ATODLENCOD YMDDYGIAD ENGHREIFFTIOL I AELODAU CYNGHORAU SIR, CYNGHORAU BWRDEISTREF SIROL A CHYNGHORAU CYMUNED, AWDURDODAU TÅN AC AWDURDODAU PARCIAU CENEDLAETHOL YNG NGHYMRU

RHAN II

Cwmpas

Darpariaethau Cyffredinol

1

Rhaid i aelodau gadw'r cod ymddygiad hwn pryd bynnag y byddant:

a

yn cynnal busnes yr awdurdod;

b

yn ymgymryd â rôl aelod yr etholwyd hwy neu y penodwyd hwy iddi; neu

c

yn gweithredu fel cynrychiolwyr yr awdurdod.

2

Rhaid i'r cod ymddygiad hwn, oni nodir fel arall, fod yn gymwys i'r gweithgareddau hynny y mae aelod yn ymgymryd â hwy yn rhinwedd ei swydd fel aelod yn unig .

3

Pan fydd aelod yn gweithredu fel cynrychiolydd yr awdurdod ar gorff arall, rhaid i'r aelod hwnnw, wrth weithredu yn rhinwedd y swydd honno, gydymffurfio â'r cod ymddygiad hwn, oni fydd yn gwrthdaro ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol sy'n codi yn sgî l gwasanaethu ar y corff hwnnw. Pan na fydd penodiad aelod i gorff arall yn deillio o safle'r aelod fel aelod o'r awdurdod, ni fydd y cod hwn yn gymwys i'r aelod, a fydd yn hytrach yn ddarostyngedig i god ymddygiad y corff arall. Er hynny, disgwylir i aelod felly roi sylw i egwyddorion cyffredinol ymddygiad6 a pheidio â dwyn anfri ar swydd aelod nac ar yr awdurdod.

Hybu Cydraddoldeb a Pharch at Eraill

4

Rhaid i aelodau o'r awdurdod:

a

cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau â sylw dyladwy i'r angen i hybu cydraddoldeb cyfle i bawb, waeth beth yw eu gender, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rywiol, eu hoed neu eu crefydd, a dangos parch ac ystyriaeth at eraill,

b

peidio â gwneud dim sy'n cyfaddawdu, neu sy'n debygol o gyfaddawdu, didueddwch gweithwyr cyflogedig yr awdurdod.

Atebolrwydd a Bod yn Agored

5

Rhaid i aelodau:

a

peidio â datgelu gwybodaeth a roddir yn gyfrinachol, heb gydsyniad pendant person a awdurdodir i roi'r cydsyniad hwnnw, neu onid yw'r gyfraith yn mynnu hynny;

b

peidio â rhwystro unrhyw berson rhag cael gweld gwybodaeth y mae gan y person hwnnw hawl i'w gweld yn ôl y gyfraith.

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

6

1

Rhaid i aelodau:

a

yn rhinwedd eu swyddi neu fel arall, beidio â chyflawni tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni;

b

yn rhinwedd eu swyddi neu fel arall, beidio ag ymddwyn mewn dull y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy'n dwyn anfri ar swydd aelod neu ar yr awdurdod;

c

adrodd i'r Comisiynydd Lleol dros Weinyddu Lleol yng Nghymru ac i swyddog monitro'r awdurdod ar unrhyw ymddygiad gan aelod arall y maent yn credu ei fod yn golygu neu ei fod yn debygol o olygu methiant i gydymffurfio â'r cod ymddygiad hwn;

ch

adrodd, p'un ai drwy weithdrefn adrodd gyfrinachol yr awdurdod neu'n uniongyrchol i'r awdurdod priodol, ar unrhyw ymddygiad gan berson arall y maent yn credu ei fod yn golygu neu ei fod yn debygol o olygu ymddygiad troseddol;

d

mewn perthynas ag (c) uchod peidio â gwneud unrhyw gwynion blinderus neu faleisus yn erbyn personau eraill.

2

Rhaid i aelod o'r awdurdod (heblaw aelod sy'n destun ymchwiliad gan swyddog monitro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 73(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20007) gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a wneir gan swyddog monitro'r awdurdod hwnnw mewn cysylltiad ag ymchwiliad o'r fath.

Anhunanoldeb a stiwardiaeth

7

Rhaid i aelodau:

a

yn rhinwedd eu swyddi neu fel arall, beidio â defnyddio'u safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais neu anfantais i unrhyw berson ac yn benodol felly eu teulu, eu cyfeillion neu'r rhai y mae ganddynt gysylltiad personol agos â hwy nac i sicrhau mantais iddynt eu hunain;

b

pan fyddant yn defnyddio neu'n awdurdodi defnyddio adnoddau yr awdurdod gan aelod arall, wneud hynny'n ddarbodus ac yn unol â'r gyfraith a gofynion yr awdurdod; ac

c

sicrhau nad yw adnoddau'r awdurdod yn cael eu defnyddio'n amhriodol at eu dibenion preifat eu hunain, eu teulu, eu cyfeillion a'r personau y mae ganddynt gysylltiad personol agos â hwy.

Gwrthrychedd a Gwedduster

8

Wrth wneud penderfyniadau rhaid i aelod:

a

gwneud penderfyniadau ar sail rhagoriaethau'r amgylchiadau ac er lles y cyhoedd;

b

gwneud penderfyniadau gan roi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a ddarperir gan swyddogion yr awdurdod – yn benodol gan y canlynol:

i

Prif Swyddog Cyllid yr awdurdod yn gweithredu yn yn unol â dyletswyddau'r swyddog hwnnw o dan adran 114 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19888;

ii

Swyddog Monitro'r awdurdod yn gweithredu yn unol â dyletswyddau'r swyddog hwnnw o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 19899;

iii

Prif Swyddog Cyfreithiol yr awdurdod y dylid ymgynghori ag ef os oes unrhyw amheuaeth ynghylch pŵ er yr awdurdod i weithredu, neu ynghylch a yw'r cam a gynigir yn dod o fewn y fframwaith polisi y cytunwyd arno gan yr awdurdod; os gallai canlyniadau cyfreithiol gweithredu neu fethu â gweithredu gan yr awdurdod gael ôl-effeithiau pwysig;

c

rhoi rhesymau dros benderfyniadau yn unol â gofynion yr awdurdod ac, yn achos cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth, yn unol â rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru10.

Uniondeb

9

Rhaid i aelodau:

a

cadw'r gyfraith a rheolau'r awdurdod sy'n llywodraethu hawlio costau a lwfansau mewn cysylltiad â'u dyletswyddau fel aelodau;

b

osgoi derbyn rhoddion oddi wrth neb, na lletygarwch (heblaw'r lletygarwch swyddogol, megis derbyniad dinesig neu ginio gweithio, a awdurdodir gan yr awdurdod) na buddiannau neu wasanaethau materol iddynt eu hunain neu i unrhyw berson y mae'r aelod yn byw gyda hwy a fyddai'n eu rhoi o dan rwymedigaeth amhriodol, neu y byddai'n rhesymol iddo ymddangos fel pe bai'n gwneud hynny.