Search Legislation

Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod

2.—(1Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.

(2Nid yw swyddogaethau—

(a)gosod unrhyw amod, terfyn neu gyfyngiad arall ar gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir—

(i)wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1; neu

(ii)heblaw am weithrediaeth i'r awdurdod, wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Ddeddf leol; a

(b)penderfynu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath, yn ddarostyngedig iddynt,

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(3Nid yw swyddogaeth penderfynu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi—

(a)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio â chymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir fel y'i crybwyllir ym mharagraff (2)(a);

(b)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio ag amod, cyfyngiad, teler y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt, neu

(c)yn erbyn unrhyw doriad arall mewn perthynas â mater na fyddai'r swyddogaeth o benderfynu ar gais am gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod mewn perthynas ag ef,

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(4Nid yw swyddogaeth—

(a)diwygio, addasu neu amrywio unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a grybwyllir ym mharagraff (2), nac unrhyw amod, terfyn, cyfyngiad neu deler y mae'n ddarostyngedig iddynt; neu

(b)diddymu unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad,

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(5Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun a awdurdodir neu a fynnir gan reoliadau o dan adran 18 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1), neu swyddogaeth diwygio, diddymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(6Nid yw swyddogaethau penderfynu—

(a)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy—

(i)o dan is-adran (5) o adran 3 (treuliau cadeirydd) o Ddeddf 1972;

(ii)o dan is-adran (4) o adran 5 (treuliau is-gadeirydd) o'r Ddeddf honno;

(iii)o dan is-adran (4) o adran 173 (lwfans colled ariannol) o'r Ddeddf honno(2);

(iv)o dan adran 175 (lwfansau ar gyfer mynychu cynadleddau a chyfarfodydd) o'r Ddeddf honno;

(b)yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth) o'r Ddeddf honno;

(c)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodrath Leol a Thai 1989, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau ar gyfer unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;

(ch)a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw eu rhoi yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod; a

(d)pan gaiff tâl ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl,

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(7Ni fydd adran 101 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).

(8Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 20 (gweithredu swyddogaethau ar y cyd) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, nid yw swyddogaeth—

(a)gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan bwyllgor neu swyddog o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972, a

(b)gwneud penodiadau o dan adran 102 (penodi pwyllgorau) o Ddeddf 1972,

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(9Oni ddarperir fel arall gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol a all, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) gael ei gyflawni gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(10Ym mharagraffau (1) a (9), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad a gynhwysir mewn Deddf leol neu mewn is-ddeddfwriaeth .

(1)

1989 p.42. Diwygiwyd adran 18 gan adran 99(3) i (9) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

(2)

Diwygiwyd adran 173(4) gan Ddeddf Llywodraeth Lleol a Thai 1989 (p.42), Atodlen 11, paragraff 26. Gwnaed eithriad perthnasol gan erthygl 3(2) o Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cychwyn Rhif 11 ac Eithriadau) 1991 (OS 1991/344).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources