ATODLEN
Dehongli
1.
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “adroddiad” (“report”) yw'r adroddiad a gynhyrchir gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru yn unol ag adran 71(3)(a) neu 72(1) o'r Ddeddf, y mae copi ohono wedi'i anfon neu wedi'i roi i lywydd Panel Dyfarnu Cymru yn unol ag adran 71(3)(c) neu 72(5)(c) o'r Ddeddf;
ystyr “cofrestr” (“register”) yw'r gofrestr o ddyfarniadau a phenderfyniadau a gedwir yn unol â'r darpariaethau hyn;
ystyr “cofrestrydd” (“registrar”) yw'r person sydd am y tro yn gweithredu fel cofrestrydd tribiwnlysoedd ac mae'n cynnwys unrhyw berson a awdurdodir at y diben gan lywydd Panel Dyfarnu Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
ystyr “person a gyhuddwyd” (“accused person”) yw person sy'n destun yr ymchwiliad a arweiniodd at y cyfeiriad at Banel Dyfarnu Cymru o dan adran 71(3) neu 72(4) o'r Ddeddf;
F1...; ac
ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys achos a sefydlir o dan adran 76(1) o'r Ddeddf neu dribiwnlys achos interim a sefydlir o dan adran 76(2) o'r Ddeddf (yn ôl fel y digwydd).