Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001
Enwi a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru, a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru at bob diben.
Y darpariaethau sy'n dod i rym2.
(1)
Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2)
Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2002.
YR ATODLEN
RHAN IDarpariaethau sy'n dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2002
Adran 36.
Adran 113.
Adran 140 (1) a (2) a (4), (5) a (6) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 9 a bennir isod.
Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.
Atodlen 7.
Yn Atodlen 9 —
paragraff 1 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,
paragraff 67(3),
paragraff 82,
paragraff 84,
paragraff 90(5) a (6),
paragraff 91.
Yn Atodlen 11 diddymiadau'r canlynol i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru —
yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn Atodlen 7, ym mharagraff 13(4) y gair “and” yn union ar ôl paragraff (b) ac ym mharagraff 13(7) y gair “or” yn union ar ôl paragraff (a) ac yn Atodlen 22, ym mharagraff 5(1) y gair “or” yn union ar ôl paragraff (a)(i).
RHAN IIDarpariaethau sy'n dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Medi 2002
Adran 97.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002. Mae hefyd yn dod â'r darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym, a hynny ar 1 Medi 2002.
Esbonnir effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen isod.
Mae adran 36 yn rhoi pŵ er i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (“y Cyngor Cenedlaethol”) roi grantiau i awdurdod addysg lleol ar gyfer addysg a ddarperir gan ysgolion ar gyfer y rheiny sydd dros oedran ysgol gorfodol.
Mae adran 113 yn dod ag Atodlen 7 i rym, sy'n cynnwys pwerau a dyletswyddau sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech annigonol. Yn benodol, mae'n rhoi pŵ er i'r Cyngor Cenedlaethol gyhoeddi cynigion i gau darpariaeth chweched dosbarth a gynhelir yn dilyn dau adroddiad arolygu anffafriol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer gweithdrefn i ymdrin â gwrthwynebiadau y mae'n rhaid ei dilyn cyn y gellir gweithredu unrhyw gynigion o'r fath.
Mae adran 140 ((1)—(2) a (4) i(6)) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol mewn amgylchiadau penodol i drefnu ar gyfer asesiad i berson y cedwir datganiad o anghenion arbennig ar ei gyfer. Rhaid i'r asesiad gael ei wneud yn ystod blwyddyn olaf orfodol y person hwnnw yn yr ysgol.
Mae Atodlenni 9 ac 11 yn eu trefn yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Esbonnir effaith y ddarpariaeth a bennir yn Rhan II o'r Atodlen isod.
Mae adran 97 yn gymwys i sefydliad neu gyflogwr, sy'n darparu cyrsiau ar gyfer y rhai 19 oed a throsodd, ac a ariennir gan awdurdod addysg lleol neu'r Cyngor Cenedlaethol. Mae'n gosod sefydliad neu gyflogwr o'r fath o dan ddyletswydd i beidio â gwneud unrhyw daliad mewn perthynas â chymhwyster allanol onid yw'r cymhwyster hwnnw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd neu deuir â'r darpariaethau canlynol yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 i rym, mewn perthynas â Chymru, gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif yr O.S. |
---|---|---|
Adrannau 104, 105, 107 a 108 | 3 Awst 2000 | |
Adran 94 ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 87 o Atodlen 9. Yn atodlen 9, paragraff 87. | 1 Medi 2000 | |
Adrannau 30, 47, 49 a 51, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod. Atodlen 4. Yn Atodlen 9, paragraffau 3, 4 a 93. | 19 Medi 2000 | |
Adrannau 134—136 a 146, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 14 o Atodlen 9. Yn Atodlen 9, paragraff 14. | 1 Hydref 2000 | |
Adrannau 42, 43, 44, 46, 48, 73, 87, 93, 95, 139, 141 a 145. Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 11 y cyfeirir atynt isod. Atodlen 5. Yn Atodlen 9, paragraffau 21(b), 34, 36, 44(3) a (4), 45, 64, 70, 81, 86 a 92. Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol —
| 1 Ionawr 2001 | |
Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a bennir isod. Adran 151 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r ddarpariaeth yn Atodlen 10 a bennir isod. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 11 y cyfeirir atynt isod. Yn Atodlen 9, paragraffau 11, 35, 37, 38, 39, 41— 43, 47—50, 52(3), 83 ac 88. Yn Atodlen 10, Rhan IV. Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol —
| 1 Ebrill 2001 | |
Adrannau 31—35, 37— 41, 45, 50, 74—86, 88, 91, 99. Adran 103(1), (2) a (3) i'r graddau y mae angen hynny at ddibenion adran 103(4)(b). Adrannau 103(4), 110—112, 123—129, 137, 138, 140(3). Adran 140(4), (5) a (6) i'r graddau y mae eu hangen at ddibenion adran 140(3). Adrannau 142—144. Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a bennir isod. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod. Yn Atodlen 9, paragraffau 5—10, 12, 13, 15— 17, 20, 21(a), 22—30, 32, 33, 40, 44(1) a (2), 46, 51, 52(1) a (2), 53—56, 59, 65, 66, 67 (5), 68, 72—74. Paragraff 75(a) a (b), ac (c) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 34 o Ddeddf Medrau a Dysgu 2000. Paragraffau 76—80 a 94. Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol —
| 1 Ebrill 2001 | |
Adrannau 96, 100(2), 102, 103(5) a 148. 1Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 57 o Atodlen 9. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod. Yn Atodlen 9, paragraff 57. Yn Atodlen 11, y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol —
| 1 Medi 2001 |