- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
5 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym
1 Awst 2001
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 4(1), 4(2)(d), 4(3), 14(3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
2. Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000(3) yn cael eu diwygio—
(a)drwy fewnosod y canlynol ar ôl “Atodlen 1” ar ddiwedd rheoliad 6(1):
“am unrhyw gyfnod (os o gwbl) a bennir yn yr Atodlen honno”;
(b)drwy fewnosod y paragraffau canlynol ar ôl paragraff 22 o Atodlen 1 :
“22A. Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd mewn grym am y tro, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.
22B. Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr, am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y rhoddwyd y cerydd.”; a
(c)drwy fewnosod y paragraffau canlynol ar ôl paragraff 13 o Atodlen 2:
“13A. Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd am y tro mewn grym, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.
13B. Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr ac a gofndowyd ar y gofrestr.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000.
Maent yn gwneud darpariaethau i'r Gofrestr o athrawon ac athrawesau sy'n cael ei chadw gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gofnodi telerau gorchmynion disgyblu sy'n cael eu gwneud gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr. Mae'r ceryddon sy'n cael eu rhoi gan y naill neu'r llall o'r Cynghorau hyn i aros ar y Gofrestr am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y mae'r cerydd yn cael ei roi.
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth hefyd i'r wybodaeth hon gael ei throsglwyddo i gyflogwyr ar gais.
1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: