1.—(1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2001.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys pysgod, ymlusgiaid ac amffibiaid) sy'n cael ei fridio neu ei gadw ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân, croen neu ffwr neu ar gyfer dibenion ffermio eraill;
ystyr “cawell batri” (“battery cage”) yw gofod wedi'i amgáu a fwriadwyd ar gyfer ieir dodwy mewn system fatri;
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid neu â gofal ohonynt p'un ai ar sail dros dro neu barhaol;
ystyr “cod lles statudol” (“statutory welfare code”) yw cod sydd wedi'i gyhoeddi am y tro o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968;
ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw iâr lawndwf o'r rhywogaeth Gallus gallus a gedwir ar gyfer cynhyrchu wyau;
ystyr “llo” (“calf”) yw anifail buchol hyd at chwe mis oed;
ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o'r rhywogaeth fochaidd o unrhyw oedran, a gedwir ar gyfer ei fridio neu ei besgi;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 6 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968;
ystyr “system fatri” (“battery system”) yw trefniant o gewyll mewn rhesi neu mewn haenau neu mewn rhesi a haenau; ac
mae i “triniaeth söotechnegol” yr ystyr a roddir i “zootechnical treatment” gan Erthygl 1(2)(c) o Gyfarwyddeb 96/22/EEC(1) ynghylch gwahardd defnyddio sylweddau penodol sy'n cael effaith hormonaidd neu thyrostatig a beta-agonistiaid mewn ffermio stoc.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid ac eithrio —
(a)anifeiliaid sy'n byw yn y gwyllt;
(b)anifeiliaid tra byddant mewn cystadlaethau, sioeau, digwyddiadau neu weithgareddau diwylliannol neu chwaraeol ac anifeiliaid a fwriedir yn unig i gael eu defnyddio ynddynt;
(c)anifeiliaid arbrofol neu mewn labordai; neu
(ch)unrhyw anifeiliaid di-asgwrn-cefn.
(3) Bydd Rhan 1 o Atodlen 6 yn effeithiol at ddibenion dehongli Atodlen 6.
(4) Yn y Rheoliadau hyn —
(a)mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(b)mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(c)mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn digwydd; ac
(ch)mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar yr adeg y gwneir y Rheoliadau hyn.
3.—(1) Rhaid i berchenogion a cheidwaid anifeiliaid gymryd pob cam rhesymol —
(a)i sicrhau lles yr anifeiliaid o dan eu gofal; a
(b)i sicrhau na pherir unrhyw boen, dioddefaint nac anaf diangen i'r anifeiliaid.
(2) Rhaid i berchenogion a cheidwaid anifeiliaid (ac eithrio pysgod, ymlusgiaid ac amffibiaid) gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu bridio neu eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 1.
(3) Wrth benderfynu a yw'r amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu bridio neu eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 1, rhaid i berchennog a cheidwad yr anifeiliaid roi sylw i'w rhywogaeth, ac i radd eu datblygiad, eu haddasiad a'u dofiad, ac i'w hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol â phrofiad cynefin a gwybodaeth wyddonol.
4. Rhaid i berchenogion a cheidwaid ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 2.
5. Rhaid i berchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri) sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 3.
6. Rhaid i berchenogion a cheidwaid lloi a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 4.
7. Rhaid i berchenogion a cheidwaid gwartheg a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 5.
8. Rhaid i berchenogion a cheidwaid moch sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio —
(a)â'r gofynion a nodir yn Rhan II o Atodlen 6; a
(b)â'r gofynion a nodir yn Rhannau III, IV, V neu VI o Atodlen 6 (yn ôl fel y digwydd) sy'n gymwys i'r categori penodol o fochyn a gedwir.
9. Rhaid i berchenogion a cheidwaid cwningod sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 7.
10.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflogi person neu'n ei gymryd ymlaen i ofalu am anifeiliaid sicrhau bod y person sy'n gofalu am yr anifeiliaid —
(a)yn gydnabyddus â darpariaethau'r holl godau lles statudol perthnasol sy'n ymwneud â'r anifeiliaid y gofelir amdanynt;
(b)yn gallu cael gweld copi o'r codau hynny tra bydd yn gofalu am yr anifeiliaid; ac
(c)wedi cael hyfforddiant ac arweiniad ar y codau hynny.
(2) Ni chaiff unrhyw berson sy'n cadw anifeiliaid, neu sy'n peri neu'n fwriadol yn caniatáu i anifeiliaid gael eu cadw, ofalu amdanynt oni bydd yn gallu cael gweld yr holl godau lles statudol perthnasol sy'n ymwneud â'r anifeiliaid tra bydd yn gofalu amdanynt, ac yn gydnabyddus â darpariaethau'r codau hynny.
11. Os yw person awdurdodedig o'r farn bod anifeiliaid yn cael eu cadw mewn ffordd sy'n debygol o achosi poen, dioddefaint neu anaf diangen, neu mewn unrhyw ffordd arall yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, gall gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal yr anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw, o fewn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad, gymryd unrhyw gamau sydd ym marn y person awdurdodedig yn rhesymol angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn a rhaid i'r person awdurdodedig roi ei resymau dros fynnu'r camau hynny.
12. Caiff person awdurdodedig sy'n arfer pwerau mynediad o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(2) at ddibenion y Rheoliadau hyn fynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef neu hi sy'n gweithredu at ddibenion —
(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 88/166/EEC(3) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri;
(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 91/629/EEC(4) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn lloi fel y'i diwygiwyd gan y Gyfarwyddeb y Cyngor 97/2/EC(5)) a Phenderfyniad y Comisiwn 97/182/EC(6);
(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC(7)) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn moch; neu
(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC(8) ynghylch amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio;
yn ogystal ag unrhyw berson sy'n mynd gydag ef neu hi o dan y pwerau a ddarperir o dan adran 6(3) o'r Ddeddf honno.
13.—(1) Mae person sydd, heb awdurdod neu esgus cyfreithiol —
(a)yn torri neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn;
(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 11 o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad;
(c)yn cofnodi unrhyw eitem mewn cofnod, neu'n rhoi unrhyw wybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn y mae'n gwybod ei bod yn ffug mewn unrhyw fanylyn penodol neu sydd, at y dibenion hynny, yn gwneud datganiad yn ddi-hid neu'n rhoi gwybodaeth sy'n ffug mewn unrhyw fanylyn penodol; neu
(ch)yn peri neu'n caniatáu unrhyw un o'r uchod,
yn euog o dramgwydd o dan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968.
(2) Mewn unrhyw achos yn erbyn perchennog neu geidwad anifeiliaid am fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(1) neu 3(2) (fel y'u darllenir ynghyd â rheoliad 3(3)), gall y perchennog neu'r ceidwad, yn ôl fel y digwydd, ddibynnu ar y ffaith eu bod wedi cydymffurfio ag unrhyw argymhelliad perthnasol a gynhwysir mewn cod lles statudol fel pe bai'n tueddu i sefydlu eu bod wedi cydymffurfio â'r rheoliad perthnasol.
14. Drwy hyn diddymir Rheoliadau Lles Da Byw 1994(9) a Rheoliadau Lles Da Byw (Diwygio) 1998(10) mewn perthynas â Chymry yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)
D. Elis-Thomas
Llywydd
17 Gorffennaf 2001