- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
22.—(1) Rhaid i aelodau pwyllgor safonau ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith aelodau annibynnol y pwyllgor hwnnw.
(2) Ethol cadeirydd ac is-gadeirydd yw'r busnes cyntaf y mae'n rhaid ei drafod yng nghyfarfod cyntaf pwyllgor safonau.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) uchod, y cadeirydd fydd yn llywyddu mewn cyfarfodydd pwyllgor safonau.
(4) Os yw'r cadeirydd yn absennol o gyfarfod pwyllgor safonau, yna is-gadeirydd y pwyllgor, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.
(5) Os bydd cadeirydd ac is-gadeirydd pwyllgor safonau yn absennol o un o gyfarfodydd y pwyllgor hwnnw, rhaid i'r aelod annibynnol o'r pwyllgor safonau hwnnw y bydd aelodau'r pwyllgor hwnnw yn ei ddewis lywyddu.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9), rhaid i gadeirydd pwyllgor safonau gael ei ethol am ba un bynnag yw'r byrraf o'r cyfnodau canlynol —
(a)cyfnod heb fod yn llai na phedair blynedd nac yn fwy na chwe blynedd, neu
(b)tan fydd tymor swydd y person hwnnw fel aelod annibynnol o'r pwyllgor safonau yn dod i ben.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9), rhaid i is-gadeirydd pwyllgor safonau gael ei ethol am ba un bynnag yw'r byrraf o'r cyfnodau canlynol —
(a)cyfnod heb fod yn llai na phedair blynedd nac yn fwy na chwe blynedd, neu
(b)tan fydd cyfnod swydd y person hwnnw fel aelod annibynnol o'r pwyllgor safonau yn dod i ben.
(8) Gall person a etholir yn gadeirydd neu is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddog priodol yr awdurdod perthnasol o dan sylw.
(9) Pan fydd lle gwag yn swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn cael ei lenwi, rhaid i'r person a benodir felly ddal ei swydd am ba un bynnag yw'r byrraf o'r cyfnodau canlynol —
(a)tan y dyddiad y byddai cyfnod swydd y person y mae'r person hwnnw wedi'i ethol yn ei le wedi dod i ben, neu
(b)tan y bydd cyfnod swydd y person hwnnw fel aelod annibynnol o'r pwyllgor safonau hwnnw yn dod i ben.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: