Swyddogaethau'r Pwyllgor SafonauI1F17

1

Ar ôl cael adroddiad ac unrhyw argymhellion oddi wrth swyddog monitro, neu adroddiad oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghyd ag unrhyw argymhellion gan swyddog monitro, rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu naill ai:

a

nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw a rhoi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i:

F2ia

pan fo’r person sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

aa

cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

bb

awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;

i

y person sy’n destun yr ymchwiliad;

ii

y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad; a

iii

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; neu

b

bod rhaid i berson sy’n destun yr ymchwiliad gael ei wahodd i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol.

2

Caiff Pwyllgor Safonau wneud trefniadau i’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff (1) gael eu harfer gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall.