xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2500 (Cy.203)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

5 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

1 Awst 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 3(1) a (2) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2001. Bydd yn gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Awst 2001.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993

2.—(1Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993(3) wrth ei gymhwyso i Gymru yn unol â pharagraffau canlynol yr erthygl hon.

(2Disodlir erthygl 8(2) gan y canlynol—

(2) Without prejudice to article 6, there shall not be moved within a protected zone described in Part B of Schedule 4—

(a)any plant, plant product or other object originating within that zone which is specified opposite the reference to that zone and is of a description specified in item 1.6, 1.7 or 1.8 of Part AII of Schedule 5 unless that plant, plant product or other object.

(i)can reasonably be taken to be free from the plant pest in respect of which that zone has been recognised on the basis of a survey carried out under paragraph (1) above; and

(ii)is accompanied by a plant passport valid for that zone;

(b)any plant, plant product or other object originating within that zone which is specified opposite the reference to that zone and is of a description specified in any item of Part AII of Schedule 5 other than item 1.6, 1.7 or 1.8, unless that plant, plant product or other object has been the subject of a satisfactory plant health inspection at the place of production and is accompanied by a plant passport valid for that zone.

(3Disodlir erthygl 17(2), gan y canlynol—

(2) The authority to issue plant passports conferred on a business, individual or other organisation listed in the official register shall be conferred pursuant to—

(a)a satisfactory inspection by an inspector of the place of production, any part thereof or any other premises handling any plant, plant product or other object which may require a plant passport, as appropriate, for the purpose of ascertaining for the purposes of this Order the plant health status of such plants, plant products or other objects at the place of production, any part thereof or any other premises; or

(b)in the case of any plant, plant product or other object of a description specified in article 8(2)(a) which is intended to be moved within a protected zone, the satisfactory outcome of a survey carried out under article 8(1), showing that the plant, plant product or other object can reasonably be taken to be free from the plant pest in respect of which the zone was recognised.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“Gorchymyn 1993”) o'i gymhwyso at Gymru. Mae'n addasu'r gofynion sy'n gymwys i blanhigion penodol sy'n tarddu oddi fewn i barth gwarchod ac yn symud oddi fewn iddo, o fewn yr ystod a ganiateir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/51/EEC (O.J. L205, 17.8.93, t.24). Mae'r Gyfarwyddeb hon yn sefydlu rheolau dros symudiadau planhigion penodol, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill drwy barth gwarchod, a thros symudiadau'r cyfryw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill sy'n tarddu oddi fewn i barth gwarchod o'r fath ac yn symud oddi fewn iddo.

Dyma'r prif newidiadau a gyflwynir gan y Gorchymyn hwn, a ddaw i rym ar 1 Awst 2001—

(a)mae'n ofynnol i blanhigion penodol sy'n tarddu ac yn symud o fewn parthau gwarchod a bennwyd fod â phasbort i'w canlyn (erthygl 2(2));

(b)terfynir yr esemptiad rhag gofynion arbennig perthnasol sy'n gymwys i blanhigion penodol a bennir yn Rhan B o Atodlen 4 (erthygl 2(2));

(c)gellir rhoi awdurdod i gyhoeddi pasbortau planhigion i fusnesau, unigolion neu gyrff eraill ar sail arolwg boddhaol (erthygl 2(3)).

Mae'r angen am basport planhigion a osodir gan y Gorchymyn hwn yn gyson â chyfundrefn basport y Gymuned a weithredwyd yn y prif Orchymyn yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 77/93/EEC (ar ôl ei ddiwygio a'i atodi gan yr offerynnau a restrir yn Atodlen 16 i'r prif Orchymyn) (O.J. L26, 31.1.77, t.20).

(1)

1967 p.8; diwygiwyd adran 3(1) a (2) gan Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4.

(2)

Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaeth, Pysgoedfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yna trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).