- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) rhaid i unrhyw ddogfen—
(a)sydd ym meddiant gweithrediaeth awdurdod lleol, neu o dan ei rheolaeth; a
(b)sy'n cynnwys deunydd ynghylch:
(i)unrhyw fusnes a drafodwyd yn un o gyfarfodydd corff penderfynu yr awdurdod hwnnw; neu
(ii)unrhywbenderfyniad sydd wedi'i wneud gan aelod unigol yn unol â threfniadau gweithrediaeth,
fod yn agored i unrhyw aelod o'r awdurdod lleol ei harchwilio pan ddaw'r cyfarfod i ben neu, pan gaiff penderfyniad gweithrediaeth ei wneud gan aelod unigol, yn union ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.
(2) Pan yw'n ymddangos i'r swyddog priodol y byddai cydymffurfio â pharagraff (1) mewn perthynas â dogfen neu ran o ddogfen yn golygu datgelu gwybodaeth esempt o ddisgrifiad sy'n dod o fewn unrhyw un o baragraffau 1 i 6, 9, 11, 12, ac 14 o Ran I o Atodlen 12A i Ddeddf 1972, rhaid peidio â chydymffurfio â pharagraff (1) mewn perthynas â'r ddogfen neu'r rhan honno.
(3) Pan yw'n ymddangos i'r swyddog priodol y byddai cydymffurfio â pharagraff (1) mewn perthynas â dogfen neu ran o ddogfen yn golygu datgelu cyngor a ddarparwyd gan gynghorydd neu gynorthwyydd gwleidyddol, rhaid peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwnnw mewn perthynas â'r ddogfen neu'r rhan honno.
(4) Mae'r hawliau sy'n cael eu rhoi gan baragraff (1) yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill a all fod gan aelod o awdurdod lleol ar wahân i'r rheoliad hwn.
11.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd gan aelod o bwyllgor trosolygu a chraffu awdurdod lleol hawl i gael copïau o unrhyw ddogfen—
(a)sydd ym meddiant neu o dan reolaeth gweithrediaeth yr awdurdod hwnnw; a
(b)sy'n cynnwys deunydd ynghylch—
(i)unrhyw fusnes a drafodwyd yn un o gyfarfodydd corff penderfynu'r awdurdod hwnnw; neu
(ii)unrhyw benderfyniad sydd wedi'i wneud gan aelod unigol o'r weithrediaeth honno yn unol â threfniadau gweithrediaeth.
(2) Ni fydd gan unrhyw aelod o bwyllgor trosolygu a chraffu hawl i gael copi o unrhyw ddogfen neu ran o ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu esempt neu gyngor a ddarparwyd gan gynghorydd neu gynorthwyydd gwleidyddol oni bai bod yr wybodaeth honno yn berthnasol i'r canlynol—
(a)cam neu benderfyniad y mae'r pwyllgor hwnnw neu is-bwyllgor i'r pwyllgor hwnnw yn ei adolygu neu'n craffu arno; neu
(b)yn berthnasol i unrhyw adolygiad sydd wedi'i gynnwys mewn unrhyw raglen waith gan y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.
(3) Os bydd aelod o bwyllgor trosolygu a chraffu yn gofyn am gopi o unrhyw ddogfen neu o unrhyw ran o ddogfen yn unol â pharagraffau (1) a (2) rhaid i'r swyddog priodol benderfynu a yw'r wybodaeth yn berthnasol fe y'i pennir ym mharagraffau (2)(a) a (b).
(4) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn caniatáu i aelod o bwyllgor trosolygu a chraffu ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol neu esempt heblaw'r hyn a all gael ei awdurdodi gan unrhyw ddeddfiad arall.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: