xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2TROSGLWYDDO STAFF

RHAN II

7.—(1Os bydd—

(a)ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn newid categori i ddod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir; neu

(b)fod ysgol arbennig sefydledig yn newid categori i ddod yn ysgol arbennig gymunedol,

bydd y contract cyflogaeth rhwng person y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo a'r corff llywodraethu yn effeithiol o'r dyddiad gweithredu ymlaen fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a'r awdurdod addysg lleol.

8.  Heb ragfarnu paragraff 7—

(a)bydd holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r corff llywodraethu o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ar y dyddiad gweithredu yn rhinwedd y paragraff hwn; a

(b)bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r gweithiwr cyflogedig wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol neu mewn perthynas ag ef.

9.  Yn ddarostyngedig i baragraff 10, bydd paragraff 7 yn gymwys i unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu i weithio yn yr ysgol o dan sylw.

10.  Ni fydd paragraff 7 yn gymwys i unrhyw berson y mae ei gontract cyflogaeth yn dod i ben ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu.

11.  At ddibenion paragraff 9 rhaid ymdrin â pherson a benodwyd cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu i weithio yn yr ysgol o'r dyddiad gweithredu ymlaen neu o ddyddiad ar ôl hynny fel petai'r person hwnnw wedi'i gyflogi gan y corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu i wneud y gwaith y byddai wedi bod yn ofynnol iddo ei wneud yn yr ysgol ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw o dan ei gontract cyflogaeth gyda'r corff llywodraethu.

12.  Nid yw paragraffau 7 ac 8 yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan weithiwr cyflogedig i derfynu'r contract os bydd newid sylweddol yn cael ei wneud i'w amodau gwaith er anfantais i'r gweithiwr, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi dim ond am fod y Rheoliadau hyn yn peri bod yna newid cyflogwr.