- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “aelod” (“member”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw —
yn achos awdurdod lleol, aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw, a
yn achos awdurdod Parc Cenedlaethol neu awdurdod tân aelod a benodir i'r awdurdod hwnnw naill ai —
o dan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995, neu
o dan unrhyw un o'r Gorchmynion Gwasanaethau Tân;
ystyr “aelod annibynnol” (“independent member”) yw aelod o bwyllgor safonau nad yw —
yn aelod,
yn swyddog, neu
yn briod ag aelod neu swyddog
o'r awdurdod perthnasol o dan sylw, unrhyw awdurdod pethnasol arall, na chyngor cymuned;
ystyr “aelod panel” (“panel member”) yw aelod o banel a sefydlwyd o dan reoliad 15;
ystyr “aelod panel lleyg” (“lay panel member”) yw aelod o banel a sefydlir o dan reoliad 15 —
nad yw, ac nad yw wedi bod, yn aelod, yn aelod cyfetholedig nac yn swyddog, neu
nad yw'n briod i aelod neu swyddog
o'r awdurdod perthnasol o dan sylw, unrhyw awdurdod perthnasol arall na chyngor cymuned;
ystyr “aelod pwyllgor cymunedol” (“community committee member”) yw aelod o bwyllgor safonau sy'n aelod hefyd o gyngor cymuned yn ardal yr awdurdod perthnasol o dan sylw;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1);
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw —
cyngor sir,
cyngor bwrdeistref sirol,
awdurdod Parc Cenedlaethol, ac
awdurdod tân;
ystyr “awdurdod tân” (“fire authority”) yw awdurdod tân a gyfansoddwyd trwy gynllun cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(2);
mae i “bwrdd” (“board”) yr ystyr a roddir iddo gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(3);
mae “cadeirydd” (“chairperson”), at ddibenion rheoliad 8(3), yn cynnwys —
cadeirydd a etholir o dan baragraff 5 o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995(4)), a
cadeirydd a etholir o dan baragraff 17 o Ran III o'r Atodlen i unrhyw un o'r Gorchmynion Gwasanaethau Tân;
ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(5);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
mae “dirprwy gadeirydd” (“deputy chairperson”) yn cynnwys —
dirprwy gadeirydd a etholir o dan baragraff 5 o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995, a
is-gadeirydd a etholir o dan baragraff 17 o Ran III o'r Atodlen i unrhyw un o'r Gorchmynion Gwasanaethau Tân;
ystyr “y Gorchmynion Gwasanaethau Tân” (“the Fire Service Orders”) yw —
ystyr “gweithrediaeth arweinydd a chabinet” (“leader and cabinet executive”) yw'r math o drefniadau gweithrediaeth a bennir yn adran 11(3) o Ddeddf 2000;
ystyr “gweithrediaeth maer a chabinet” (“mayor and cabinet executive”) yw'r math o drefniadau gweithrediaeth a bennir naill ai —
yn adran 11(2), neu
yn adran 11(4)o Ddeddf 2000;
ystyr “is-bwyllgor i bwyllgor safonau” (“sub- committee of a standards committee”) yw is- bwyllgor a benodir gan bwyllgor safonau awdurdod lleol o dan adran 56 o Ddeddf 2000;
ystyr “pwyllgor safonau” (“standards committee”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw pwyllgor safonau awdurdod perthnasol ac mae'n cynnwys is-bwyllgor i bwyllgor safonau;
mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” gan adran 270(3) o Ddeddf 1972;
ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw'r trefniadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 32(1) o Ddeddf 2000;
ystyr “trefniadau gweithrediaeth” (“executive arrangements”) yw trefniadau gan awdurdod lleol —
ar gyfer creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod ac mewn cysylltiad â hynny, a
y mae swyddogaethau penodol i'r awdurdod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth o danynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: