AdroddiadauI66

Ar ôl cwblhau ymchwiliad, rhaid i'r swyddog monitro:

a

lunio adroddiad ar gasgliadau ei ymchwiliad ac, os yw'n briodol, caiff wneud argymhellion i Bwyllgorau Safonau'r awdurdod perthnasol o dan sylw,

b

anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, ac

c

cymryd camau rhesymol i anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Swyddogaethau'r Pwyllgor SafonauI77

Ar ôl cael adroddiad ac unrhyw argymhellion oddi wrth y swyddog monitro, neu adroddiad oddi wrth Gomisiynydd Lleol yng Nghymru ynghyd ag unrhyw argymhellion gan y swyddog monitro, rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddyfarnu naill ai:

a

nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw a rhaid iddo hysbysu unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad a'r Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn unol â hyn; neu

b

bod unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau'r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod wedi methu, neu y gallai fod wedi methu, â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Gweithdrefn a Phwerau Pwyllgorau SafonauI88

1

Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn neu yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 20016, mater i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol fydd penderfynu ar yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

F62

Mae paragraffau (3) i (3CH) yn gymwys—

a

mewn cysylltiad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn achos o ymchwiliad yr ymgymerir ag ef gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac a gyfeiriwyd at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000; a

b

mewn cysylltiad â swyddog monitro'r awdurdod perthnasol mewn achos o ymchwiliad a gyfeiriwyd at y swyddog monitro o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000.

3

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro yr hawl i fod yn bresennol gerbron y Pwyllgor Safonau at ddibenion—

a

cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a

b

fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.

3A

Caniateir i'r Pwyllgor Safonau wneud cais i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro fod yn bresennol ger ei fron at ddibenion—

a

cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a

b

fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.

3B

Rhaid peidio â gwrthod yn afresymol gais a wneir o dan baragraff (3A) ac os gwrthodir cais o'r fath rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro roi rhesymau ysgrifenedig i'r Pwyllgor Safonau am beidio â chydymffurfio â'r cais i fod yn bresennol.

3C

Bydd y presenoldeb hwnnw'n digwydd pan fydd Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y person sy'n destun yr ymchwiliad neu, os na wnaed sylwadau o'r fath, ar unrhyw adeg resymol.

3CH

Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro gael eu cynrychioli gan gwnsler neu gan gyfreithiwr.

4

Os nad yw unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad yn cyflwyno sylwadau yn unol â Rheoliad 7(b) uchod, fe all y Pwyllgor Safonau:

a

oni bai ei fod wedi'i fodloni bod rheswm digonol dros y methiant hwnnw, ystyried adroddiad y swyddog monitro a gwneud dyfarniad yn absenoldeb y person hwnnw; neu

b

rhoi cyfle ychwanegol i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau.

5

Pan fo'n briodol, ac yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, mae gan y Pwyllgor Safonau bŵ er i geryddu unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o'r awdurdod perthnasol, neu i atal neu i atal yn rhannol aelod neu aelod cyfetholedig am gyfnod heb fod yn fwy na chwe mis.

6

Rhaid i unrhyw gyfnod atal neu atal yn rhannol ddechrau ar y diwrnod:

a

ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) isod ddod i ben,

b

ar ôl i hysbysiad ynghylch casgliad unrhyw apêl yn unol â Rheoliad 12(a)(i) neu (b) isod ddod i law, neu

c

ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan Reoliad 12(a)(ii) isod,

p'un bynnag sy'n digwydd olaf.

Dyfarniadau'r Pwyllgor SafonauI99

1

Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau, rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu:

a

nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ac felly nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â'r materion sy'n destun yr ymchwiliad;

b

bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ond nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â'r methiant hwnnw;

c

bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o'r awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod ac y dylai gael ei geryddu; neu

ch

bod aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod ac y dylai gael ei atal neu ei atal yn rhannol rhag bod yn aelod neu'n aelod cyfetholedig o'r awdurdod hwnnw am gyfnod heb fod yn fwy na chwe mis.

2

Pan fydd tribiwnlys apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn gwneud argymhelliad yn unol â Rheoliad 12(a)(ii) isod y dylid gosod cosb wahanol, rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddyfarnu hefyd a ddylai gadarnhau ei ddyfarniad gwreiddiol neu beidio, neu dderbyn yr argymhelliad.

3

Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (1) neu (2) uchod rhaid i'r Pwyllgor Safonau hysbysu unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad a'r Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn unol â hynny, gan roi'r rhesymau dros y penderfyniad.

4

Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (2) uchod rhaid i'r Pwyllgor Safonau hefyd hysbysu llywydd Panel Dyfarnu Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Yr hawl i apelioI1010

1

Pan fydd Pwyllgor Safonau yn dyfarnu o dan Reoliad 9(1) uchod fod person wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw, caiff y person hwnnw apelio yn erbyn y dyfarniad i dribiwnlys a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru

2

Rhaid cychwyn yr apêl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig cyn pen 21 diwrnod ar ôl cael hysbysiad am ddyfarniad y Pwyllgor Safonau i'r cyfeiriad hwn:

  • F7Y Llywydd

  • Panel Dyfarnu Cymru

  • Llywodraeth Cynulliad Cymru

  • Parc Cathays

  • Caerdydd

  • CF10 3NQ.

3

Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi:

a

y seiliau dros yr apêl; a

b

a yw'r person sy'n rhoi'r hybysiad apêl yn cydsynio neu beidio i'r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig.

ApelauI1111

1

Bydd apelau sy'n deillio o ddyfarniad Pwyllgor Safonau yn cael eu cynnal:

a

gan dribiwnlys apelau sy'n cynnwys o leiaf dri aelod o Banel Dyfarnu Cymru,

b

drwy gyfrwng gwrandawiad llafar oni bai bod pob person sydd wedi rhoi hysbysiad apêl yn cydsynio i'r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig yn unol â Rheoliad 10(3)(b) uchod.

2

Mae llywydd Panel Dyfarnu Cymru (neu yn ei absenoldeb y dirprwy lywydd) i benodi aelodau unrhyw dribiwnlys apelau, ac fe gaiff y llywydd neu'r dirprwy lywydd fod yn aelod o dribiwnlys.

3

Ni chaiff aelod o Banel Dyfarnu Cymru fod yn aelod o dribiwnlys apelau a dynnwyd o blith y Panel sydd i ddyfarnu ar fater sy'n ymwneud ag aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol ar unrhyw adeg, os yw'r aelod o'r Panel o fewn y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben bryd hynny, wedi bod yn aelod neu'n swyddog o'r awdurdod neu'n aelod o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod.

4

Rhaid i aelod o Banel Dyfarnu Cymru y mae ganddo fuddiant uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn unrhyw fater sy'n destun apêl sy'n cael ei chynnal gan dribiwnlys apelau, neu'n debyg o fod yn destun apêl o'r fath:

a

datgelu natur ei fuddiant i lywydd y Panel, a

b

peidio â bod yn aelod o'r tribiwnlys apelau sy'n ystyried apêl mewn perthynas â'r mater hwnnw.

5

Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn, bydd yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan dribiwnlysoedd apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn rhai y bydd llywydd y Panel, ar ôl F5ymgynghori â Gweinidogion Cymru , yn penderfynu arnynt.

Casgliadau tribiwnlys apelauI1212

Rhaid i dribiwnlys apelau:

a

cadarnhau dyfarniad Pwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol fod unrhyw berson a oedd yn destun yr ymchwiliad wedi torri'r cod ymddygiad a naill ai:

i

cymeradwyo unrhyw gosb a osodwyd, neu

ii

cyfeirio'r mater yn ôl i'r Pwyllgor Safonau gydag argymhelliad bod cosb wahanol yn cael ei gosod;

neu,

b

gwrth-droi dyfarniad Pwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol bod unrhyw berson wedi torri'r cod ymddygiad,

a rhaid iddo roi gwybod i unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, y Comisiynydd Lleol yng Nghymru a Phwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol yn unol â hyn, gan roi'r rhesymau dros y penderfyniad.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 12 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

CyhoeddiI1313

1

Rhaid i Bwyllgor Safonau drefnu bod y canlynol yn cael ei wneud o fewn 14 diwrnod:

a

ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) uchod ddod i ben,

b

ar ôl i hysbysiad o gasgliad unrhyw apêl yn unol â Rheoliad 12(a)(i) neu (b) uchod ddod i law, neu

c

ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan Reoliad 12(a)(ii) uchod,

p'un bynnag sy'n digwydd olaf, adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad ac anfon copi at y Comisiynydd Lleol yng Nghymru, swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan sylw, unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad a chymryd camau rhesymol i anfon copi at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.

2

Ar ôl i adroddiad y Pwyllgor Safonau ddod i law, rhaid i swyddog monitro'r awdurdod perthnasol:

a

am gyfnod o 21 diwrnod gyhoeddi'r adroddiad ar wefan yr awdurdod perthnasol a threfnu bod copïau ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn ddi-dâl ar bob adeg resymol mewn un neu ragor o swyddfeydd yr awdurdod, lle bydd gan unrhyw berson hawl i gymryd copïau o'r adroddiad pan drefnir iddo fod ar gael felly, neu i gymryd detholiadau ohono,

b

darparu copi o'r adroddiad i unrhyw berson ar gais os bydd yn talu unrhyw dâl y bydd yr awdurdod perthnasol yn gofyn yn rhesymol amdano, ac

c

erbyn saith diwrnod fan bellaf ar ôl i'r adroddiad dod i law oddi wrth y Pwyllgor Safonau, rhoi hysbysiad cyhoeddus, drwy hysbyseb mewn papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal ac mewn unrhyw ffyrdd arall sy'n ymddangos iddo eu bod yn briodol, y bydd copïau o'r adroddiad ar gael fel y darperir ar ei gyfer gan is-baragraffau (a) a (b) uchod, a rhaid iddo bennu'r dyddiad (sef dyddiad nad yw'n fwy na saith diwrnod ar ôl i'r hysbysiad cyhoeddus gael ei roi gyntaf) pan fydd y cyfnod o 21 diwrnod yn dechrau.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 13 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

CynrychiolaethI1414

Caiff person sy'n cyflwyno sylwadau llafar i Bwyllgor Safonau neu sy'n apelio yn erbyn penderfyniad gan Bwyllgor Safonau i dribiwnlys apelau sy'n cael ei dynnu o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru ymddangos gerbron y Pwyllgor neu'r tribiwnlys yn bersonol neu gael ei gynrychioli —

a

gan gwnsler neu gyfreithiwr, neu

b

gan unrhyw berson arall y mae'n ei ddymuno.

Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 14 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

CostauI1515

1

Ni fydd gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol unrhyw bŵ er i ddyfarnu unrhyw gostau neu dreuliau sy'n codi o unrhyw un o'i achosion.

2

Fel rheol rhaid i dribiwnlys apelau beidio â gwneud gorchymyn yn dyfarnu costau neu dreuliau, ond, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff wneud gorchymyn o'r fath:

a

yn erbyn person os yw o'r farn fod y person hwnnw wedi gweithredu'n wacsaw neu'n flinderus, neu fod ei ymddygiad wrth fynd ar drywydd apêl yn hollol afresymol;

b

oherwydd gohirio gwrandawiad.

3

Rhaid peidio â gwneud unrhyw orchymyn o dan baragraff (2)(a) uchod yn erbyn person heb roi cyfle i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau yn erbyn gwneud gorchymyn o'r fath.

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 15 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fabwysiadu codau ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth eu haelodau a'u haelodau cyfetholedig.

O dan adran 69 o Ddeddf 2000 caiff Comisiynydd Lleol yng Nghymru ymchwilio i unrhyw doriad honedig gan aelodau neu aelodau cyfetholedig (neu gyn-aelodau neu gyn-aelodau cyfetholedig) o god ymddygiad awdurdod lleol yng Nghymru.

Pan fydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn rhoi'r gorau i ymchwiliad o'r fath cyn iddo gael ei gwblhau (o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000) gall gyfeirio'r mater sy'n destun yr ymchwiliad at swyddog monitro'r awdurdod lleol perthnasol.

Fel arall, pan fydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn dyfarnu ar ôl ymchwiliad (o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000) ei bod yn briodol, rhaid iddo gyfeirio'r mater at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol, llunio adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad a'i anfon at y swyddog monitro a Phwyllgor Safonau'r awdurdod.

Mae adran 73 o Ddeddf 2000 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sy'n pennu sut y dylid ymdrin â materion o'r fath sy'n cael eu cyfeirio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd swyddog monitro'r awdurdod perthnasol:

a

yn ymchwilio i'r materion a gyfeirir o dan adran 70(4) cyn cyflwyno adroddiad ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol, neu

b

os bydd mater wedi'i gyfeirio o dan adran 71(2), bydd yn ystyried adroddiad y Comisiynydd Lleol yng Nghymru cyn gwneud argymhellion, os yw'n briodol, i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.

Bydd y Pwyllgor Safonau yn gwneud dyfarniad cychwynnol wedyn naill ai:

a

nad oes dim tystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad, neu

b

bod rhaid rhoi cyfle i unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad ymateb, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.

Ar ôl ystyried unrhyw ymateb a wneir gan unrhyw berson o'r fath rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddod i'r casgliad:

a

nad oes dim tystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ac na ddylid cymryd dim camau pellach,

b

bod yna dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ond na ddylid cymryd dim camau pellach, neu

c

bod yna dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ac y dylai aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) gael ei geryddu neu ei atal,

a chymryd unrhyw gamau o'r fath yn unol â hynny.

Mae penderfyniad y Pwyllgor Safonau yn ddarostyngedig i hawl i apelio i dribiwnlys apelau a dynnir o blith Panel Dyfarnu Cymru.

Caiff tribiwnlys apelau gadarnhau dyfarniad y Pwyllgor Safonau, cyfeirio mater yn ôl iddo gan argymell y dylai osod cosb wahanol, neu wrth-droi'r dyfarniad.

Mae'r Rheoliadau yn darparu hefyd fod adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad yn cael ei lunio a'i gyhoeddi.