- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13.—(1) Rhaid i ddogfen y mae unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn cyfarwyddo iddi fod yn agored i'w harchwilio fod ar gael i'w harchwilio—
(a)ar bob adeg resymol ym mhrif swyddfeydd yr awdurdod lleol; a
(b)yn achos dogfennau sydd i fod ar gael i'w harchwilio yn unol â rheoliad 9, ar ôl i'r person sy'n ceisio archwilio'r dogfennau dalu unrhyw ffi resymol sy'n ofynnol gan yr awdurdod lleol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fydd dogfen yn agored i'w harchwilio gan berson o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, caiff y person—
(a)gwneud copi o'r ddogfen gyfan neu ran ohoni, neu
(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n gofalu am y ddogfen ddarparu i'r person sy'n gofyn am ei harchwilio gopi ffotograffig o'r ddogfen neu ddetholiadau ohoni,
ar ôl talu unrhyw ffi resymol sy'n ofynnol gan yr awdurdod lleol.
(3) Nid yw paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw weithred gael ei chyflawni nac yn awdurdodi cyflawni unrhyw weithred sy'n torri'r hawlfraint mewn unrhyw waith ac eithrio, pan yw perchennog yr hawlfraint yn awdurdod lleol, na fydd unrhyw beth a wneir yn unol â'r paragraff hwnnw yn gyfystyr â thorri'r hawlfraint.
(4) Pan fydd unrhyw ddogfen y mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddi fod yn agored i'r cyhoedd ei harchwilio—
(a)yn cael ei darparu i aelodau o'r cyhoedd, neu'n agored iddynt ei harchwilio, neu
(b)yn cael ei darparu er budd unrhyw bapur newydd, yn unol â rheoliad 5 neu 8,
bydd cyhoeddi drwy hynny unrhyw fater difenwol sydd wedi'i gynnwys yn y ddogfen yn freintiedig oni phrofir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud â malais.
(5) Rhaid i unrhyw gofnod ysgrifenedig o benderfyniad gweithrediaeth, neu unrhyw adroddiad y mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod ar gael i aelodau o'r cyhoedd ei archwilio, gael ei gadw gan yr awdurdod lleol a rhaid trefnu iddo fod ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd am gyfnod o chwe mlynedd o leiaf gan ddechrau ar y dyddiad y gwnaed y penderfyniad, y mae'r cofnod neu'r adroddiad yn ymwneud ag ef.
(6) Rhaid i unrhyw bapurau cefndir y mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fod ar gael i aelodau o'r cyhoedd eu harchwilio gael eu cadw gan yr awdurdod lleol a bod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am gyfnod o bedair blynedd o leiaf gan ddechrau ar y dyddiad y gwnaed y penderfyniad, y mae'r papurau cefndir yn ymwneud ag ef.
(7) Mae'r hawliau sy'n cael eu rhoi i unrhyw berson gan y Rheoliadau hyn i archwilio, copïo neu gael dogfennau yn ychwanegol at unrhyw hawliau o'r fath a all fod gan y person hwnnw ar wahân i'r rheoliad hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: