ATODLEN

Rheoliad 2

DehongliI11

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “adroddiad” (“report”) yw'r adroddiad a gynhyrchir gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru yn unol ag adran 71(3)(a) neu 72(1) o'r Ddeddf, y mae copi ohono wedi'i anfon neu wedi'i roi i lywydd Panel Dyfarnu Cymru yn unol ag adran 71(3)(c) neu 72(5)(c) o'r Ddeddf;

  • ystyr “cofrestr” (“register”) yw'r gofrestr o ddyfarniadau a phenderfyniadau a gedwir yn unol â'r darpariaethau hyn;

  • ystyr “cofrestrydd” (“registrar”) yw'r person sydd am y tro yn gweithredu fel cofrestrydd tribiwnlysoedd ac mae'n cynnwys unrhyw berson a awdurdodir at y diben gan lywydd Panel Dyfarnu Cymru;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

  • ystyr “person a gyhuddwyd” (“accused person”) yw person sy'n destun yr ymchwiliad a arweiniodd at y cyfeiriad at Banel Dyfarnu Cymru o dan adran 71(3) neu 72(4) o'r Ddeddf;

  • F1...; ac

  • ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys achos a sefydlir o dan adran 76(1) o'r Ddeddf neu dribiwnlys achos interim a sefydlir o dan adran 76(2) o'r Ddeddf (yn ôl fel y digwydd).

Cydnabod, cofrestru a hysbysuI22

Yn dilyn cyfeiriad gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru o dan adran 71(3) neu 72(4) o'r Ddeddf, rhaid i'r cofrestrydd—

a

anfon cydnabyddiaeth at y Comisiynydd Lleol o'r ffaith bod y cyfeiriad wedi dod i law;

b

nodi manylion y cyfeiriad yn y gofrestr;

c

rhoi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw berson a gyhuddwyd ynghylch y cyfeiriad, rhif yr achos a nodwyd yn y gofrestr (a fydd yn ffurfio teitl y dyfarniad) a'r cyfeiriad lle y mae'n rhaid anfon hysbysiadau a gohebiaeth arall at y tribiwnlys; ac

ch

anfon gyda'r hysbysiad gopi o'r adroddiad ac unrhyw wybodaeth arall sy'n briodol i'r achos gan gynnwys gwybodaeth ynghylch traddodi ateb.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. para. 2 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

AtebI33

1

Rhaid i berson a gyhuddwyd draddodi ateb ysgrifenedig i'r cofrestrydd sy'n cydnabod bod yr hysbysiad wedi dod i law ac yn datgan—

a

a yw'r person hwnnw yn bwriadu

i

bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, neu

ii

herio cynnwys yr adroddiad ac, os felly, ar ba sail;

b

enw a chyfeiriad a phroffesiwn unrhyw berson sydd i'w gynrychioli ac ai'r cyfeiriad hwnnw fydd cyfeiriad y person hwnnw ar gyfer cyflwyno dogfennau at ddibenion y dyfarniad; ac

c

a yw'r person hwnnw yn dymuno bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn Gymraeg neu yn Saesneg.

2

Rhaid i ateb o'r fath gael ei lofnodi naill ai gan y person a gyhuddwyd neu gan y cynrychiolydd y mae wedi'i enwebu a chael ei draddodi i'r cyfeiriad ar gyfer y tribiwnlys a bennwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan baragraff 2(c) uchod heb fod yn hwyrach nag un diwrnod ar hugain ar ôl y dyddiad y daeth yr hysbysiad i law neu erbyn unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y tribiwnlys yn ei ganiatáu.

3

Os na chaiff y cofrestrydd ateb o fewn yr amser penodedig neu o fewn unrhyw estyniad amser a ganiateir gan y tribiwnlys, neu os yw'r person a gyhuddwyd yn datgan yn ei ateb nad yw'n bwriadu naill ai bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad na herio cynnwys yr adroddiad, caiff y tribiwnlys benderfynu ar y dyfarniad heb wrandawiad.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. para. 3 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Sylwadau ysgrifenedigI44

Caiff person a gyhuddwyd sydd wedi traddodi ateb ysgrifenedig i'r cofrestrydd sy'n datgan nad yw'n bwriadu bod yn bresennol na chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad na herio cynnwys yr adroddiad anfon at y cofrestrydd sylwadau ysgrifenedig y mae'n rhaid iddynt gael eu hystyried gan y tribiwnlys cyn i benderfyniad ar yr achos gael ei wneud.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. para. 4 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Cyfarwyddiadau wrth baratoi ar gyfer gwrandawiadI55

1

Caiff y tribiwnlys ar unrhyw adeg, ar gais person a gyhuddwyd neu o'i ben a'i bastwn ei hun, roi cyfarwyddiadau i alluogi'r person hwnnw i baratoi ar gyfer y gwrandawiad neu i helpu'r tribiwnlys i benderfynu ar y materion.

2

Rhaid i gais am gyfarwyddiadau gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r cofrestrydd.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. para. 5 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

ManylionI66

Caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu unrhyw fanylion y mae'n rhesymol gofyn amdanynt er mwyn penderfynu ar y dyfarniad.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. para. 6 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Datgelu dogfennau a deunyddiau eraillI77

Caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson draddodi i'r tribiwnlys unrhyw ddogfen neu ddeunyddiau eraill y gall y tribiwnlys ofyn amdanynt ac y mae gan y person hwnnw bŵ er i'w traddodi.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. para. 7 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Gwysio tystionI88

Caiff y tribiwnlys, drwy wŷs, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y Deyrnas Unedig (ac eithrio Comisiynydd Lleol yng Nghymru ac unrhyw aelod o staff y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru) fod yn bresennol fel tyst yng ngwrandawiad dyfarniad ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw le a bennir yn y wŷs ac ateb unrhyw gwestiynau neu ddangos unrhyw ddogfennau neu ddeunyddiau eraill yn y gwrandawiad sydd yn ei gadwraeth neu o dan ei reolaeth sy'n ymwneud ag unrhyw fater sydd o dan sylw yn y dyfarniad, ar yr amod—

a

na fydd yn ofynnol i unrhyw berson fod yn bresennol gan ufuddhau i wŷs o'r fath oni bai ei fod wedi cael o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg o hysbysiad am y gwrandawiad neu, o gael llai na phedwar diwrnod ar ddeg, ei fod wedi rhoi gwybod i'r tribiwnlys ei fod yn derbyn unrhyw hysbysiad o'r fath sydd wedi'i roi; a

b

na fydd yn ofynnol i unrhyw berson, heblaw person a gyhuddwyd, gan ufuddhau i wŷs o'r fath, fod yn bresennol a rhoi tystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen oni bai bod treuliau angenrheidiol bod yn bresennol yn cael eu talu neu eu cynnig iddo.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. para. 8 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

F2Presenoldeb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus CymruI99

1

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yr hawl i fod yn bresennol, a chaniateir i'r tribiwnlys wneud cais i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod yn bresennol, mewn gwrandawiad dyfarnu at ddibenion—

a

cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a

b

fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r tribiwnlys yn y gwrandawiad ag y mae'r tribiwnlys yn ystyried ei bod yn briodol.

2

Rhaid peidio â gwrthod yn afresymol gais a wneir o dan is-baragraff (1) ac os gwrthodir cais o'r fath rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru roi rhesymau ysgrifenedig i'r tribiwnlys am beidio â chydymffurfio â'r cais i fod yn bresennol mewn gwrandawiad.

3

Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gael ei gynrychioli gan gwnsler neu gyfreithiwr.

ArbenigwyrI1010

1

Pan fydd y tribiwnlys yn barnu bod unrhyw gwestiwn yn codi y byddai'n ddymunol cael cymorth arbenigydd yn ei gylch, caiff wneud trefniadau i berson â chymwysterau priodol ymchwilio i'r mater ac adrodd arno ac, os bydd y tribiwnlys yn gofyn iddo wneud hynny, i fod yn bresennol yn y gwrandawiad a rhoi tystiolaeth

2

Rhaid darparu copi o adroddiad a geir oddi wrth arbenigydd i bob person a gyhuddywd cyn y gwrandawiad neu unrhyw wrandawiad sy'n cael ei ailddechrau.

3

Rhaid i'r tribiwnlys fod yn gyfrifol am dalu ffioedd arbenigydd.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. para. 10 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Amrywio neu neilltuo cyfarwyddiadauI1111

Os na chafodd person y cyfeirir cyfarwyddyd (gan gynnwys unrhyw wŷs) ato gyfle i wrthwynebu gwneud y cyfarwyddyd, caiff wneud cais i'r tribiwnlys am ei amrywio neu ei neilltuo ond rhaid i'r tribiwnlys beidio â gwneud hynny heb yn gyntaf hysbysu'r person a wnaeth y cais am y cyfarwyddyd ac ystyried unrhyw sylwadau a wneir ganddo.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. para. 11 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Adolygiad cyn gwrandawiadI1212

1

Os bydd yn ymddangos i'r tribiwnlys y byddai cynnal adolygiad cyn gwrandawiad yn hwyluso dyfarniad, caiff roi cyfarwyddiadau, o'i ben a'i bastwn ei hun neu ar gais person a gyhuddwyd, i adolygiad o'r fath gael ei gynnal. Rhaid i'r cofrestrydd roi o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg o rybudd ynghylch amser a lle'r adolygiad i bob person a gyhuddwyd.

2

Rhaid cynnal yr adolygiad yn breifat oni bai bod y tribiwnlys yn cyfarwyddo fel arall ac fe gaiff unrhyw person a gyhuddwyd ymddangos a chael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.

3

Mewn adolygiad:—

a

rhaid i'r tribiwnlys neu, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), y cofrestrydd roi pob cyfarwyddyd y mae'n ymddangos ei fod yn angenrheidiol neu'n ddymunol i sicrhau bod y dyfarniad yn cael ei gynnal yn gyfiawn, yn fuan ac yn ddarbodus;

b

rhaid i'r tribiwnlys neu,yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), y cofrestrydd ymdrechu i sicrhau bod unrhyw berson a gyhuddwyd yn gwneud pob addefiad a chytundeb a ddylai gael eu gwneud yn rhesymol mewn perthynas â'r dyfarniad; ac

c

fe gaiff y tribiwnlys, os bydd pob person a gyhuddwyd yn cytuno, benderfynu ar y dyfarniad yn ôl y dogfennau a'r datganiadau sydd ger ei fron ar y pryd heb unrhyw wrandawiad pellach.

4

Rhaid i'r cofrestrydd arfer y pwerau a roddir iddo gan is-baragraff (3)(a) a (b) yn unol â chyfarwyddiadau'r tribiwnlys a gall unrhyw gyfarwyddyd sy'n cael ei roi gan y cofrestrydd gael ei neilltuo neu ei amrywio gan y tribiwnlys o'i ben a'i bastwn ei hun neu ar gais person a gyhuddwyd.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. para. 12 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Hysbysu lle ac amser y gwrandawiadI1313

1

Rhaid i'r cofrestrydd bennu dyddiad, amser a lle y gwrandawiad ac anfon hysbysiad am y gwrandawiad at unrhyw berson a gyhuddwyd heb fod yn llai nag un diwrnod ar hugain cyn y dyddiad hwnnw.

2

Yn hysbysiad y gwrandawiad neu gydag ef rhaid i'r cofrestrydd gynnwys—

a

gwybodaeth a chanllawiau, ar ffurf a gymeradwywyd gan lywydd Panel Dyfarnu Cymru, ynghylch presenoldeb tystion yn y gwrandawiad, dod â dogfennau, a'r hawl i gael eich cynrychioli gan berson arall; ac

b

datganiad sy'n esbonio canlyniadau posibl peidio â bod yn bresennol a hawl unrhyw berson a gyhuddwyd sydd wedi traddodi ateb ond nad yw'n bresennol ac nad yw'n cael ei gynrychioli i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

3

Caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad a rhaid i'r cofrestrydd roi nid llai na saith diwrnod o hysbysiad o unrhyw ohiriad o'r fath i unrhyw berson a gyhuddwyd.

4

O dro i dro caiff y tribiwnlys dorri gwrandawiad ac, os caiff amser a lle y gwrandawiad a dorrwyd eu cyhoeddi cyn y toriad, ni fydd angen hysbysiad pellach.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. para. 13 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Hysbysiad cyhoeddus am wrandawiadauI1414

Rhaid i'r cofrestrydd drefnu bod y rhestr o'r holl ddyfarniadau y cynhelir gwrandawiad llafar ar eu cyfer ac o ddyddiad, amser a lle y gwrandawiad ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. para. 14 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Pŵ er i benderfynu ar ddyfarniad heb wrandawiadI1515

1

Caiff y tribiwnlys—

a

os yw pob person a gyhuddwyd yn cytuno felly yn ysgrifenedig, neu

b

o dan yr amgychiadau a ddisgrifir ym mhararagraff 3(3) uchod,

benderfynu ar ddyfarniad, neu ar unrhyw fater penodol, heb wrandawiad.

2

Bydd darpariaethau paragraffau 17(2) ac 18(6) yn gymwys mewn perthynas â phenderfynu ar ddyfarniad, neu ar unrhyw fater penodol, yn unol â'r paragraff hwn.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. para. 15 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Gwrandawiadau i fod yn gyhoeddus:eithriadauI1616

1

Rhaid i holl wrandawiadau tribiwnlys gael eu cynnal yn gyhoeddus ac eithrio pan yw'r tribiwnlys o'r farn y byddai cyhoeddusrwydd yn niweidio buddiannau cyfiawnder.

2

Bydd gan y personau canlynol hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad, p'un a gaiff ei gynnal yn breifat neu beidio—

a

llywydd ac aelodau Panel Dyfarnu Cymru, neu unrhyw aelod ohono, er nad hwy yw'r tribiwnlys at ddibenion y gwrandawiad;

F3b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

c

Comisiynydd Lleol yng Nghymru neu gynrychiolydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru; ac

ch

swyddog monitro awdurdod y mae'r person a gyhuddwyd yn aelod neu'n aelod cyfetholedig ohono F4neu gynrychiolydd y swyddog monitro .

3

Caiff y tribiwnlys ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat.

4

Heb ragfarnu unrhyw bwerau a all fod ganddo, caiff tribiwnlys wahardd o wrandawiad, neu o ran honno, unrhyw berson y mae ei ymddygiad wedi tarfu ar y gwrandawiad, neu'n debygol o darfu arno ym marn y tribiwnlys.

Methiant partïon i fod yn bresennol mewn gwrandawiadI1717

1

Os bydd person a gyhuddwyd yn methu â bod yn bresennol neu â chael ei gynrychioli mewn gwrandawiad y mae wedi'i hysbysu'n briodol amdano, caiff y tribiwnlys—

a

oni bai ei fod wedi'i fodloni bod rheswm digonol dros yr absenoldeb hwnnw, wrando a phenderfynu ar y dyfarniad yn absenoldeb y person hwnnw; neu

b

torri'r gwrandawiad;

a chaiff wneud unrhyw orchymyn ynghylch costau a threuliau a wêl yn dda.

2

Cyn penderfynu y dylid penderfynu ar ddyfarniad yn absenoldeb person a gyhuddwyd, rhaid i'r tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y person hwnnw mewn ymateb i'r hysbysiad am y gwrandawiad ac, at ddibenion y paragraff hwn, rhaid trin unrhyw ateb fel sylw ysgrifenedig.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. para. 17 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Y weithdrefn mewn gwrandawiadI1818

1

Ar ddechrau'r gwrandawiad rhaid i'r cadeirydd esbonio'r drefn y mae'r tribiwnlys yn bwriadu ei mabwysiadu ar gyfer yr achos.

2

Yn ddarostyngedig i'r paragraff hwn, bydd y tribiwnlys yn cynnal y gwrandawiad yn y modd hwnnw sydd fwyaf addas ym marn y tribiwnlys i egluro'r materion sydd ger ei fron ac sydd fwyaf addas yn gyffredinol ar gyfer trafod y dyfarniad yn gyfiawn; cyn belled ag y bo'n ymddangos i'r tribiwnlys fod hynny'n briodol, rhaid i'r tribiwnlys geisio osgoi ffurfioldeb yn ei achosion.

3

Gall y gwrandawiad gael ei gynnal naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg yn ôl cyfarwyddyd y tribiwnlys ac wrth roi cyfarwyddyd o'r fath rhaid i'r tribiwnlys gymryd i ystyriaeth unrhyw ddewis a nodwyd gan berson a gyhuddwyd mewn ateb a draddodwyd o dan baragraff 3, ac, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gweithredu'r dewis hwnnw . Yn y naill achos neu'r llall rhaid i wasanaeth cyfieithu ar y pryd gael ei ddarparu ar gyfer unrhyw berson sy'n bresennol yn y gwrandawiad ac sy'n gofyn amdano.

4

Bydd gan unrhyw berson a gyhuddwyd hawl i roi tystiolaeth, i alw tystion, i holi unrhyw dystion ac i gyfarch y tribiwnlys ar y dystiolaeth ac yn gyffredinol ar bwnc y dyfarniad.

5

Gall tystiolaeth gerbron y tribiwnlys gael ei rhoi ar lafar, neu, os yw'r tribiwnlys yn gorchymyn felly, drwy affidafid neu ddatganiad ysgrifenedig, ond caiff y tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg yn yr achos i unrhyw un sy'n tystio datganiad ysgrifenedig neu'n gwneud un fod yn bresennol.

6

Caiff y tribiwnlys dderbyn tystiolaeth o unrhyw ffaith y mae'n ymddangos i'r tribiwnlys ei bod yn berthnasol er na fyddai'r dystiolaeth honno yn dderbyniadwy mewn achos gerbron llys barn ond rhaid iddo beidio â gwrthod derbyn unrhyw dystiolaeth sy'n dderbyniadwy yn y gyfraith ac yn berthnasol.

7

Caiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dyst roi tystiolaeth ar lw neu ar gadarnhad, ac at y diben hwnnw gall llw neu gadarnhad ar ffurf briodol gael eu rhoi.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. para. 18 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Penderfyniad TribiwnlysI1919

1

Gall penderfyniad tribiwnlys gael ei gymryd gan fwyafrif a rhaid i'r penderfyniad gofnodi a fu'n unfrydol neu a gafodd ei gymryd gan fwyafrif.

2

Gall penderfyniad tribiwnlys gael ei roi ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad neu ei gadw a, beth bynnag, p'un a gafwyd gwrandawiad neu beidio, rhaid ei gofnodi ar unwaith mewn dogfen y mae'n rhaid iddi gynnwys hefyd ddatganiad o'r rhesymau dros ei benderfyniad a chael ei llofnodi a'i dyddio gan y cadeirydd.

3

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i bob dogfen y cyfeirir ati yn y paragraff hwn gael ei chofnodi yn y gofrestr cyn gynted ag y gellir.

4

Os bydd unrhyw ddogfen o'r fath yn cyfeirio at unrhyw dystiolaeth sydd wedi'i gwrando yn breifat, dim ond crynodeb o'r ddogfen a nodir yn y gofrestr, gan hepgor unrhyw ddeunydd a gyfarwyddir gan y tribiwnlys.

5

Ac eithrio lle cyhoeddir penderfyniad ar ddiwedd y gwrandawiad, trinnir y ddogfen sy'n ei gofnodi fel pe bai wedi'i gwneud ar y dyddiad y caiff ei chofnodi yn y gofrestr.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. para. 19 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Gorchmynion costau a threuliauI2020

1

Ac eithrio fel y darperir gan baragraff 17(1), rhaid i'r tribiwnlys beidio â gwneud gorchymyn fel rheol i ddyfarnu costau a threuliau, ond yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), fe gaiff wneud gorchymyn o'r fath yn erbyn person os yw o'r farn bod y person hwnnw wedi gweithredu'n wacsaw neu'n flinderus neu fod ei ymddygiad wedi bod yn hollol afresymol.

2

Rhaid peidio â gwneud gorchymyn o dan is-baragraff (1) yn erbyn person heb i'r person hwnnw gael cyfle i gyflwyno sylwadau yn erbyn gwneud y gorchymyn.

3

Gall gorchymyn o dan is-baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i'r person y mae'n cael ei wneud yn ei erbyn dalu i berson arall naill ai swm penodedig mewn perthynas â'r costau a'r treuliau a dynnwyd gan y person arall hwnnw mewn cysylltiad â'r dyfarniad neu'r cyfan neu ran o'r costau hynny fel y maent wedi'u asesu (os na chytunir fel arall).

4

Bydd unrhyw gostau y mae gorchymyn o dan y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu hasesu yn cael eu hasesu yn y llys sirol ar y sail safonol.

5

Bydd swm penodedig unrhyw gostau a threuliau a ddyfernir gan dribiwnlys neu swm y costau a'r treuliau hynny ar ôl ei asesu, onid yw'n cael ei neilltuo ac yn ddarostyngedig i unrhyw amrywiad yn sgil apêl neu adolygiad, yn dwyn llog o'r pedwerydd diwrnod ar ddeg ar ôl dyddiad dyfarnu'r costau yn ôl y gyfradd sy'n cael ei rhagnodi am y tro o dan adran 69 o Ddeddf Llysoedd Sirol 19844.

6

Gellir caslgu swm penodedig unrhyw gostau a threuliau neu swm y rheiny fel y mae wedi'i asesu ynghyd ag unrhyw log arnynt drwy atafaeleb a roddir gan lys sirol.

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. para. 20 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

AnghysondebauI2121

1

Ni fydd unrhyw anghysondeb sy'n deillio o fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r darpariaethau hyn neu ag unrhyw gyfarwyddyd gan y tribiwnlys cyn i'r tribiwnlys ei hun gyrraedd ei benderfyniad ynddo'i hun yn golygu bod y dyfarniad yn annilys.

2

Pan ddaw unrhyw anghysondeb o'r fath i sylw'r tribiwnlys, fe gaiff y tribiwnlys, ac os yw o'r farn y gall unrhyw berson fod wedi'i ragfarnu gan yr anghysondeb rhaid i'r tribiwnlys, roi unrhyw gyfarwyddiadau y mae'n credu eu bod yn gyfiawn cyn cyrraedd ei benderfyniad i gywiro'r anghysondeb neu i'w hepgor.

3

Gall gwallau clerigol mewn unrhyw ddogfen sy'n cofnodi cyfarwyddyd neu benderfyniad gan y tribiwnlys, neu wallau sy'n codi mewn dogfen o'r fath yn sgil llithriad neu hepgoriad damweiniol, gael eu cywiro gan y cadeirydd drwy ardystiad o dan ei law.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. para. 21 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Y gofrestr a chyhoeddi penderfyniadauI2222

1

Rhaid i'r gofrestr gael ei chadw yng nghyfeiriad Panel Dyfarnu Cymru a rhaid iddi fod yn agored i unrhyw berson ei harchwilio yn ddi-dâl ar bob adeg resymol.

2

Caiff y tribiwnlys wneud trefniadau sy'n briodol ym marn y tribiwnlys ar gyfer cyhoeddi ei benderfyniadau ond, wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i'r angen i gadw cyfrinachedd unrhyw dystiolaeth a wrandawyd yn breifat ac at y diben hwnnw caiff wneud unrhyw ddiwygiadau sy'n angenrheidiol i destun penderfyniad.

Annotations:
Commencement Information
I22

Atod. para. 22 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Profi dogfennau a thystysgrif penderfyniadauI2323

1

Bernir bod unrhyw ddogfen sy'n honni ei bod yn ddogfen sydd wedi'i gweithredu neu wedi'i rhoi yn briodol gan y cofrestrydd ar ran y tribiwnlys yn ddogfen sydd wedi'i gweithredu neu wedi'i rhoi felly, yn ôl fel y digwydd, oni phrofir i'r gwrthwyneb.

2

Bydd dogfen sy'n honni ei bod wedi'i hardystio gan y cofrestrydd fel copi cywir o unrhyw gofnod o benderfyniad yn y gofrestr yn dystiolaeth ddigonol o'r cofnod ac o'r materion a gynhwysir ynddo, oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Annotations:
Commencement Information
I23

Atod. para. 23 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Dull anfon, traddodi neu gyflwyno dogfennau, etc.I2424

1

Bydd unrhyw ddogfen y mae'r darpariaethau hyn yn gofyn neu'n awdurdodi ei hanfon, ei thraddodi neu ei chyflwyno i unrhyw berson wedi'i hanfon, wedi'i thraddodi neu wedi'i chyflwyno yn briodol i'r person hwnnw—

a

os yw wedi'i hanfon at y person hwnnw yn ei gyfeiriad priodol drwy'r post mewn llythyr cofrestredig neu drwy ddosbarthiad a gofnodwyd;

b

os yw wedi'i hanfon ato yn y cyfeiriad hwnnw drwy neges ffacsimili neu unrhyw gyfrwng arall sy'n cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun yr ohebiaeth, ac os felly bernir bod y ddogfen wedi'i hanfon pan fydd wedi dod i law ar ffurf ddarllenadwy; neu

c

os yw wedi'i thraddodi iddo neu wedi'i gadael yn ei gyfeiriad.

2

Bydd unrhyw ddogfen y gofynnir neu yr awdurdodir ei hanfon, ei thraddodi neu ei chyflwyno i gwmni neu gorff corfforedig wedi'i hanfon, wedi'i thraddodi neu wedi'i chyflwyno os yw wedi'i hanfon, wedi'i thraddodi, neu wedi'i chyflwyno i ysgrifennydd y cwmni neu'r corff.

3

Cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae unrhyw ddogfen o'r fath i'w hanfon, ei thraddodi neu ei chyflwyno iddo fydd cyfeiriad hysbys diwethaf y person o dan sylw ac yn achos ysgrifennydd unrhyw gwmni neu gorff corfforedig, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y cwmni neu'r corff.

Annotations:
Commencement Information
I24

Atod. para. 24 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

AmserI2525

Pan fydd yr amser a ragnodir gan y darpariaethau hyn ar gyfer gwneud unrhyw weithred yn dod i ben ar ddydd Sul neu ar ŵ yl gyhoeddus, bydd y weithred yn brydlon o'i gwneud ar y diwrnod canlynol nesaf nad yw'n ddydd Sul neu'n ŵ yl gyhoeddus.