2001 Rhif 2496 (Cy. 200)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 4(1), 4(2)(d), 4(3), 14(3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 20002

Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 20003 yn cael eu diwygio—

a

drwy fewnosod y canlynol ar ôl “Atodlen 1” ar ddiwedd rheoliad 6(1):

am unrhyw gyfnod (os o gwbl) a bennir yn yr Atodlen honno

b

drwy fewnosod y paragraffau canlynol ar ôl paragraff 22 o Atodlen 1 :

22A

Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd mewn grym am y tro, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.

22B

Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr, am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y rhoddwyd y cerydd.

c

drwy fewnosod y paragraffau canlynol ar ôl paragraff 13 o Atodlen 2:

13A

Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd am y tro mewn grym, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.

13B

Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr ac a gofndowyd ar y gofrestr.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 4.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000.

Maent yn gwneud darpariaethau i'r Gofrestr o athrawon ac athrawesau sy'n cael ei chadw gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gofnodi telerau gorchmynion disgyblu sy'n cael eu gwneud gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr. Mae'r ceryddon sy'n cael eu rhoi gan y naill neu'r llall o'r Cynghorau hyn i aros ar y Gofrestr am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y mae'r cerydd yn cael ei roi.

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth hefyd i'r wybodaeth hon gael ei throsglwyddo i gyflogwyr ar gais.