- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4.—(1) Rhaid i gyfarfod fod yn agored i'r cyhoedd ac eithrio i'r graddau y mae'r cyhoedd yn cael eu gwahardd (boed hynny yn ystod y cyfan neu ran o'r trafodion) o dan baragraff (2) neu drwy benderfyniad o dan baragraff (3) (gan gynnwys y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gan baragraff (4)).
(2) Rhaid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod yn ystod eitem fusnes pa bryd bynnag y mae'n debyg, gyda golwg ar natur y busnes sydd i'w drafod neu natur y trafodion, pe bai aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn ystod yr eitem honno, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu iddynt gan dorri'r rhwymedigaeth cyfrinachedd; a rhaid peidio â chymryd bod unrhyw beth yn y Rheoliadau hyn yn awdurdodi datgelu gwybodaeth gyfrinachol gan dorri'r rhwymedigaeth cyfrinachedd neu ei gwneud yn ofynnol i'w datgelu.
(3) Gall gweithrediaeth awdurdod lleol basio cynnig i wahardd y cyhoedd o un o gyfarfodydd y weithrediaeth yn ystod eitem fusnes pa bryd bynnag y mae'n debyg, gyda golwg ar natur y busnes sydd i'w drafod neu natur y trafodion, pe bai aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn ystod yr eitem honno, y byddai gwybodaeth esempt yn cael ei datgelu iddynt.
(4) Bydd paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â phwyllgor gweithrediaeth awdurdod lleol a chyfarfod y pwyllgor hwnnw yn yr un modd ag y mae'n gymwys mewn perthynas â gweithrediaeth awdurdod lleol a chyfarfod y weithrediaeth.
(5) Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (3) (gan gynnwys y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gan baragraff (4))—
(a)nodi'r trafodion, neu'r rhan o'r trafodion, y mae'n gymwys iddynt, a
(b)datgan, trwy gyfeirio at y disgrifiadau yn Atodlen 12A i Ddeddf 1972(1), y disgrifiad o wybodaeth esempt sydd wedi arwain at wahardd y cyhoedd.
(6) Bydd y darpariaethau canlynol yn gymwys i gyfarfod cyhoeddus—
(a)rhaid rhoi hysbysiad cyhoeddus o amser y cyfarfod a'r man cyfarfod—
(i)drwy ei bostio ym mhrif swyddfeydd yr awdurdod o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod; neu
(ii)pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach drwy ei bostio ym mhrif swyddfeydd yr awdurdod adeg cynnull y cyfarfod; a
(b)tra bydd y cyfarfod yn agored i'r cyhoedd—
(i)ni fydd gan y weithrediaeth neu, yn ôl fel y digwydd, y pwyllgor, bŵ er i wahardd aelodau o'r cyhoedd o'r cyfarfod; a
(ii)cyn belled ag y bo'n ymarferol, rhaid darparu cyfleusterau rhesymol i gynrychiolwyr papurau newydd sydd wedi'u hachredu'n briodol ac sy'n mynychu'r cyfarfod er mwyn rhoi adroddiad am y trafodion i'r papurau newydd hynny wneud eu hadroddiad ac, oni bai bod y cyfarfod yn cael ei gynnal mewn adeiladau nad ydynt yn perthyn i'r awdurdod neu nad ydynt ar y ffôn, i ffonio'r adroddiad ar eu traul eu hunain.
(7) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i weithrediaeth neu bwyllgor ganiatáu i ffotograffau gael eu cymryd o unrhyw drafodion, na bod unrhyw fodd yn cael ei ddefnyddio i alluogi personau nad ydynt yn bresennol i weld neu glywed unrhyw drafodion (boed hynny ar y pryd neu'n ddiweddarach), na bod unrhyw adroddiad llafar yn cael ei wneud ar unrhyw drafodion wrth iddynt ddigwydd.
(8) Nid yw'r rheoliad hwn yn rhagfarnu unrhyw bŵ er gwahardd i roi terfyn ar ymddygiad afreolus neu gamymddygiad arall mewn cyfarfod neu i'w atal.
Mewnosodwyd Atodlen 12A gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cyfle i Weld Gwybodaeth) 1985 (p.43).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: