RHAN IICANIATÅD I FYND I GYFARFODYDD GWEITHREDIAETHAU AWDURDODAU LLEOL A'U PWYLLGORAU A DARPARIAETHAU MEWN CYSYLLTIAD Å PHENDERFYNIADAU GWEITHREDIAETH

Cofnodi penderfyniadau gweithrediaeth sy'n cael eu gwneud gan unigolionI17

1

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i aelod unigol wneud unrhyw benderfyniad gweithrediaeth, rhaid i'r aelod hwnnw gyfarwyddo'r swyddog priodol i lunio datganiad ysgrifenedig am y penderfyniad gweithrediaeth hwnnw sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (4).

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i unrhyw benderfyniad gweithrediaeth sy'n cael ei wneud gan aelod unigol beidio â chael ei weithredu nes bod datganiad ysgrifenedig wedi'i lunio yn unol â pharagraff (1).

3

Pan fydd y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid gweithredu penderfyniad gweithrediaeth yn peri bod cydymffurfio â pharagraff (2) yn anymarferol, dim ond pan fydd y penderfynwr wedi cael cytundeb un o'r canlynol, sef—

a

cadeirydd y pwyllgor craffu perthnasol; neu

b

os nad oes unrhyw berson o'r fath, neu os nad yw'r person hwnnw yn gallu gweithredu, cadeirydd yr awdurdod lleol perthnasol; neu

c

os nad oes unrhyw gadeirydd ar gyfer y pwyllgor craffu perthnasol na'r awdurdod lleol perthnasol, is-gadeirydd yr awdurdod lleol perthnasol;bod gwneud y penderfyniad yn fater o frys ac nad oes modd ei ohirio'n rhesymol, y mae rhaid gweithredu'r penderfyniad.

4

Rhaid i'r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys—

a

cofnod o'r penderfyniad, gan gynnwys dyddiad ei wneud;

b

cofnod o'r rhesymau dros y penderfyniad;

c

cofnod o unrhyw fuddiant sy'n cael ei ddatgan gan unrhyw aelod o'r weithrediaeth y mae'r aelod yn ymgynghori ag ef, mewn perthynas â'r penderfyniad ac o unrhyw fuddiant sy'n cael ei ddatgan gan unrhyw aelod o'r weithrediaeth a fuasai'n benderfynwr oni bai am y datganiad buddiant hwnnw;

ch

mewn perthynas ag unrhyw fuddiant sy'n cael ei ddatgan, nodyn o unrhyw ollyngiad a ganiatawyd gan bwyllgor safonau'r awdurdod lleol;

d

manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd yn unol â rheolau sefydlog a chyfansoddiad yr awdurdod lleol a phan nad oes unrhyw ymgynghoriad o'r fath wedi bod, y rhesymau dros hynny; ac

dd

cofnod o unrhyw resymau am y brys a arweiniodd at weithredu'r penderfyniad cyn paratoi'r datganiad.

5

Penderfyniadau rhagnodedig yw penderfyniadau gweithrediaeth sy'n cael eu gwneud gan aelodau unigol o weithrediaethau awdurdodau lleol at ddibenion adran 22(4) o Ddeddf 2000 (dyletswydd i gadw cofnod ysgrifenedig o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan aelodau unigol o weithrediaethau awdurdod lleol).