Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2497 (Cy. 201)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2001

Wedi'i wneud

5 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

1 Awst 2001

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod o'r farn y gall Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, o ystyried eu hamcanion cyffredinol, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn ac ar ôl cyflawni unrhyw ymgynghori y mae'n ymddangos iddo ei fod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2001 a daw i rym ar 1 Awst 2001.

Diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000

2.  Mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000(3) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn erthygl 3(2), ar ôl “Gorchymyn hwn”, mewnosodir—

am unrhyw gyfnod (os o gwbl) a bennir yn y Rhan honno ac; a

(b)yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl paragraff 23, mewnosodir—

23A.  Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd am y tro mewn grym, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.

23B.  Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr, am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y rhoddwyd y cerydd..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis. Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000. Mae'n darparu ar gyfer cofnodi unrhyw orchmynion disgyblu sy'n cael eu gwneud yn erbyn athro neu athrawes gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr. Mae ceryddon sy'n cael eu rhoi gan y naill neu'r llall o'r Cynghorau i'w cofnodi yn erbyn enw'r athro neu'r athrawes am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad pan fydd y cerydd yn cael ei roi.

(1)

1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).