RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwysoI11

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

DehongliI22

Yn y Rheoliadau hyn—

  • nid yw “adroddiad” (“report”) mewn perthynas â phenderfyniad gweithrediaeth yn cynnwys adroddiad ar ffurf

  • “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn unol â Deddf 2000;

  • ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol y mae ei weithrediaeth yn gyfrifol am gyflawni'r swyddogaeth y mae'r penderfyniad gweithrediaeth yn ymwneud â hi;

  • mae “copi” (“copy”) mewn perthynas ag unrhyw ddogfen, yn cynnwys copi sy'n cael ei wneud o gopi;

  • ystyr “corff penderfynu” (“decision making body”) mewn perthynas â phenderfyniad gweithrediaeth yw—

    1. a

      gweithrediaeth awdurdod lleol;

    2. b

      pwyllgor gweithrediaeth awdurdod lleol;

    3. c

      cyd-bwyllgor, pan fydd holl aelodau'r cyd-bwyllgor yn aelodau o weithrediaeth awdurdod lleol; neu

    4. ch

      is-bwyllgor i gyd-bwyllgor, pan fydd holl aelodau'r cyd-bwyllgor yn aelodau o weithrediaeth awdurdod lleol, sydd wedi'i hawdurdodi i gyflawni'r swyddogaeth y mae'r penderfyniad gweithrediaeth yn ymwneud â hi yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 20012;

  • ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw pwyllgor a benodir o dan adran 102(1) o Ddeddf 1972 (penodi pwyllgorau) yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 120 o Ddeddf 20003;

  • ystyr “cyfarfod” (“meeting”) yw cyfarfod gweithrediaeth yr awdurdod, neu gyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor o'r weithrediaeth honno, yn unol â'r rheoliadau hyn;

  • ystyr “cynghorydd neu gynorthwyydd gwleidyddol” (“political adviser or assistant”) yw person a benodir yn unol ag adran 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynorthwywyr ar gyfer grwpiau gwleidyddol)4 neu baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cynorthwyydd maer);

  • ystyr “Deddf 1972” (“the Ddeddf 1972”) yw Deddf Llywodraeth Leol 19725

  • Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

  • ystyr “dogfen” (“document”) yw unrhyw adroddiad neu bapur cefndir, heblaw un sydd ar ffurf ddrafft yn unig, sy'n cael ei gymryd i ystyriaeth mewn perthynas â phenderfyniad gweithrediaeth;

  • mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys barn sy'n cael ei lleisio, argymhelliad ac unrhyw benderfyniad sy'n cael ei wneud;

  • mae i “gwybodaeth esempt” yr ystyr a roddir i “exempt information” gan adran 100I o Ddeddf 1972 (gwybodaeth esempt a'r pŵ er i amrywio Atodlen 12A)6;

  • ystyr “gwybodaeth gyfrinachol” (“confidential information”) yw—

    1. a

      gwybodaeth a ddarparwyd i'r awdurdod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan adran o'r Llywodraeth ar delerau (pa ffordd bynnag y'u mynegwyd) sy'n gwahardd datgelu'r wybodaeth i'r cyhoedd; a

    2. b

      gwybodaeth y gwaherddir ei datgelu i'r cyhoedd gan unrhyw ddeddfiad neu odano neu drwy orchymyn llys,

    ac yn y naill achos neu'r llall, mae cyfeiriad at rwymedigaeth cyfrinachedd i'w dehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “papurau cefndir” (“background papers”), mewn perthynas ag adroddiad, yw'r dogfennau hynny, heblaw gweithiau cyhoeddedig—

    1. a

      sy'n ymwneud â phwnc yr adroddiad; a

    2. b

      sydd ym marn y swyddog priodol—

      1. i

        yn datgelu unrhyw ffeithiau neu faterion y mae'r adroddiad neu ran bwysig o'r adroddiad wedi'i seilio arnynt, a

      2. ii

        yn ddogfennau y dibynnwyd arnynt i raddau perthnasol wrth baratoi'r adroddiad;

  • mae “papur newydd” (“newspaper”) yn cynnwys—

    1. a

      asiantaeth newyddion sy'n cynnal busnes gwerthu a darparu adroddiadau neu wybodaeth i bapurau newydd yn systemataidd; a

    2. b

      unrhyw gorff sydd wrthi'n casglu newyddion yn systemataidd—

      1. i

        ar gyfer darllediadau sain neu deledu; neu

      2. ii

        i'w cynnwys mewn rhaglenni sydd i'w cynnwys mewn unrhyw wasanaeth rhaglenni o fewn ystyr “programme service” yn Neddf Darlledu 1990 heblaw gwasanaeth darlledu sain neu deledu o fewn ystyr “sound or television broadcasting service” yn Rhan III neu Ran I o'r Ddeddf honno yn eu tro7; neu

      3. iii

        i'w defnyddio'n electronig neu mewn unrhyw fformat arall i ddarparu newyddion i'r cyhoedd drwy gyfrwng y Rhyngrwyd.

  • ystyr “penderfyniad gweithrediaeth” (“executive decision”) yw penderfyniad sy'n cael ei wneud neu sydd i'w wneud gan benderfynwr mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth y mae gweithrediaeth awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;

  • ystyr “penderfynwr” (“decision-maker”) yw'r corff penderfynu, neu'r aelod unigol, y mae penderfyniad gweithrediaeth yn cael ei wneud ganddo;

  • ystyr “pwyllgor safonau” (“standards committee”) yw pwyllgor safonau'r awdurdod lleol perthnasol fel y'i sefydlwyd o dan adran 53 o Ddeddf 2000 (pwyllgorau safonau);

  • ystyr “pwyllgor trosolygu a chraffu” (“overview and scrutiny committee”) yw pwyllgor a benodir yn unol ag adran 21 o Ddeddf 2000 (pwyllgorau trosolygu a chraffu);

  • mae i “swyddog priodol” yr un ystyr â “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf 1972 (darpariaethau cyffredinol o ran dehongli).