- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Os bydd—
(a)ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn newid categori i ddod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir; neu
(b)fod ysgol arbennig sefydledig yn newid categori i ddod yn ysgol arbennig gymunedol,
bydd y contract cyflogaeth rhwng person y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo a'r corff llywodraethu yn effeithiol o'r dyddiad gweithredu ymlaen fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a'r awdurdod addysg lleol.
8. Heb ragfarnu paragraff 7—
(a)bydd holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r corff llywodraethu o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ar y dyddiad gweithredu yn rhinwedd y paragraff hwn; a
(b)bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r gweithiwr cyflogedig wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol neu mewn perthynas ag ef.
9. Yn ddarostyngedig i baragraff 10, bydd paragraff 7 yn gymwys i unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu i weithio yn yr ysgol o dan sylw.
10. Ni fydd paragraff 7 yn gymwys i unrhyw berson y mae ei gontract cyflogaeth yn dod i ben ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu.
11. At ddibenion paragraff 9 rhaid ymdrin â pherson a benodwyd cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu i weithio yn yr ysgol o'r dyddiad gweithredu ymlaen neu o ddyddiad ar ôl hynny fel petai'r person hwnnw wedi'i gyflogi gan y corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu i wneud y gwaith y byddai wedi bod yn ofynnol iddo ei wneud yn yr ysgol ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw o dan ei gontract cyflogaeth gyda'r corff llywodraethu.
12. Nid yw paragraffau 7 ac 8 yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan weithiwr cyflogedig i derfynu'r contract os bydd newid sylweddol yn cael ei wneud i'w amodau gwaith er anfantais i'r gweithiwr, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi dim ond am fod y Rheoliadau hyn yn peri bod yna newid cyflogwr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: