Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2014-11-25
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân, awdurdodau heddlu ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru (“awdurdodau perthnasol”) fabwysiadu cod ymddygiad i aelodau ac aelodau cyfetholedig ac i Gomisiynydd Lleol yng Nghymru ymchwilio i achosion lle yr honnir bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod, neu ei bod yn bosibl eu bod wedi methu â chydymffurfio ag ef.
2001 Rhif 2288 (Cy. 176)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pŵ er a roddwyd iddo gan adran 77(4) a (6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001 ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 19922.