Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part I:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rhagolygol

RHAN ILL+CCYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • nid yw “adroddiad” (“report”) mewn perthynas â phenderfyniad gweithrediaeth yn cynnwys adroddiad ar ffurf

  • “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn unol â Deddf 2000;

  • ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol y mae ei weithrediaeth yn gyfrifol am gyflawni'r swyddogaeth y mae'r penderfyniad gweithrediaeth yn ymwneud â hi;

  • mae “copi” (“copy”) mewn perthynas ag unrhyw ddogfen, yn cynnwys copi sy'n cael ei wneud o gopi;

  • ystyr “corff penderfynu” (“decision making body”) mewn perthynas â phenderfyniad gweithrediaeth yw—

    (a)

    gweithrediaeth awdurdod lleol;

    (b)

    pwyllgor gweithrediaeth awdurdod lleol;

    (c)

    cyd-bwyllgor, pan fydd holl aelodau'r cyd-bwyllgor yn aelodau o weithrediaeth awdurdod lleol; neu

    (ch)

    is-bwyllgor i gyd-bwyllgor, pan fydd holl aelodau'r cyd-bwyllgor yn aelodau o weithrediaeth awdurdod lleol, sydd wedi'i hawdurdodi i gyflawni'r swyddogaeth y mae'r penderfyniad gweithrediaeth yn ymwneud â hi yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001(1);

  • ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw pwyllgor a benodir o dan adran 102(1) o Ddeddf 1972 (penodi pwyllgorau) yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 120 o Ddeddf 2000(2);

  • ystyr “cyfarfod” (“meeting”) yw cyfarfod gweithrediaeth yr awdurdod, neu gyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor o'r weithrediaeth honno, yn unol â'r rheoliadau hyn;

  • ystyr “cynghorydd neu gynorthwyydd gwleidyddol” (“political adviser or assistant”) yw person a benodir yn unol ag adran 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynorthwywyr ar gyfer grwpiau gwleidyddol)(3) neu baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cynorthwyydd maer);

  • ystyr “Deddf 1972” (“the Ddeddf 1972”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(4)

  • “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

  • ystyr “dogfen” (“document”) yw unrhyw adroddiad neu bapur cefndir, heblaw un sydd ar ffurf ddrafft yn unig, sy'n cael ei gymryd i ystyriaeth mewn perthynas â phenderfyniad gweithrediaeth;

  • mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys barn sy'n cael ei lleisio, argymhelliad ac unrhyw benderfyniad sy'n cael ei wneud;

  • mae i “gwybodaeth esempt” yr ystyr a roddir i “exempt information” gan adran 100I o Ddeddf 1972 (gwybodaeth esempt a'r pŵ er i amrywio Atodlen 12A)(5);

  • ystyr “gwybodaeth gyfrinachol” (“confidential information”) yw—

    (a)

    gwybodaeth a ddarparwyd i'r awdurdod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan adran o'r Llywodraeth ar delerau (pa ffordd bynnag y'u mynegwyd) sy'n gwahardd datgelu'r wybodaeth i'r cyhoedd; a

    (b)

    gwybodaeth y gwaherddir ei datgelu i'r cyhoedd gan unrhyw ddeddfiad neu odano neu drwy orchymyn llys,

    ac yn y naill achos neu'r llall, mae cyfeiriad at rwymedigaeth cyfrinachedd i'w dehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “papurau cefndir” (“background papers”), mewn perthynas ag adroddiad, yw'r dogfennau hynny, heblaw gweithiau cyhoeddedig—

    (a)

    sy'n ymwneud â phwnc yr adroddiad; a

    (b)

    sydd ym marn y swyddog priodol—

    (i)

    yn datgelu unrhyw ffeithiau neu faterion y mae'r adroddiad neu ran bwysig o'r adroddiad wedi'i seilio arnynt, a

    (ii)

    yn ddogfennau y dibynnwyd arnynt i raddau perthnasol wrth baratoi'r adroddiad;

  • mae “papur newydd” (“newspaper”) yn cynnwys—

    (a)

    asiantaeth newyddion sy'n cynnal busnes gwerthu a darparu adroddiadau neu wybodaeth i bapurau newydd yn systemataidd; a

    (b)

    unrhyw gorff sydd wrthi'n casglu newyddion yn systemataidd—

    (i)

    ar gyfer darllediadau sain neu deledu; neu

    (ii)

    i'w cynnwys mewn rhaglenni sydd i'w cynnwys mewn unrhyw wasanaeth rhaglenni o fewn ystyr “programme service” yn Neddf Darlledu 1990 heblaw gwasanaeth darlledu sain neu deledu o fewn ystyr “sound or television broadcasting service” yn Rhan III neu Ran I o'r Ddeddf honno yn eu tro(6); neu

    (iii)

    i'w defnyddio'n electronig neu mewn unrhyw fformat arall i ddarparu newyddion i'r cyhoedd drwy gyfrwng y Rhyngrwyd.

  • ystyr “penderfyniad gweithrediaeth” (“executive decision”) yw penderfyniad sy'n cael ei wneud neu sydd i'w wneud gan benderfynwr mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth y mae gweithrediaeth awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;

  • ystyr “penderfynwr” (“decision-maker”) yw'r corff penderfynu, neu'r aelod unigol, y mae penderfyniad gweithrediaeth yn cael ei wneud ganddo;

  • ystyr “pwyllgor safonau” (“standards committee”) yw pwyllgor safonau'r awdurdod lleol perthnasol fel y'i sefydlwyd o dan adran 53 o Ddeddf 2000 (pwyllgorau safonau);

  • ystyr “pwyllgor trosolygu a chraffu” (“overview and scrutiny committee”) yw pwyllgor a benodir yn unol ag adran 21 o Ddeddf 2000 (pwyllgorau trosolygu a chraffu);

  • mae i “swyddog priodol” yr un ystyr â “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf 1972 (darpariaethau cyffredinol o ran dehongli).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

(1)

O.S. 2001/?.

(2)

Gweler rheoliad 11 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/?).

(5)

Mewnosodwyd adran 100I gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Y Cyfle i Weld Gwybodaeth) 1985 (p.43).

(6)

1990 p.42. Ceir y diffiniad o “programme service” yn adran 201. Mewnosodwyd is-adran (1)(bb) o'r adran honno gan Ddeddf Darlledu 1996 (p.55), Atodlen 10, Rhan I, paragraff 11. Ceir diffiniad o “sound broadcasting service” yn adran 126(1), a ddiwygiwyd gan Ddeddf Darlledu 1996, Atodlen 10, Rhan I, paragraff 9. Ceir diffiniad o “television broadcasting service” yn adran 2(5) a ddiwygiwyd gan Ddeddf Darlledu 1996, Atodlen 10, Rhan I, paragraff 1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources