Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 9

ATODLEN 2SWYDDOGAETHAU A ALL FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD (OND NAD OES ANGEN IDDYNT FOD FELLY)

1.  Unrhyw swyddogaeth a dan Ddeddf leol heblaw swyddogaeth a bennir neu y cyfeirir ati o'r cyfarwyddiadau yn Atodlen 1.

2.  Dyfarnu ar apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod neu ar ei ran.

3.  Penodi byrddau adolygu o dan reoliadau o dan is-adran (4) o adran 34 (dyfarnu ar geisiadau ac adolygiadau) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1998(1).

4.  Gwneud trefniadau yn unol ag is-adran (1) o adran 67 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau yn erbyn gwahardd disgyblion) ac Atodlen 18 iddi.

5.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 94(1) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau derbyn) ac Atodlen 24 iddi.

6.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (plant y mae adran 87 yn gymwys iddynt: apelau gan gyrff llywodraethu) ac Atodlen 25 iddi.

7.  Gwneud trefniadau o dan adran 20 (cwestiynau ynghylch materion yr heddlu mewn cyfarfodydd cyngor) o Ddeddf yr Heddlu 1996(2) i ganiatáu gofyn cwestiynau ynghylch cyflawni swyddogaethau awdurdod heddlu.

8.  Gwneud penodiadau o dan baragraffau 2 i 4 (penodi aelodau gan gynghorau perthnasol) o Atodlen 2 (awdurdodau heddlu a sefydlir o dan adran 3) i Ddeddf yr Heddlu 1996.

9.  Cynnal adolygiadau'r gwerth gorau yn unol â darpariaethau unrhyw orchymyn sy'n dwyn effaith am y tro o dan adran 5 (adolygiadau'r gwerth gorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(3).

10.  Unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â thir halogedig(4)).

11.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â rheoli llygredd neu reoli ansawdd aer(5).

12.  Cyflwyno hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol(6)).

13.  Pasio cynnig y dylai Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 fod yn gymwys yn ardal yr awdurdod(7).

14.  Archwilio ardal yr awdurdod i ddod o hyd i unrhyw niwsans statudol(8).

15.  Ymchwilio i unrhyw gŵyn ynghylch bodolaeth niwsans statudol(9)).

16.  Sicrhau gwybodaeth o dan adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(10) ynghylch buddiannau mewn tir.

17.  Sicrhau manylion personau sydd â buddiant mewn tir o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976(11).

18.  Gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd(12).

19.  Penodi unrhyw unigolyn—

(a)i unrhyw swydd heblaw swydd y mae'n cael ei gyflogi ynddi gan yr awdurdod;

(b)i unrhyw gorff heblaw—

(i)yr awdurdod;

(ii)cyd-bwyllgor o ddau neu ragor o awdurdodau; neu

(c)i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,

a diddymu unrhyw benodiad o'r fath.

20.  Y pŵer i wneud taliadau neu i roi budd-daliadau eraill men achosion camweinyddu etc.(13)

21.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.

(1)

1998 p.14. Mae adran 34(4) yn disodli adran 63(3) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992. Mae effaith Rheoliadau Budd-daliadau'r Dreth Gyngor 1992 (O.S. 1992/1814) a Rheoliadau Budd-daliadau Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971), y ceir diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn, yn parhau yn rhinwedd adran 17(2)(b) o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30), er bod adran 63(3) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 wedi'i diddymu.

(4)

Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y Rhan honno.

(5)

Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11).

(6)

Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(7)

Adran 8 o Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).

(8)

Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(9)

Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(10)

1990 p.8.

(11)

1976 p.57.

(12)

Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991 (p.22), adran 23.

(13)

Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources