2. Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000(1) yn cael eu diwygio—
(a)drwy fewnosod y canlynol ar ôl “Atodlen 1” ar ddiwedd rheoliad 6(1):
“am unrhyw gyfnod (os o gwbl) a bennir yn yr Atodlen honno”;
(b)drwy fewnosod y paragraffau canlynol ar ôl paragraff 22 o Atodlen 1 :
“22A. Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd mewn grym am y tro, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.
22B. Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr, am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y rhoddwyd y cerydd.”; a
(c)drwy fewnosod y paragraffau canlynol ar ôl paragraff 13 o Atodlen 2:
“13A. Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd am y tro mewn grym, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.
13B. Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr ac a gofndowyd ar y gofrestr.”