ATODLENCOD YMDDYGIAD ENGHREIFFTIOL I AELODAU CYNGHORAU SIR, CYNGHORAU BWRDEISTREF SIROL A CHYNGHORAU CYMUNED, AWDURDODAU TÅN AC AWDURDODAU PARCIAU CENEDLAETHOL YNG NGHYMRU

RHAN II

Cwmpas

Darpariaethau Cyffredinol

1.  Rhaid i aelodau gadw'r cod ymddygiad hwn pryd bynnag y byddant:

(a)yn cynnal busnes yr awdurdod;

(b)yn ymgymryd â rôl aelod yr etholwyd hwy neu y penodwyd hwy iddi; neu

(c)yn gweithredu fel cynrychiolwyr yr awdurdod.

2.  Rhaid i'r cod ymddygiad hwn, oni nodir fel arall, fod yn gymwys i'r gweithgareddau hynny y mae aelod yn ymgymryd â hwy yn rhinwedd ei swydd fel aelod yn unig .

3.  Pan fydd aelod yn gweithredu fel cynrychiolydd yr awdurdod ar gorff arall, rhaid i'r aelod hwnnw, wrth weithredu yn rhinwedd y swydd honno, gydymffurfio â'r cod ymddygiad hwn, oni fydd yn gwrthdaro ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol sy'n codi yn sgî l gwasanaethu ar y corff hwnnw. Pan na fydd penodiad aelod i gorff arall yn deillio o safle'r aelod fel aelod o'r awdurdod, ni fydd y cod hwn yn gymwys i'r aelod, a fydd yn hytrach yn ddarostyngedig i god ymddygiad y corff arall. Er hynny, disgwylir i aelod felly roi sylw i egwyddorion cyffredinol ymddygiad(1) a pheidio â dwyn anfri ar swydd aelod nac ar yr awdurdod.

Hybu Cydraddoldeb a Pharch at Eraill

4.  Rhaid i aelodau o'r awdurdod:

(a)cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau â sylw dyladwy i'r angen i hybu cydraddoldeb cyfle i bawb, waeth beth yw eu gender, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rywiol, eu hoed neu eu crefydd, a dangos parch ac ystyriaeth at eraill,

(b)peidio â gwneud dim sy'n cyfaddawdu, neu sy'n debygol o gyfaddawdu, didueddwch gweithwyr cyflogedig yr awdurdod.

Atebolrwydd a Bod yn Agored

5.  Rhaid i aelodau:

(a)peidio â datgelu gwybodaeth a roddir yn gyfrinachol, heb gydsyniad pendant person a awdurdodir i roi'r cydsyniad hwnnw, neu onid yw'r gyfraith yn mynnu hynny;

(b)peidio â rhwystro unrhyw berson rhag cael gweld gwybodaeth y mae gan y person hwnnw hawl i'w gweld yn ôl y gyfraith.

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

6.—(1Rhaid i aelodau:

(a)yn rhinwedd eu swyddi neu fel arall, beidio â chyflawni tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni;

(b)yn rhinwedd eu swyddi neu fel arall, beidio ag ymddwyn mewn dull y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy'n dwyn anfri ar swydd aelod neu ar yr awdurdod;

(c)adrodd i'r Comisiynydd Lleol dros Weinyddu Lleol yng Nghymru ac i swyddog monitro'r awdurdod ar unrhyw ymddygiad gan aelod arall y maent yn credu ei fod yn golygu neu ei fod yn debygol o olygu methiant i gydymffurfio â'r cod ymddygiad hwn;

(ch)adrodd, p'un ai drwy weithdrefn adrodd gyfrinachol yr awdurdod neu'n uniongyrchol i'r awdurdod priodol, ar unrhyw ymddygiad gan berson arall y maent yn credu ei fod yn golygu neu ei fod yn debygol o olygu ymddygiad troseddol;

(d)mewn perthynas ag (c) uchod peidio â gwneud unrhyw gwynion blinderus neu faleisus yn erbyn personau eraill.

(2Rhaid i aelod o'r awdurdod (heblaw aelod sy'n destun ymchwiliad gan swyddog monitro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 73(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2)) gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a wneir gan swyddog monitro'r awdurdod hwnnw mewn cysylltiad ag ymchwiliad o'r fath.

Anhunanoldeb a stiwardiaeth

7.  Rhaid i aelodau:

(a)yn rhinwedd eu swyddi neu fel arall, beidio â defnyddio'u safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais neu anfantais i unrhyw berson ac yn benodol felly eu teulu, eu cyfeillion neu'r rhai y mae ganddynt gysylltiad personol agos â hwy nac i sicrhau mantais iddynt eu hunain;

(b)pan fyddant yn defnyddio neu'n awdurdodi defnyddio adnoddau yr awdurdod gan aelod arall, wneud hynny'n ddarbodus ac yn unol â'r gyfraith a gofynion yr awdurdod; ac

(c)sicrhau nad yw adnoddau'r awdurdod yn cael eu defnyddio'n amhriodol at eu dibenion preifat eu hunain, eu teulu, eu cyfeillion a'r personau y mae ganddynt gysylltiad personol agos â hwy.

Gwrthrychedd a Gwedduster

8.  Wrth wneud penderfyniadau rhaid i aelod:

(a)gwneud penderfyniadau ar sail rhagoriaethau'r amgylchiadau ac er lles y cyhoedd;

(b)gwneud penderfyniadau gan roi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a ddarperir gan swyddogion yr awdurdod – yn benodol gan y canlynol:

(i)Prif Swyddog Cyllid yr awdurdod yn gweithredu yn yn unol â dyletswyddau'r swyddog hwnnw o dan adran 114 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(3);

(ii)Swyddog Monitro'r awdurdod yn gweithredu yn unol â dyletswyddau'r swyddog hwnnw o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(4);

(iii)Prif Swyddog Cyfreithiol yr awdurdod y dylid ymgynghori ag ef os oes unrhyw amheuaeth ynghylch pŵ er yr awdurdod i weithredu, neu ynghylch a yw'r cam a gynigir yn dod o fewn y fframwaith polisi y cytunwyd arno gan yr awdurdod; os gallai canlyniadau cyfreithiol gweithredu neu fethu â gweithredu gan yr awdurdod gael ôl-effeithiau pwysig;

(c)rhoi rhesymau dros benderfyniadau yn unol â gofynion yr awdurdod ac, yn achos cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth, yn unol â rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(5).

Uniondeb

9.  Rhaid i aelodau:

(a)cadw'r gyfraith a rheolau'r awdurdod sy'n llywodraethu hawlio costau a lwfansau mewn cysylltiad â'u dyletswyddau fel aelodau;

(b)osgoi derbyn rhoddion oddi wrth neb, na lletygarwch (heblaw'r lletygarwch swyddogol, megis derbyniad dinesig neu ginio gweithio, a awdurdodir gan yr awdurdod) na buddiannau neu wasanaethau materol iddynt eu hunain neu i unrhyw berson y mae'r aelod yn byw gyda hwy a fyddai'n eu rhoi o dan rwymedigaeth amhriodol, neu y byddai'n rhesymol iddo ymddangos fel pe bai'n gwneud hynny.

(1)

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001.

(2)

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2281(Cy.171)).

(5)

Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurodau Lleol (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2290 (Cy.178)).