Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001

Profi dogfennau a thystysgrif penderfyniadauLL+C

23.—(1Bernir bod unrhyw ddogfen sy'n honni ei bod yn ddogfen sydd wedi'i gweithredu neu wedi'i rhoi yn briodol gan y cofrestrydd ar ran y tribiwnlys yn ddogfen sydd wedi'i gweithredu neu wedi'i rhoi felly, yn ôl fel y digwydd, oni phrofir i'r gwrthwyneb.

(2Bydd dogfen sy'n honni ei bod wedi'i hardystio gan y cofrestrydd fel copi cywir o unrhyw gofnod o benderfyniad yn y gofrestr yn dystiolaeth ddigonol o'r cofnod ac o'r materion a gynhwysir ynddo, oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. para. 23 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)